Beth ydy SBRI?
Mae Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) yn ariannu proses Ymchwil a Datblygu atebion newydd cyffrous i fynd i’r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu ym maes iechyd, lle nad oes ateb parod ar gael yn y farchnad.
rydyn ni’n canolbwyntio ar drawsnewid ac arloesi…
Cymru Iachach: ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol 2019
Beth allwn ni ei wneud i chi
Rydyn ni’n gweithio gyda Chyrff yn y Sector Cyhoeddus i nodi a datrys heriau ym maes iechyd. Byddwn yn dod i siarad â chi mewn ffordd gyfeillgar a chyfrinachol i drafod yr heriau rydych yn eu hwynebu.
Byddwn yn eich helpu gyda’r broses ymgeisio a’r broses i sicrhau cyllid SBRI, gyda chefnogaeth a chymorth parhaus drwy gydol y broses.
Dyma’r gwasanaethau eraill rydyn ni’n eu darparu: Rheoli Prosiectau, Mentora, Hyfforddiant a Chymorth i Ysgrifennu Cynigion.

Manteision i’r sector cyhoeddus
- Cyllid i ddatrys eich heriau ym maes iechyd.
- Cydweithio ag unigolion a busnesau o’r un anian.
- Datblygu atebion arloesol gyda busnesau.
- Y potensial i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
- Cymorth rheoli prosiect am ddim gan dîm cyflawni profiadol.
Manteision i gleifion
- Gallu rhoi adborth i’r sector cyhoeddus am yr heriau maent yn eu hwynebu.
- Cael rhywun yn gwrando arnoch chi.
- Cyd-gynhyrchu atebion arloesol i wella profiad cleifion.
- Gwella ansawdd y gofal a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig.
Manteision i’r Diwydiant
- Dyma gyfle unigryw i fusnesau a’r byd academaidd ddatblygu a chyflwyno syniadau ac atebion arloesol i’r Sector Cyhoeddus.
- Cael ei ariannu’n llawn gyda llwybr posibl i’r farchnad.
- Bydd y busnesau’n cadw’r Eiddo Deallusol.
Dyma nodau’r gwasanaeth:
Manteision eraill Rhaglen SBRI
Darparu manteision sylweddol o ran iechyd a llesiant i gleifion a’u teuluoedd sy’n byw yng Nghymru drwy ddatblygu technolegau arloesol drwy raglen SBRI.
Cydweithio gyda phobl a chymunedau i ddefnyddio dull cydgysylltiedig i atal a datrys problemau, gan leihau’r galw ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau a thrawsnewid modelau presennol iechyd a gofal cymdeithasol.
Helpu i roi hwb i’r economi drwy ymgysylltu â chwmnïau arloesol i droi eu syniadau yn gynnyrch masnachol hyfyw. Mae hyn yn debygol o greu a diogelu swyddi.
Denu ymchwil a datblygiad newydd sylweddol i Gymru.
Cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru drwy ysgogi arloesedd a thechnoleg i ddatrys heriau sydd wedi’u nodi ym maes iechyd ledled Cymru.
Meithrin sgiliau a datblygu pobl Cymru.
Cwrdd â’r Tîm
Rydyn ni’n dîm brwdfrydig sydd â phrofiad o reoli a chyflawni prosiectau llwyddiannus SBRI. Ein nod yw gweithio ledled Cymru i wella iechyd a llesiant y bobl, gan ddatrys yr heriau sy’n wynebu ein cydweithwyr yn y sector cyhoeddus. Rydyn ni’n dîm cyfeillgar ac agos atoch chi felly cysylltwch â ni.









