Newyddion a Digwyddiadau

18 February 2022

Bywydau Gwell yn Nes at y Cartref: diweddariad!

Mae Cam 2 y Prosiect Bywydau Gwell yn Nes y Cartref bellach wedi cychwyn ers tro.

Mae cryn dipyn o amser wedi mynd heibio ers ein diweddariad diwethaf ar y prosiect Bywydau Gwell yn Nes at y Cartref! Mae Cam 2 wedi cychwyn ers tro â thri chontract wedi’u dyfarnu. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda ac mae rhai atebion cyffrous yn cael eu datblygu

Here2There.me ar restr fer am wobr

Cymdeithas Seicolegwyr Busnes

https://theabp.org.uk/abp-awards-and-conference/finalists/#1636983476890-7d3becb5-07a4

Mae un o’r cyflenwyr llwyddiannus, Here2There.me, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr ABP am Ragoriaeth mewn Arloesedd am eu hateb sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o’r Prosiect Bywydau Gwell.

Cynhelir y seremoni wobrwyo yn Llundain ar 24 Mawrth ac rydym yn gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni i ddymuno pob lwc iddynt!

Exhibit C

Trowch i Dudalen 98 yn rhifyn Newid Hinsawdd o gylchgrawn Advances i ddarllen popeth am Exhibit C, offeryn digidol sy’n ceisio rhoi gwerth ariannol ar arbedion carbon, sy’n cael ei ddatblygu gan Miller Research a Big Lemon fel rhan o’r Prosiect Bywydau Gwell yn Nes at y Cartref. Mae’n wych gweld y diddordeb yn cynyddu yn yr ateb cyffrous hwn.

https://businesswales.gov.wales/innovation/sites/innovation/files/documents/Issue 98.pdf

Near Me Now

Mae Near Me Now wedi bod yn brysur iawn yn datblygu eu platfform ecosystem tref unigryw gan ddarparu rhyngweithio deinamig o fewn y trefi, Awdurdodau Lleol a defnyddwyr. Mae gweithdai wedi bod yn cael eu cynnal gyda busnesau annibynnol ac Awdurdodau Lleol ac mae llawer o gyffro ynghylch y prosiect hwn.