Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth i chwyldroi gofal iechyd yng Nghymru drwy greu
profiad iechyd cyfannol cynhwysfawr, saff a diogel sy’n ymgorffori Deallusrwydd Artiffisial
(AI) yn ddi-dor ag arbenigedd dynol a thechnoleg arloesol.
Mae systemau gofal iechyd traddodiadol yng Nghymru wedi’u cyfyngu i leoliadau penodol,
gan gyfyngu ar hygyrchedd i gleifion a chlinigwyr. Yn aml, bydd pobl mewn ardaloedd
gwledig a’r henoed yn wynebu mynediad annigonol at wasanaethau gofal iechyd. Er y ceir
enghreifftiau o bodiau iechyd / cabanau meddygol sydd eisoes wedi’u datblygu, ein
gweledigaeth yw creu mannau sydd wedi’u hysbrydoli gan natur, wedi’u hadeiladu gyda
dinasyddion Cymru ac ar eu cyfer, â ffocws sylfaenol ar addasu yn unol ag anghenion
unigolion a gwella mynediad at ofal i bawb.
Ein her i Ddiwydiant ac Academia yw dylunio lle ble gall ein dinasyddion gyrchu
gwasanaethau o bell. Lleoliad gofal iechyd creadigol hyblyg a symudol ble gellir darparu’r un
gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel ble bynnag fo’r lleoliad, gan sicrhau bod gofal
iechyd yn hygyrch i bawb. Rydym yn dymuno gallu defnyddio technoleg i wella arferion gofal
iechyd presennol heb eu disodli, gan gynnig man gofal cynaliadwy ac ail-greu awyrgylch o
hyder.
Drwy weithredu’r weledigaeth hon, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio trawsnewid gofal
iechyd yng Nghymru, gan sicrhau ei fod yn fwy hygyrch ac effeithlon, a chanolbwyntio ar yr
unigolyn.
Thema’r Her
Mae’r her hon yn ceisio cynorthwyo â’r gwaith o lunio ac amlygu mannau iechyd arloesol,
wedi’u hysbrydoli gan natur ac wedi’u cynllunio gan ystyried anghenion unigolion. I
gynorthwyo i gyflawni’r nod hwn, bydd hwn yn brosiect dau gam a rhaid i ymgeiswyr
gwblhau Cam 1 yn llwyddiannus i allu ymgeisio am gyllid Cam 2.
Cam 1: Rhaid i’r gwaith i ddatblygu’r prototeip gynnwys:
● Cydweithio â’n dinasyddion yng Nghymru i gyd-greu uned/pod prototeip sy’n hawdd
ei ddefnyddio, yn saff a diogel, yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb.
● Hygyrchedd Gwell, gan gynnig gwasanaethau gofal iechyd mewn lleoliadau cyfleus,
cyrraedd mwy o bobl a gwella canlyniadau iechyd a gofal.
● Rhaid i’r cynhyrchion a ddefnyddir fod yn Gynaliadwy, yn Ailgylchadwy ac yn Wyrdd,
â ffocws ar gael eu hysbrydoli gan natur.
● Rhaid i ystyriaethau eraill gynnwys seinglosio, hunanlanhau, esmwythdra, mannau
cyfeillgar, diogelwch a diogeledd.
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus y prosiect allu bod yn bresennol yn yr Eisteddfod
Genedlaethol yn Wrecsam rhwng 2 a 9 Awst, er mwyn cyflwyno a rhannu eu cynlluniau /
modelau wrth raddfa / prototeipiau a chasglu adborth gan ddefnyddwyr terfynol posibl.
Cam 2: Rhaid i arddangoswr gynnwys:
● Cydweithredu â busnesau/cyflenwyr o Gymru i adeiladu prototeip gweithredol y
gellir ei brofi gydag atebion digidol parod i’w marchnata sy’n cydymffurfio â
saernïaeth, safonau a seibrddiogelwch GIG Cymru.
● Technoleg fideo-gynadledda manylder uwch at ddibenion ymgynghoriadau wyneb yn
wyneb â meddygon cymwys. Mae rhai o’r systemau hyn eisoes yn cael eu defnyddio
gan GIG Cymru.
● Gall pobl ddisgwyl i’r arddangoswr gynorthwyo â gwiriadau iechyd a gofal dan
arweiniad clinigwyr/ymarferwyr, gan gynnwys mesuriadau arwyddion bywyd.
● Gallu anfon a derbyn data amser real yn ddiogel.
● Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a defnyddio arfer gorau i gefnogi pobl sy’n llai
tebygol o ddefnyddio gwasanaethau.
