Newyddion a Digwyddiadau

09 March 2021

Diweddariad Her Bywydau Gwell

Lansiodd Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan Ragoriaeth SBRI a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, yr Her Bywydau Gwell, Agosach at y Cartref ym mis Tachwedd 2021, gyda chyfanswm o £250k o gyllid ar gael.

Roedd yn alwad i Fusnesau a’r Byd Academaidd yn gofyn iddynt am ddatrysiad i helpu i ddatblygu datrysiadau arloesol ar gyfer busnes, cymunedau a’r sector cyhoeddus yr oedd Covid-19 a thu hwnt yn effeithio arnynt.

Rhannwyd yr her yn dair thema; Adeiladu’n Ôl yn Wyrdd, Cynaliadwyedd a Diogelwch Cadwyni Cyflenwi a Chefnogi Lles Meddwl a Chorfforol pob Cenhedlaeth.

Cawsom ymateb anhygoel a thrwy broses werthuso, dewiswyd 5 prosiect a chawsant gyllideb yn Rhagfyr 2020, gyda gwaith y prosiect i fynd rhagddo ym mis Ionawr 2021, i’w gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2021.

Mae’r 5 prosiect yn arloesol ac yn amrywiol eu natur ac fe’u dewiswyd gan fod eu datrysiadau’n dangos potensial cyffrous i gael effaith fawr, i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan SBRI bellach yn gweithio’n agos gyda’r busnesau a gallwn adrodd bod gwaith diddorol iawn yn digwydd.  Maent yn cydweithio gyda rhanddeiliaid allweddol a defnyddwyr i ddatblygu eu datrysiadau a’u gwireddu. 

Edrychwn ymlaen at ddatgelu mwy o wybodaeth a dangos y gwaith yn cael ei wneud, yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ewch ar ein cyfrif Twitter @SBRICOE i weld y diweddariadau.