Newyddion a Digwyddiadau

16 March 2021

Rydym wedi cael ein henwebu am Wobr Dewi Sant!

The team at Swansea University, one of the finalists
Mae SBRI a WAST wedi cael eu henwebu am wobr genedlaethol arobryn am eu gwaith ar y Prosiect Diheintio Cyflym.

Rydym yn hynod falch o rannu’r newyddion ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ynghyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am wobr Dewi Sant yng nghategori Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg am y gwaith a wnaed ar Brosiect SBRI Diheintio Ambiwlansys yn Gyflym.

https://gov.wales/st-david-awards/sbri-wast

Hwn oedd y SBRI cyflym cyntaf o’i fath yn y DU ac rydym wrth ein boddau gyda llwyddiant y Prosiect. Pleser o’r mwyaf oedd i ni allu helpu i amddiffyn pobl ar y rheng flaen yn ystod pandemig COVID-19 ac i ddefnyddio’r broses SBRI lle bo gan bobl yr angen mwyaf amdano.

Cafodd Lynda Jones, Rheolwr Canolfan SBRI, a Jonathan Turnbull-Ross o Wasanaeth Ambiwlans Cymru eu ffilmio ddoe i baratoi ar gyfer y seremoni wobrwyo rithiol a gaiff ei chynnal ar 24 Mawrth 2021. Byddwn wrth reswm yn eich diweddaru ynghylch canlyniad y gwobrau!

Cliciwch yma i ddarllen yr hyn a oedd gan ein partneriaid yn WAST i’w ddweud am yr enwebiad.

https://www.ambulance.wales.nhs.uk/Default.aspx?gcid=1753&lan=en