Sut mae gwella mynediad perthnasau cleifion i wybodaeth tra bod eu hanwyliaid yn yr ysbyty a lleihau’r galw ar amser staff?

Cefndir yr Her

Pan fo aelod o’r teulu yn glaf mewnol mewn ysbyty, gall fod yn gyfnod heriol i berthnasau sy’n bryderus ac sydd eisiau gwybodaeth amserol am gyflwr eu hanwyliaid. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer derbyniadau brys neu rai lle mae diagnosis, cyflwr neu brognosis y claf yn aneglur. Hyd yn oed pan fydd cleifion yn cael eu derbyn yn ddewisol, mae’r teulu’n dal eisiau derbyn diweddariadau ond nid oes angen iddynt siarad â rhywun bob amser.

Mae’n bosibl bod y cyfyngiadau ar ymweld yn ystod y Pandemig wedi lleddfu, ond hyd yn oed cyn y pandemig, yr heriau wrth fynd drwodd i wardiau ac adrannau drwy alwadau ffôn oedd yr anfodlonrwydd mwyaf a godwyd gan berthnasau â’n Tîm Profiad y Claf ac sy’n dal i fod.

Mae perthnasau yn dioddef straen oherwydd nad ydynt yn gwybod beth sy’n digwydd ac mae cleifion yn dioddef gan eu bod yn poeni am eu teulu ac a ydynt yn gwybod beth sy’n ofynnol ganddynt megis trefniadau rhyddhau. Mae’r sefyllfa hon yn effeithio’n arbennig ar y cleifion hynny nad oes ganddynt eu ffonau eu hunain neu nad ydynt yn gallu eu defnyddio neu sydd â chyfyngiadau gwybyddol megis dementia neu anghenion iechyd meddwl.

Mae staff yn mynd allan o’u ffordd i ateb ffonau sy’n aml yn canu neu’n gwastraffu amser yn chwilio am rywun sy’n gallu siarad am glaf yn awdurdodol, i gyd wrth esgeuluso gofal eu cleifion eu hunain. Mae tynnu ac ailosod dillad amddiffynnol a golchi dwylo i ateb y ffôn yn ychwanegu baich ychwanegol. At hynny, oherwydd adleoli, mae staff yn aml yn gweithio gyda thimau nad ydynt yn eu hadnabod gan wneud cyfathrebu da yn anos. Ychwanegwch at hynny flinder staff a’r canlyniad yw amgylchedd o gyfathrebu annigonol.

Nododd arolwg o nyrsys sy’n gweithio mewn ysbytai acíwt gan elusen y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol fod angen cymorth ychwanegol gan y tîm nyrsio ar ddwy ran o bump o gleifion heb ymwelwyr. Roedd nyrsys yn teimlo bod diffyg ymwelwyr yn cael effaith andwyol ar iechyd cleifion a chyflymder adferiad mewn nifer o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys; maent yn llai tebygol o fod yn symudol (43%), yn llai tebygol o gael eu hysgogi trwy sgwrs (56%) ac yn llai tebygol o ddilyn cyngor meddygol. Roedd nifer sylweddol, 37%, yn fwy tebygol o aros yn hirach yn yr ysbyty.

Nid yw’r system bresennol o ffonio yn effeithiol. Gall perthnasau gael eu cadw ar y llinell mewn rhai achosion am oriau cyn iddynt gael ateb ac yna nid ydynt o reidrwydd yn cael unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i gyflwr presennol y claf. Yn ôl y sôn, nid ydynt bob amser yn cael ateb nac yn cael galwadau’n ôl pan fyddant wedi dod drwodd ond wedi cael gwybod bod angen i rywun arall eu ffonio’n ôl.

