Newyddion a Digwyddiadau

11 May 2021

Enillwyr Gwobr Dewi Sant

SBRI

Ynghyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mae Canolfan Ragoriaeth SBRI wedi ennill gwobr genedlaethol barchus am y gwaith sydd wedi ei wneud ar y prosiect glanweithdra cyflym.

Cyflwynwyd y wobr am Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Seremoni Wobrwyo Dewi Sant 2021 gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mewn seremoni ar-lein ar 24 Mawrth a dywedodd “Er gwaethaf yr heriau’r ydym wedi eu hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf, mae’r wobr yn cydnabod sut mae arloesedd wedi ein helpu i fodloni’r heriau hynny.”

Jonathan Turnbull-Ross, o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a dderbyniodd y wobr ar ran y WAST a SBRI a dywedodd: “Gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ragoriaeth SBRI, Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, mae’r fenter gyflym hon gan SBRI wedi ymateb i’r her ac mae’n enghraifft o sut y gallwn ddarparu arloesedd yn gyflym.”

Ychwanegodd Lynda Jones, Rheolwr Canolfan SBRI: “Mae’r Tîm SBRI yn falch iawn a breintiedig i dderbyn y wobr am y prosiect ambiwlans”.

Hoffem ddiolch i’r Tîm yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru a weithiodd gyda ni yn ystod y cyfnod prysur hwn a hefyd i’r rhanddeiliaid yn adrannau Arloesedd ac Iechyd Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – ni allem fod wedi gwneud hyn hebddynt.

Gallwch weld y seremoni wobrwyo lawn yma. (Gallwch ein gweld ni ar 1 awr 10 munud)

Llun: Lynda Jones, Rheolwr Canolfan Ragoriaeth SBRI a Jonathan Turnbull-Ross, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Llywodraethu Ansawdd, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.