Newid y Ffordd yr Ydym yn Darparu Gofal mewn Argyfwng

Cefndir yr Her

Mae cyfle cyffrous i weithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Byrddau Iechyd yng Nghymru i leihau’r galw digynsail ar ambiwlansys a gwasanaethau Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng ledled Cymru.  Mae ein cleifion yn aros yn hirach nag y dylent am ymateb ambiwlans a phan fyddant yn cyrraedd yr ysbyty (Adran Achosion Brys), gallant dreulio cryn dipyn o amser yn yr ambiwlans cyn cael eu trosglwyddo i dimau clinigol yr Adran Achosion Brys.

Hoffem allu trawsnewid y ffordd y mae gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cael ei ddarparu, gan geisio cefnogi uchelgais strategol WAST i ofalu am fwy o gleifion yn eu cartrefi eu hunain neu mewn lleoliad cymunedol, gan leihau’n ddiogel nifer y cleifion sydd angen eu cludo i’r ysbyty.

Mae cyfle i wella seilwaith WAST er mwyn ein galluogi i ddarparu gofal yn nes at y cartref.  Mae WAST yn ‘uwch-gysylltydd’ ar draws lleoliadau iechyd a gofal gyda chynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid eu model darparu gwasanaeth i wella canlyniadau clinigol, gwella profiad cleifion a lleddfu ‘pwysau system’ ar wasanaethau Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng.  Er mwyn gwneud hyn, mae’n bwysig rhoi’r offer a’r dechnoleg gywir i’n pobl er mwyn galluogi rhoi ‘gofal iawn yn y lle iawn’.

 

Manylion yr her

Hoffem wahodd diwydiant i’n galluogi i ddarparu gofal yn nes at y cartref.  Rydym yn chwilio am ddatrysiadau arloesol i wella un (neu fwy) o’r themâu:

  • Gwella galluoedd mewn lleoliadau cyn-ysbyty sy’n gallu galluogi cleifion i dderbyn gofal yn nes at adref. Gallai hyn gynnwys Profion Pwynt Gofal (e.e. profion gwaed gyda chanlyniadau cyflym), datrysiadau technoleg gwisgadwy ac offer sganio symudol;
  • Defnyddio technoleg i gefnogi gofal cleifion, gwella cyfathrebu a gwella diogelwch cleifion yn ystod diagnosis cychwynnol neu mewn achosion o arosiadau cymunedol hir am ambiwlans neu ymateb 111, neu aros am apwyntiad brys mewn man gofal diffiniol.

Rydym yn chwilio am ddatrysiadau a fydd yn darparu effaith lefel uchel, bositif i boblogaeth Cymru.  Yn benodol, mae’r galw am wasanaethau ambiwlans/gofal brys a gofal mewn argyfwng yn uchel ar gyfer:

  • Pobl sydd wedi cael codwm – Cleifion sydd wedi bod ar y llawr am gyfnod sylweddol o amser (gorwedd am gyfnod hir);
  • Pobl sy’n profi problemau anadlol – yn enwedig cyflyrau cronig sy’n dirywio’n ddifrifol;
  • Pobl sy’n profi poen yn y frest – lle na ellir cadarnhau natur y boen ar hyn o bryd yn y lleoliad cyn-ysbyty.

Mae yna lawer o ddatrysiadau diagnostig ar gael.  Nod yr her hon yw dod â datrysiadau ynghyd i ddatblygu datrysiad sector ambiwlans i’w ddefnyddio yn yr amgylchedd cyn-ysbyty.

Rydym am nodi, datblygu ac arddangos technoleg ac offer a allai:

  • Bod yn addas ar gyfer defnydd symudol (defnydd cyn-ysbyty);
  • Ffitio i’r seilwaith presennol a bod modd ei ddefnyddio ar draws mathau gwahanol o gerbydau;
  • Defnyddio deallusrwydd artiffisial, technoleg estynedig a/neu brosesu iaith naturiol i wella systemau a phrosesau cyfredol;
  • Bod yn addas i’w ddefnyddio ar gyfer pob math o weithwyr proffesiynol clinigol cyn-ysbyty/personél ymateb;
  • Cefnogi defnydd priodol o ambiwlansys gan y gymuned;
  • Meithrin cydnerthedd cymunedol i gefnogi cleifion gartref yn ystod cyfnod o angen gofal brys/argyfwng;
  • Galluogi gwneud penderfyniadau a darparu gofal yn nes at y cartref;
  • Cefnogi bywyd annibynnol parhaus cleifion;
  • Ategu ac annog cefnogaeth gymunedol;
  • Bod yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i’r sector cyhoeddus a’r claf.