● Rhaid cynnwys y Gymraeg, gan sicrhau hefyd yr ystyrir y dirwedd amrywiol a’r
amrywiaeth o ieithoedd a siaredir gan y sawl sy’n byw yng Nghymru.
Y tu Hwnt i’r Cwmpas
Nid ydym yn bwriadu ariannu prosiectau:
● Sy’n ceisio datblygu technoleg gofal iechyd newydd – nod yr her hon yw ystyried sut
y gellir addasu’r lle i gynnwys technoleg gofal iechyd sydd eisoes ar gael yn y farchnad
a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg.
● Sydd ddim yn cynnig tystiolaeth i ddangos eu bod yn ymgysylltu â darpar gwsmeriaid
y dyfodol i ddeall anghenion
● Sydd ddim yn ymdrin â sut y byddai unrhyw ganlyniadau negyddol posibl yn cael eu
rheoli;
● Sy’n methu â chynnig tystiolaeth i gadarnhau sut y bydd cynnig yn creu effaith
economaidd neu gymdeithasol gadarnhaol;
● Sydd ddim yn ystyried fforddiadwyedd ac ymarferoldeb gweithredu eang gan
gynnwys cyfalaf, seilwaith a chostau gweithredu yn y dyfodol.
● Bydd integreiddio ag unrhyw systemau cenedlaethol yn ystod y treial SBRI hwn oddi
allan i gwmpas yr her, ond dylid ystyried cydnawsedd â systemau’r Bwrdd Iechyd ac
Ap GIG Cymru, h.y. sicrhau cysylltedd digidol diogel a dibynadwy.
● Sy’n methu â bodloni safonau Gymraeg nac amlygu potensial i weithredu’n
amlieithog.
● Sy’n methu â dangos bod hygyrchedd a thegwch yn ystyriaethau craidd drwy gydol y
gwaith o ddatblygu ac arddangos atebion.
Cyflawniadau a Ddymunir
Nod y cyllid yw galluogi llunio a datblygu mannau arloesol i ddarparu gofal iechyd. Disgwylir i
gynigion a gymeradwyir allu cyflawni rhywfaint o’r canlynol erbyn adeg cwblhau eu prosiect:
● Penderfynu a phrofi prosesau gweithredol y gofod a fydd yn cynnwys diogelwch,
diogeledd, glendid, argaeledd a hygyrchedd.
● Ystyriwch sut y gall bio-ddynwared lywio’r datblygiad, gan efelychu dyluniadau natur i
ddatrys problemau dynol a chreu atebion mwy cynaliadwy ac effeithlon.
● Datblygu a phrofi’r prosesau ymgysylltu â chlinigwyr / ymarferwyr er mwyn darparu
cymorth amgen i gynnal iechyd a gofal.
● Pennu a phrofi’r gwerth ychwanegol o gymharu â dulliau presennol o ymgysylltu â
chlinigwyr / ymarferwyr a’u costau gweithredu, â ffocws allweddol ar
fforddiadwyedd.
● Datblygu, profi ac amlygu cydweddu â systemau technegol a deallusrwydd artiffisial
sy’n barod ar gyfer y farchnad.
● Penderfynu a phrofi lleoliad delfrydol y mannau i sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol,
gan gynnwys cyrraedd y sawl sy’n llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau presennol.
● Datblygu gwybodaeth y gellir ei rhannu, h.y. trwyddedau Creative Commons, i lywio
sut y gellir mynd i’r afael â hygyrchedd yn well a sicrhau buddion o ran pob agwedd
ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Dyrannu Cyllid a Manylion Prosiect
Mae’r her hon yn agored i geisiadau sy’n cyflwyno prosiect yng Ngham 1, ac sydd â’r
potensial i gyfranogi yn y cam arddangos (Cam 2), yn amodol ar gyflawni Cam 1 yn
llwyddiannus ac argaeledd cyllideb. Dylai ymgeiswyr ganolbwyntio ar gyflawni Cam 1 ar hyn
o bryd, oherwydd nid yw’r cyllid i ariannu Cam 2 wedi’i gadarnhau eto.
Dichonoldeb Cam 1 – Cynorthwyo datblygwyr prosiectau dichonoldeb i ddylunio mannau
iechyd a gofal wedi’u hysbrydoli gan natur y gellir eu haddasu i ddefnyddio technoleg gofal
iechyd sydd eisoes ar gael ac sy’n dod i’r amlwg, â ffocws craidd ar hygyrchedd a mynediad
cyfartal at ofal. Mae cyllid Cam 1 ar gael i gefnogi hyd at 5 prosiect, a gellir cynnig cyllideb
gwerth hyd at £50,000 (gan gynnwys TAW) i bob prosiect.
