Newyddion a Digwyddiadau
09 March 2021Diweddariad Her Masg Wyneb
Mae’r Ganolfan SBRI wedi cael ymateb arbennig i’n Her Masg Wyneb. Mae’r ceisiadau wir wedi tynnu sylw at natur arloesol a newidiol busnes a’r byd academaidd yn y frwydr yn erbyn Covid-19. Mae’r her eisiau gwella ffit masgiau, i’r holl siapiau a meintiau wyneb gwahanol ein staff clinigol, gan obeithio gwella’r profiad i gleifion a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd hefyd. Bydd y dyluniadau masg wyneb arloesol newydd o safon uchel (FFP3) i sicrhau diogelwch ein staff a’n cleifion.
Mae’r prosiect ar y cyd â Llywodraeth Cymru a GIG Cymru bellach wedi cau ar gyfer derbyn ceisiadau ac rydym yn falch o gyhoeddi bod 6 cyflenwr wedi cael cytundeb i ddatblygu a siapio eu datrysiadau cyffroes.
Rydym yn edrych ymlaen at greu’r datrysiadau hyn ar y cyd dros y misoedd nesaf. Cadwch lygaid allan am ein diweddariadau a dilynwch ni ar Twitter @SBRICOE