Technoleg efelychu (simulation training) ar gyfer hyfforddiant gofal iechyd

Rydym yn gobeithio canfod a datblygu datrysiadau technoleg efelychu y gellir eu cyflwyno’n fuan mewn amgylchedd gweithredol

Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.

Cyn Covid-19 cyflwynwyd hyfforddiant traceostomi drwy gyfuniad o wersi ar-lein a hyfforddiant ‘efelychu’ wyneb-yn-wyneb; fodd bynnag aeth hyfforddiant wyneb yn wyneb yn fwyfwy anodd yn ystod y cyfnod hwn oherwydd heriau ymbellhau cymdeithasol, diffyg cyfleusterau hyfforddi a’r angen i hunan-ynysu. O ganlyniad, mae staff y GIG wedi cael llai o fynediad at yr hyfforddiant angenrheidiol hwn sydd ei angen i gynnal eu cymwyseddau clinigol ac i sicrhau’r gofal gorau i gleifion â traceostomau.


Mae’r broblem yn un gyffredin i’r holl Fyrddau Iechyd y GIG yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Hyd yn oed cyn yr heriau a ddisgrifir uchod, mae mynediad at hyfforddiant wedi bod yn amrywiol ac o safonau anghyson. O’r blaen cyflwynwyd hyfforddiant trwy gyswllt 1:1 gan ddefnyddio hyddorddiant efelychu ‘fidelity stimulation’a defnyddio mannequin sylfaenol, heb unrhyw debygrwydd i’r amgylchedd clinigol.


Rydym wedi ceisio darparu hyfforddiant efelychu trwy lwyfannau ar-lein ond heb lawer o lwyddiant oherwydd yr heriau o ryngweithio a’r anallu i gael profiad ymarferol. O’r herwydd, mae hyn bellach wedi dod i ben gan y penderfynwyd nad oedd hyn yn ddull effeithiol a chydnabuwyd yr angen am hyfforddiant mwy addas yn y dyfodol gan fanteisio ar ddatblygiadau digidol a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg.


Er bod cam cyntaf y broses hon yn canolbwyntio’n gyntaf ar hyfforddiant traceostomi, mae potensial i gymhwyso’r dull arloesol hwn i’w ddefnyddio mewn llawer o feysydd eraill, gan gynnwys cynnal bywyd (life support) sylfaenol, canolradd, ac uwch. Ym mhellach gellid defnyddio’r dechnoleg ar gyfer hyfforddiant efelychu penodol ar draws yr holl arbenigeddau yn yr holl Fyrddau Iechyd.


Rydym yn gobeithio canfod a datblygu datrysiadau technoleg efelychu y gellir eu cyflwyno’n fuan mewn amgylchedd gweithredol. Bydd yn rhaid i ddatrysiadau fod yn addas i’w cymhwyso’n gyflym a llwyddiannus ac rydym yn rhagweld y bydd achrediad llawn yn ei le yn barod ar gyfer ei weithredu yn y ‘byd go iawn’ erbyn Hydref i 2021 fan bellaf.