Mae staff y GIG a’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol wedi gweithio’n ddewr ac yn ddiflino i ddarparu gofal i gleifion trwy gydol y pandemig. Mae hi felly’n hanfodol fod ganddynt PPE cyfforddus sy’n ffitio’n briodol.

Gall gwisgo mygydau wyneb drwy’r dydd fod yn flinedig ac arwain at ddadhydradu, ac mae staff profiadol wedi dioddef problemau croen sydd yn effeithio ar les moesegol ac emosiynol ar ben yr heriau cyffredinol a wynebir eisoes. Mae problemau gyda chyflenwad PPE wedi bod yn arbennig o ddifrifol i staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) oherwydd nad yw masgiau’n ffitio pob siâp wyneb.

Effeithiwyd ar brofiadau cleifion hefyd gyda’r rhai mwy agored i niwed yn methu elwa o sicrwydd gwên gyfeillgar neu allu darllen gwefusau, a chan ychwanegu at bryder a straen mewn cyfnod brawychus dros ben.

Yr Her

Daeth yr her i’r amlwg mewn trafodaethau gydâ’r Adran Ddeintyddiaeth Gymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Esboniodd y tîm y trafferthio yr oeddent yn eu hwynebu yn ystod amgylchiadau Covid-19 ac wrth geisio dod o hyd i fygydau lefel FFP3 addas (Anadlydd Ffiltro Wyneb – Filtering Face Piece Respirator) wrth berfformio gweithdrefnau deintyddol sydd yn creu erosolau. Gyda gwahanol siapiau a maint wynebau’r staff, roedd yn anodd sicrhau fod mygydau wedi’u gosod yn ddiogel yn unol â pholisi’r Bwrdd Iechyd. Roedd y rhai a oedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i fwgwd priodol oedd yn ffitio naill ai’n cael cwfl PAPR drud neu’n methu â chyflawni dyletswyddau clinigol.

Deallwyd yn fuan nad yr Adran Ddeintyddiaeth oedd yr unig rai oedd yn cael trafferthion, ond fod holl staff iechyd a staff gofal cymdeithasol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn cael yr un problemau.

Yr her oedd ceisio adnabod, datblygu ac arddangos technolegau mygydau wyneb Rapid FFP3 a fyddai’n sicrhau diogelwch ac yn ffitio, ond hefyd yn ystyried elfennau eraill fel gwella profiad cleifion trwy dryloywder a chynaliadwyedd.

Y Broses

Mae SBRI yn gynllun a ariennir gan y llywodraeth sy’n galluogi’r sector cyhoeddus i fynd â phroblem at fusnes i’w datrys, defnyddio syniadau a thechnolegau newydd gan fusnesau a helpu i gyflymu’r broses o’u mabwysiadu.

Oherwydd pandemig COVID-19 roedd dod o hyd i ateb cyflym yn hanfodol. Yn dilyn llwyddiant y prosiect cyflym cyntaf y Ganolfan gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru a oedd wedi arwain at wobr Gŵyl Dewi am arloesedd, aeth tîm SBRI, ynghyd â chydweithwyr o fewn Llywodraeth Cymru ati i ymgymryd â’r her hon drwy ddefnyddio’r broses ‘gyflym’. Roedd y dull newydd hwn a ddyfeisiwyd gan y Ganolfan yn caniatáu mynediad at dechnolegau ar fyrder. Byddai’r prosiect yn lleihau’r broses SBRI o 12-18 mis i 12 wythnos.

Y Bobl

Mae’r prosiect hwn yn deillio o gydweithrediad rhwng GIG Cymru, Canolfan Ragoriaeth SBRI a Llywodraeth Cymru. Cafwyd cyngor, cymorth, a chyfarwyddyd gan arbenigwyr o’r Labordy Profi Deunyddiau Llawdriniaethol, Partneriaeth Rhannu Gwasanaethau GIG Cymru (NHS Wales Shared Services Partnership – NWSSP), Byrddau Iechyd ledled GIG Cymru ac NHS England Improvement.

Roedd pawb a gymrodd ran yn awyddus i’r atebion fod nid yn unig yn addas at y diben ond mynd y tu hwnt i hynny hefyd. Ac roedd yn cynnwys gweithio gyda chyflenwyr oherwydd y pwysau gwaith ychwanegol yn ystod y pandemig.

Yr alwad i Ddiwydiant

Cyhoeddwyd y cais i ddiwydiant ar 11 Tachwedd 2020 gyda 3 wythnos i ymgeiswyr ymateb.

Roedd nawdd o hyd at £300k ar gael ar gyfer y prosiect yn ei gyfanrwydd, a ddarparwyd gan Adran Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. O’r 27 o geisiadau a dderbyniwyd, llwyddodd 6 o gyflenwyr i ennill contractau.

Roedd angerdd yr ymgeiswyr yn amlwg, ynghyd â’u hawydd i helpu’r gwasanaeth rheng flaen yn ystod yr argyfwng.

Profodd porth ymgeisio newydd y Ganolfan yn amhrisiadwy gan ganiatáu i geisiadau gael eu hasesu ar-lein gan arbenigwyr unigol, a symleiddio a chryfhau’r broses ym mhellach.

Y canlyniadau

Ar hyn o bryd mae rhai o’r darparwyr llwyddiannus yn y broses o gael cymeradwyaeth gan gyrff y mae’n rhaid eu hysbysu, ac yn dal i dderbyn cefnogaeth a chyngor parhaus gan arbenigwyr y GIG. Byddwn yn eich diweddaru ar eu cynnydd.

Y Gwersi a Ddysgwyd

Mae pob rhanddeilydd yn y prosiect hwn yn awyddus i rannu’r dysgu ond er mwyn gwarchod hawliau eiddo deallusol byddwn yn rhannu’r wybodaeth yn eang wedi iddynt dderbyn cymeradwyaethau gan y cyrff perthnasol.

Yn ystod y prosiect sylweddolodd GIG Cymru, GIG Lloegr  a Rhanddeiliaid ehangach fanteision y broses SBRI, a rhannwyd profiadau a gwybodaeth gyfredol.

Dysgodd tîm SBRI eu bod nid yn unig yn gallu addasu’r broses i sefyllfa frys ond hefyd i symleiddio a chryfhau’r systemau ymgeisio ac asesu. Yn ogystal, dysgwyd fod angen ymgysylltu â’r holl arbenigwyr allweddol i sicrhau fod y bobl iawn yn ymwneud â’r prosiect o’r cychwyn cyntaf.

Y dyfodol

Ar hyn o bryd mae’r tîm SBRI yn gweithio ar ddwy her newydd; trawsnewid profiadau cleifion allanol a hyfforddiant technoleg efelychu. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am yr heriau hyn ar wefan y Ganolfan https://sbriwales.co.uk neu trwy’r porth Simply Do.

Mae’r ddau gynllun yma yn rhai cyflym eu natur hefyd ond mae’r Ganolfan yn gwerthfawrogi’r angen i fabwysiadu’r prosesau mwyaf addas i’r heriau a wynebir.

Mae tîm SBRI yn awyddus i ddysgu’n barhaus o’u profiadau a datblygu eu gwasanaeth i sicrhau eu bod yn darparu’r arferion gorau a phrofiadau cadarnhaol i’r holl randdeiliaid.

Os ydych chi am drafod ymhellach neu ddysgu mwy am redeg eich SBRI eich hun, cysylltwch â Thîm SBRI ar SBRI.COE@wales.nhs.uk