Dylai ymgeiswyr ganolbwyntio ar gyflawni Cam 1 ar hyn o bryd, oherwydd nid yw’r cyllid i
ariannu Cam 2 wedi’i gadarnhau eto. Bydd cyllid Cam 2 yn amodol ar argaeledd ac yn
dibynnu ar ganlyniadau Dichonoldeb Cam 1.
Mae’r cyllidwr yn cadw’r hawl i ddefnyddio dull ‘portffolio’ i ddewis prosiectau er mwyn
sicrhau bod amrywiaeth o gynigion yn cael eu hystyried ac i gefnogi gweithgarwch ar sail
ddemograffig eang.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a all gyflwyno ceisiadau sy’n tynnu sylw at lefel uchel o
ymrwymiad a haelioni i weithio drwy bartneriaeth â’n sefydliadau iechyd a gofal,
rhanddeiliaid allweddol a chyflenwyr o Gymru drwy gydol cyflawni prosiectau. Bydd tîm y
prosiect yn cael cymorth yn rheolaidd a bydd Grŵp Rhanddeiliaid ymroddedig yn
cydweithio’n agos dros y prosiect i ddeall y rhwystrau a’r galluogwyr allweddol.
Mae’n rhaid i’ch cais:
● Amlygu cynllun ar gyfer masnacheiddio a llwybr i’r farchnad ar gyfer datrysiadau
fforddiadwy, datblygedig;
● Cyflawni yn unol â’r nodau a ddisgrifir yng nghynllun Cymru Iachach;
● Ystyried agweddau yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar
draws eich prosiect, eich sector(au) a’r gymdeithas, a rhoi sylw iddynt os bydd
hynny’n ofynnol;
● Ymdrin â sut y byddai unrhyw ganlyniadau negyddol posibl yn cael eu rheoli;
● Sicrhau bod diogelwch personol yn hollbwysig a bod unrhyw risgiau wedi’u mynegi’n
glir a bod mesurau lliniaru cadarn ar waith;
Sylwer y gallai fod yn ofynnol cynnal ymarfer caffael ar wahân (a chystadleuol efallai) cyn y
gellid mabwysiadu a gweithredu datrysiad sy’n deillio o’r gystadleuaeth hon. Nid yw’r
gystadleuaeth yn ymdrin â chaffael unrhyw ddatrysiad yn yr hirdymor, ond efallai y byddwn
yn penderfynu ehangu’r prosiect hwn trwy ymchwilio i lwybrau caffael arloesol a’u
harchwilio fel rhan o’r her hon.
Gall cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid ac mae’r cyllidwyr yn
cadw’r hawl i addasu’r dyraniadau cyllid dros dro, h.y. pe deuai cyllid ychwanegol ar gael.
Digwyddiad Briffio
Dilynwch y ddolen isod i fynegi eich diddordeb yn y Digwyddiad Briffio rhithiol a gynhelir ar
__/05/2025 yn _____.
Y Broses Ymgeisio
Gellir canfod cyfarwyddiadau ynghylch sut i gyfranogi drwy:
DYDDIADAU ALLWEDDOL
Dyddiad cychwyn yr her 09/05/2025
Digwyddiad briffio 16/05/2025
Dyddiad cau 06/06/2025
Asesiad 09/06/2025 – 11/06/2025
Cytuno ar Restr Fer a hysbysu Cyflenwyr 13/06/2025
Digwyddiad ‘Cwrdd a Chyfarch’ gyda
Chyflenwyr
17/06/2025
Cyhoeddi’r Penderfyniad 18/06/2025
Dyfarnu contractau 20/06/2025
Prosiectau yn Cychwyn 30/06/2025
Cyflwyno’r prototeip yn yr Eisteddfod 02/08/2025 – 09/08/2025
Cwblhau Prosiectau 22/08/2025
Dyddiad Cau Cyflwyno Adroddiad
Terfynol
29/08/2025
*Gall pob dyddiad newid
Atodiad 1 – Cyd-destun Polisi
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: yr hanfodion [HTML] | LLYW.CYMRU
Cymru Iachach (llyw.cymru)
Cymru’n arloesi: creu Cymru gryfach, decach a gwyrddach (llyw.cymru)
Safonau hygyrchedd ar gyfer LLYW.CYMRU | LLYW.CYMRU
Safonau’r iaith Gymraeg | Cyfraith Cymru