Newyddion a Digwyddiadau

05 July 2024

Arddangosfa Sbotolau Gogledd Cymru Canolfan Ragoriaeth SBRI

Cynhaliodd Canolfan SBRI ddigwyddiad Sbotolau Gogledd Cymru yn M-SParc ym mis Mehefin, gan ganolbwyntio ar arloesedd a arweinir gan her, pan ddaeth arloeswyr a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus ynghyd i dynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd yn y gorffennol ac ar ddyfodol y rhaglen. Roedd y digwyddiad yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithio wrth yrru arloesedd, gan danio brwdfrydedd ac optimistiaeth y rhai a fynychodd.

Gwelwyd siaradwyr allweddol o Ganolfan SBRI, Llywodraeth Cymru, Innovate UK, y byd academaidd a phartneriaid her yn y digwyddiad.

Dywedodd Roger Rowett, Prif Weithredwr Here2There Ltd, am yr her ‘Gwell Bywydau, Yn Agosach at Adref’, “Yn sicr nid arian yn unig oedd y peth pwysig, roedd y gefnogaeth a gawsom yn wych. Gwych hefyd oedd cael trydydd parti gwrthrychol a gwybodus i ddilysu ein syniad.”