Yr hyn rydyn ni’n ei wneud

Beth ydy SBRI?

Mae Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) yn ariannu proses Ymchwil a Datblygu atebion newydd cyffrous i fynd i’r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu ym maes iechyd, lle nad oes ateb parod ar gael yn y farchnad.

rydyn ni’n canolbwyntio ar drawsnewid ac arloesi…

Cymru Iachach: ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol 2019

Beth allwn ni ei wneud i chi

Rydyn ni’n gweithio gyda Chyrff yn y Sector Cyhoeddus i nodi a datrys heriau ym maes iechyd. Byddwn yn dod i siarad â chi mewn ffordd gyfeillgar a chyfrinachol i drafod yr heriau rydych yn eu hwynebu.

Byddwn yn eich helpu gyda’r broses ymgeisio a’r broses i sicrhau cyllid SBRI, gyda chefnogaeth a chymorth parhaus drwy gydol y broses.

Dyma’r gwasanaethau eraill rydyn ni’n eu darparu: Rheoli Prosiectau, Mentora, Hyfforddiant a Chymorth i Ysgrifennu Cynigion.

circle-2

Manteision i’r sector cyhoeddus

  • Cyllid i ddatrys eich heriau ym maes iechyd.
  • Cydweithio ag unigolion a busnesau o’r un anian.
  • Datblygu atebion arloesol gyda busnesau.
  • Y potensial i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
  • Cymorth rheoli prosiect am ddim gan dîm cyflawni profiadol.

Manteision i gleifion

  • Gallu rhoi adborth i’r sector cyhoeddus am yr heriau maent yn eu hwynebu.
  • Cael rhywun yn gwrando arnoch chi.
  • Cyd-gynhyrchu atebion arloesol i wella profiad cleifion.
  • Gwella ansawdd y gofal a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig.

Manteision i’r Diwydiant

  • Dyma gyfle unigryw i fusnesau a’r byd academaidd ddatblygu a chyflwyno syniadau ac atebion arloesol i’r Sector Cyhoeddus.
  • Cael ei ariannu’n llawn gyda llwybr posibl i’r farchnad.
  • Bydd y busnesau’n cadw’r Eiddo Deallusol.

Dyma nodau’r gwasanaeth:

GWELLA IECHYD A LLESIANT
RWYDWAITH CENEDLAETHOL CYDWEITHREDOL
CYNNYRCH NEWYDD AC ATEBION GWASANAETH
FYND I’R AFAEL Â HERIAU AC ANGHENION GOFAL IECHYD

Manteision eraill Rhaglen SBRI

Darparu manteision sylweddol o ran iechyd a llesiant i gleifion a’u teuluoedd sy’n byw yng Nghymru drwy ddatblygu technolegau arloesol drwy raglen SBRI.

Cydweithio gyda phobl a chymunedau i ddefnyddio dull cydgysylltiedig i atal a datrys problemau, gan leihau’r galw ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau a thrawsnewid modelau presennol iechyd a gofal cymdeithasol.

Helpu i roi hwb i’r economi drwy ymgysylltu â chwmnïau arloesol i droi eu syniadau yn gynnyrch masnachol hyfyw. Mae hyn yn debygol o greu a diogelu swyddi.

Denu ymchwil a datblygiad newydd sylweddol i Gymru.

Cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru drwy ysgogi arloesedd a thechnoleg i ddatrys heriau sydd wedi’u nodi ym maes iechyd ledled Cymru.

Meithrin sgiliau a datblygu pobl Cymru.


Cwrdd â’r Tîm

Rydyn ni’n dîm brwdfrydig sydd â phrofiad o reoli a chyflawni prosiectau llwyddiannus SBRI. Ein nod yw gweithio ledled Cymru i wella iechyd a llesiant y bobl, gan ddatrys yr heriau sy’n wynebu ein cydweithwyr yn y sector cyhoeddus. Rydyn ni’n dîm cyfeillgar ac agos atoch chi felly cysylltwch â ni.

Photo of Lynda Jones Lynda Jones
Pennaeth Arloesi y Sgil Her
Sharon Smith
Dirprwy Bennaeth Arloesi Dan Arweiniad Her
Photo of Alison Smith Alison Smith
Dadansoddwr Busnes Arloesi
Photo of Kiran Jagpal Kiran Jagpal
Rheolwr Prosiect
Faye Williams
Rheolwr Prosiect
Dr. Phil Coles
Prif Arweinydd Arloesi Clinigol
Joy Browning
Rheolwr Partneriaeth
Senthil Muthukumar
Rheolwr Prosiect
Kate Williams
Rheolwr Rhaglen SBRI
Anya Palmer
Swyddog Cefnogi'r Ganolfan