Gwaredu Nwyon Meddygol Ocsid Nitrus ac Entonox yn Ddiogel ac yn Foesegol

Cefndir yr Her

Mae BIP Caerdydd a’r Fro ynghyd â Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru wedi sefydlu gweithgor i ystyried sut y gellir darparu ocsid nitrus gan ddefnyddio silindrau cludadwy bychan a diddymu’r defnydd o’r system maniffold.

Treialwyd silindr N2O cludadwy maint E â rheolydd a chysylltiad falf Schrader yn llwyddiannus, ac mae’r newid hwn wedi’i gyflwyno ar draws Ysbyty Athrofaol Llandochau a digomisiynwyd y maniffold ocsid nitrus yn Ebrill.

Profwyd fod y silindrau llai yn fwy effeithlon na’r maniffold, ac mae eu cyfradd effeithlonrwydd yn 74%, o gymharu â’r cyflenwad trwy bibell o’r maniffold. Mae hyn yn amlygu’r buddion enfawr y gellir eu sicrhau trwy sefydlu system silindrau cludadwy.

Erys dwy broblem i’w datrys:

  1. Mae nifer o silindrau mawr maint G wedi’u llenwi’n rhannol ar y maniffold, ac nid oes arnom eu hangen erbyn hyn. Os dychwelir hwy, caiff gweddill yr ocsid nitrus ei ollwng i’r atmosffer. Mae deddfwriaeth bresennol yn ein hatal rhag ailddefnyddio/ailgylchu’r nwy hwn. Rydym yn dymuno canfod dull o atal yr ocsid nitrus hwn rhag cael ei ollwng i’r atmosffer.
  2. Rydym hefyd yn defnyddio cyfanswm mawr o Entonox (50% ocsigen, 50% ocsid nitrus), sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf gan ferched i leddfu poen wrth esgor. Pan ddefnyddir y nwy hwn, caiff ei allanadlu i’r atmosffer. Rydym yn dymuno canfod ateb amgen sy’n addas i’w ddefnyddio’n helaeth mewn unedau mamolaeth ledled Cymru a’r DU.

Yn ôl Adroddiad Healthcare Without Harm, mae 5.6% o allyriadau’r DU yn deillio o ofal iechyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng yr hinsawdd ac wedi cyhoeddi Cynllun Datgarboneiddio GIG Cymru, gan ddatgan y bydd sector cyhoeddus Cymru yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae’r cynllun uchelgeisiol hwn yn targedu nwyon anesthetig yn benodol, yn cynnwys ocsid nitrus, y mae ei botensial o ran cynhesu byd eang oddeutu 298 gwaith yn fwy nag yn achos carbon deuocsid.

 

Manylion yr Her

Rydym yn dymuno canfod atebion cynaliadwy a chost effeithiol i waredu nwyon meddygol ocsid nitrus ac Entonox yn ddiogel. Mae’r her yn ymwneud yn benodol â’r ddwy thema ddilynol:

Thema 1:

Gwaredu nwy mewn silindrau ocsid nitrus wedi’u llenwi’n rhannol yn ddiogel cyn eu dychwelyd at y cyflenwr; a

Thema 2:

Ateb i ddatrys problem gollwng lefelau uchel o Entonox i’r atmosffer ar ôl ei ddefnyddio ar ein wardiau.

Rydym yn dymuno nodi, datblygu ac arddangos atebion arloesol a allai:

  • Leihau ein hallyriadau ocsid nitrus ac Entonox;
  • Darparu ateb sydd â chost gystadleuol a fforddiadwy i sicrhau y gwaredir nwyon meddygol ocsid nitrus ac Entonox mewn modd cynaliadwy;
  • Lleihau cyfanswm yr Entonox a’r ocsid nitrus yr ydym yn ei brynu;
  • Lleihau gwastraff yn ein system cyflenwi Entonox; a
  • Gwella ansawdd yr aer mewn ystafelloedd esgor ar wardiau mamolaeth.

Gall ymgeiswyr gynnig am un o’r themâu neu’r ddwy.

 

Strwythur Camau’r Her:

Cam 1: Dichonolrwydd – Rydym yn dymuno ariannu hyd at 5 prosiect sy’n werth hyd at £50,000 (gan gynnwys TAW) yr un ar gyfer Cam 1.

Sylwer: Dim ond prosiectau sy’n llwyddiannus yng ngham 1 fydd yn gymwys i ymgeisio am gamau dilynol. Bydd y camau ychwanegol yn dibynnu ar y cyllid a ddyrennir.

Cam 2: Datblygu – Rydym yn disgwyl y byddwn yn ariannu hyd at 3 o’r prosiectau mwyaf llwyddiannus o gam 1 (hyd at *£150,000 yr un, yn cynnwys TAW).

*Yn dibynnu ar y cyllid a ddyrennir

Sylwer y byddai angen ymarfer caffael ar wahân (a chystadleuol efallai) cyn y gellid mabwysiadu a gweithredu ateb. Nid yw’r gystadleuaeth hon yn cynnwys prynu unrhyw ateb, ond efallai y byddwn yn archwilio ac yn ymchwilio i lwybrau caffael arloesol fel rhan o’r her hon.

Gallai cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid. Mae gan y cyllidwyr hawl i:

  • addasu’r dyraniadau cyllid dros dro rhwng y camau
  • defnyddio dull ‘portffolio’

Tabl Dyddiadau Allweddol:

Gweithgarwch Cam 1Dyddiadau Allweddol – **gallai’r rhain newid**
Dyddiad Cychwyn – Cam 122/11/2022
Digwyddiad briffio30/11/2022
Dyddiad Terfynu14/12/2022
Cwrdd â Chyflenwyr a’u Cyfarchwythnos yn dechrau 19/12/2022
Hysbysu Ymgeiswyrwythnos yn dechrau 19/12/2022
Dyfarnu Contractau Cam 1wythnos yn dechrau 19/12/2022
AdborthDechrau Ionawr 2023
Prosiectau yn CychwynDechrau Ionawr 2023
Cwblhau Prosiectau31/03/2023
Gweithgarwch Cam 2Dyddiadau Allweddol – **gallai’r rhain newid**
Adolygu ceisiadau Cam 2 a gwneud penderfyniad ynghylch cwmni neu gwmnïau i fwrw ymlaen â hwy31/03/2023
Rhoi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus04/04/2023
Llofnodi’r contractau a’u cychwyn03/04/2023
Diwedd y prosiect29/03/2024

 

Digwyddiad Briffio

Dilynwch y ddolen isod i fynegi eich diddordeb yn y Digwyddiad Briffio rhithiol a gynhelir ar 30/11/2022: https://www.eventbrite.co.uk/e/sbri-health-programme-2022-2024-briefing-event-on-new-challenges-tickets-466303756087

 

Hysbysiad ynghylch Cynllun Masnachol

Sylwer, os byddwch yn llwyddiannus yng Ngham 1 ac yn symud ymlaen i Gam 2, bydd angen i chi ddarparu cynllun/strategaeth masnacheiddio fel rhan o ddeilliannau eich contract.

 

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth hon, trowch at: Simply Do

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y gystadleuaeth hon, e-bostiwch: SBRI.COE@wales.nhs.uk

 

Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.