Ein Gwasanaethau

Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI yn cynnig gwasanaethau ychwanegol unigryw i’ch helpu chi drwy broses SBRI, boed ydych chi’n Sector Cyhoeddus neu’n Ddiwydiant.

Digwyddiadau Anghenion heb eu Diwallu:

Gall ein tîm cyfeillgar ddod i siarad â chi am yr heriau rydych chi fel gwasanaeth yn eu hwynebu a sut mae hyn yn effeithio ar eich cwsmeriaid / rhanddeiliaid. Gallwn weithio gyda chi’n unigol neu fel grwp mwy, wyneb yn wyneb neu o bell. Gallwn eich cysylltu chi ag unigolion o’r un anian ar draws y sector cyhoeddus sydd hefyd yn wynebu problemau tebyg yn yr un maes.

Y Broses Ymgeisio:

Gallwn eich helpu chi i ysgrifennu eich ffurflen gais a’ch helpu drwy’r broses. Mae gennym brofiad o ysgrifennu cynigion llwyddiannus i SBRI a gallwn eich helpu i fframio eich her, gan roi awgrymiadau a syniadau i chi. Hefyd, gallwn fod yn ffrind beirniadol ac adolygu eich cais ar ôl i chi ei gwblhau a rhoi adborth adeiladol cyn i chi ei gyflwyno’n derfynol.

Ar gyfer busnesau, gallwn eich helpu yn ystod y broses ymgeisio ond byddwn yn rhoi adborth adeiladol i chi ar eich ceisiadau os na fyddwch yn llwyddiannus er mwyn helpu i roi gwell siawns i chi lwyddo yn y dyfodol.

Rheoli Prosiect:

Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod sefydliadau a thimau’r Sector Cyhoeddus yn brysur iawn yn ystod y dydd. Mae gennym brofiad o ddarparu prosiectau SBRI ac rydyn ni’n gallu rheoli’r prosiectau hyn ar eich cyfer chi am ddim os bydd angen.

Mentora:

Ar gyfer y rheini ohonoch a fyddai’n hoffi rheoli eich prosiect SBRI eich hun, gallwn roi cymorth mentora i’ch helpu chi drwy’r broses, gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch chi. Mae gennym becyn offer a chyfres o ddogfennau y gallwn eu rhannu â chi a gallwch deilwra’r rhain i gyd-fynd â’ch prosiect a’ch sefydliad chi.

Hyfforddiant Cymhwyso:

Rydyn ni’n cynnig cymwysterau Rheoli Prosiectau fel PRINCE 2 ac Agile. I gael rhagor o wybodaeth am y gyfres lawn o gyrsiau, cysylltwch â’r tîm.

Cyfeirio:

Os na allwn eich helpu chi gyda’ch her, gan nad yw’n rhan o Raglen SBRI, byddwn yn ceisio eich cyfeirio at dimau arloesi eraill a’n sefydliadau partner a allai eich helpu.