Sut mae’n gweithio?
Mae SBRI yn broses syml. Fel arfer, mae cystadlaethau’n cael eu rhannu’n ddau gam. Mae pob cystadleuaeth yn seiliedig ar angen yn y farchnad, ac mae hyn yn cael ei fynegi fel canlyniad dymunol, yn hytrach na manyleb ofynnol.
Cam 1
Mae’r cynigion yn canolbwyntio ar brofi pa mor ymarferol yn wyddonol, yn dechnegol ac yn fasnachol yw’r prosiect arfaethedig. Mae canlyniad cam 1 yn penderfynu a ddylai’r ateb fynd ymlaen i gam 2. Ni fydd pob prosiect yn symud ymlaen i’r ail gam.
Cam 2
Mae’r broses prototeipio yn digwydd yng ngham 2. Yna, gellir masnacheiddio’r prosiectau sydd wedi llwyddo i gwblhau cam 2 a’u cynnig i adrannau’r llywodraeth ac eraill dan broses gaffael gyffredin.
** Nid yw Cam 3 fel arfer yn rhan o broses SBRI. Mae’r rhan fwyaf o brosiectau wedi’u cwblhau ar ôl Cam 2. Mae’n bosibl ystyried Cam 3 er mwyn rhoi treial gwell i gynnyrch.