Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://sbriwales.co.uk.

SBRI COR sy’n rhedeg y wefan hon. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni wnaiff y testun ail-lifo mewn colofn sengl wrth newid maint ffenestr y porwr
  • nid oes modd addasu uchder llinell neu fwlch rhwng testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes penawdau ar ffrydiau fideo byw
  • mae’n anodd defnyddio dim ond y bysellfwrdd i symud o amgylch rhai o’n ffurflenni ar-lein
  • allwch chi ddim neidio i’r prif gynnwys os ydych chi’n defnyddio rhaglen darllen sgrin
  • dim ond hyn a hyn y gallwch chi chwyddo’r map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

E-bost: SBRI.COE@wales.nhs.uk

Ffôn: 03000 850297

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 10 diwrnod.

Os nad ydych yn gallu gweld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, anfonwch e-bost atom neu codwch y ffôn i gael cyfarwyddiadau.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd sy’n ymwneud â’r wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: Tîm SBRI trwy e-bostio SBRI.COE@wales.nhs.uk.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni

Sut mae cysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae SBRI COR wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfedd

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llwyr â safon Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.

PDFs a dogfennau eraill

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd rydym yn eu cyhoeddi yn diwallu safonau hygyrchedd.

Fideos byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideos byw wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.

Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 26/03/2021. Adolygwyd ddiwethaf ar 26/03/2021.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 26/03/2021. Cynhaliwyd y prawf gan Celf Creative.