 

Allan o Sgôp:

  • Amnewid cerbydau;
  • Integreiddio i unrhyw systemau cenedlaethol.

 

Strwythur Camau’r Her

Cam 1: Datblygiad – O gyfanswm o £225,000, disgwyliwn ariannu hyd at 3 phrosiect hyd at werth o £75,000 (gan gynnwys TAW) yr un.

Sylwer: Dim ond prosiectau sy’n llwyddiannus yng ngham 1 fydd yn gymwys i ymgeisio am gamau 2 a 3

Cam 2: Profi – Bydd y Cam hwn yn golygu cynnal prawf cadarn mewn amgylchedd bywyd go iawn ar gyfer hyd at 3 o’r datrysiadau Cam 1 llwyddiannus o gyfanswm cronfa o hyd at £800,000.  Disgwyliwn ariannu hyd at 3 phrosiect hyd at £265,000 (gan gynnwys TAW) yr un.

Wrth wneud cais i’r gystadleuaeth Cam 1 hon, rydych yn cymryd rhan mewn proses gystadleuol. Sylwer y byddai angen ymarfer caffael ar wahân, a chystadeuol o bosibl, cyn y gellid mabwysiadu a gweithredu datrysiad.  Nid yw’r gystadleuaeth hon yn cynnwys prynu unrhyw ddatrysiad er y byddwn yn ymchwilio ac yn archwilio llwybrau caffael arloesol fel rhan o’r her hon, pe bai datrysiad llwyddiannus yn dod i’r amlwg.

Gallai cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid.  Mae gan y cyllidwyr hawl i:

  • addasu’r dyraniadau cyllid dros dro rhwng y camau;
  • defnyddio dull ‘portffolio’;
  • ariannu Cam 3 i ganiatáu profi’r datrysiadau datblygedig yn fwy trylwyr.

 

Tabl Dyddiadau Allweddol:

Gweithgarwch Cam 1 Dyddiadau Allweddol – **gallai’r rhain newid**
Dyddiad Cychwyn – Cam 1 31/01/2023
Digwyddiad briffio 23/02/2023
Dyddiad Terfynu 17/03/2023

12:00 y prynhawn

Hysbysu Ymgeiswyr 24/03/2023
Dyfarnu Contractau Cam 1 24/03/2023
Adborth Ebrill 2023
Prosiectau yn Cychwyn 03/04/2023
Cwblhau Prosiectau 19/06/2023
Gweithgarwch Cam 2 Dyddiadau Allweddol – **gallai’r rhain newid**
Adolygu ceisiadau Cam 2 a gwneud penderfyniad ynghylch cwmni/cwmnïau i fwrw ymlaen â hwy Mehefin/Gorffennaf 2023
Rhoi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus Mehefin/Gorffennaf 2023
Llofnodi’r contractau a’u cychwyn Mehefin/Gorffennaf 2023
Diwedd y prosiect Ebrill 2024

 

Digwyddiad Briffio

Dilynwch y ddolen isod i fynegi eich diddordeb yn y Digwyddiad Briffio rhithiol a gynhelir ar 23/11/2023.

https://www.eventbrite.co.uk/e/sbri-briefing-event-changing-the-way-we-deliver-emergency-care-tickets-526329203817

 

Hysbysiad ynghylch Cynllun Masnachol

Sylwer, os byddwch yn llwyddiannus yng Ngham 1 ac yn symud ymlaen i Gam 2, bydd angen i chi ddarparu cynllun/strategaeth masnacheiddio fel rhan o ddeilliannau eich contract.

 

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth hon, ewch i:

Newid y Ffordd yr Ydym yn Darparu Gofal mewn Argyfwng

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y gystadleuaeth hon, e-bostiwch: [email protected]

 

 

Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.