 

Manylion yr Her

Rydym yn bwriadu nodi, datblygu a dangos datrysiadau arloesol a fydd yn:

  • Gwella cyfathrebu rhwng perthnasau a deilydd achos claf
  • Lleihau pryder i gleifion
  • Cynnwys cleifion mewn diweddariadau gyda theulu lle bo modd
  • Lleihau rhwystredigaeth a straen perthnasau
  • Gwella profiad y gofalwr
  • Lleihau effeithiau andwyol peidio â gweld anwyliaid ac effeithio ar gyflymder adferiad.
  • Gwella’r profiad cleifion
  • Cyfathrebu trefniadau rhyddhau yn well
  • Hysbysu gwell i fwy nag un aelod enwebedig o’r teulu
  • Lleihau’r galw ar amser clinigol i ymateb i geisiadau diweddaru cleifion.
  • Lleihau’r tynnu sylw rhag gofal cleifion gan arwain at ddiffyg urddas a chamgymeriadau posibl
  • Lleihau straen ar staff gofal iechyd trwy leihau’r galw am gyfathrebu
  • Cynnal preifatrwydd a chyfrinachedd trwy atal gwybodaeth cleifion rhag cael ei siarad yn uchel
  • Darparu datrysiadau cyfathrebu sy’n hygyrch ac yn gynhwysol
  • Bod yn fforddiadwy a chynaliadwy i’r GIG a bod yn rhad neu ddim yn costio dim i’r claf/perthnasau/gofalwyr ac eraill a allai fod yn gysylltiedig â gofal y claf
  • Cwrdd â Safonau’r Gymraeg ac o bosibl meddu ar allu amlieithog.

 

Allan o Sgôp

Nid ydym yn bwriadu disodli’r systemau teleffoni presennol, er y bydd atebion sy’n integreiddio â systemau teleffoni presennol y GIG neu’n eu hategu yn cael eu hystyried.

 

Strwythur Cyfnodau’r Her:

Cam 1: Dichonoldeb – Rydym yn bwriadu ariannu hyd at 5 prosiect hyd at werth hyd at £30,000 yr un (gan gynnwys TAW) ar gyfer Cam 1.

Sylwer: Dim ond prosiectau sy’n llwyddiannus yng ngham 1 fydd yn gymwys i wneud cais i’r camau dilynol. Bydd cyfnodau ychwanegol yn dibynnu ar ddyrannu cyllid.

Cam 2: Datblygiad – Disgwyliwn ariannu hyd at 3 phrosiect o’r prosiectau cam 1 mwyaf llwyddiannus hyd at werth o *£60,000 yr un (gan gynnwys TAW).

*Yn dibynnu ar ddyraniad cyllid.

Noder y byddai unrhyw fabwysiadu a gweithredu datrysiad o’r gystadleuaeth hon yn destun ymarfer caffael cystadleuol, ar wahân o bosibl. Nid yw’r gystadleuaeth hon yn cwmpasu prynu unrhyw ateb er y gallwn ddewis ymchwilio ac archwilio llwybrau caffael arloesol fel rhan o’r her hon.

Gall cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid. Mae gan y cyllidwyr yr hawl i:

  • addasu’r dyraniadau cyllid dros dro rhwng y cyfnodau
  • defnyddio dull ‘portffolio’
  • ariannu Cam 3 i ganiatáu profi’r atebion a ddatblygwyd yn drylwyr.

 

Tabl Dyddiadau Allweddol:

Gweithgaredd Cam 1Dyddiadau Allweddol **yn amodol ar newid**
Dyddiad Agor – Cam 118/11/2022
Digwyddiad briffio30/11/2022
Dyddiad Cau12:00 14/12/2022
Cyfarfod a Chyfarch gyda Chyflenwyrwythnos yn dechrau 19/12/2022
Hysbysu ymgeiswyrwythnos yn dechrau 19/12/2022
Contractau Cam 1 wedi’u dyfarnuwythnos yn dechrau 19/12/2022
AdborthYn gynnar ym mis Ionawr 2023
Prosiectau’n CychwynYn gynnar ym mis Ionawr 2023
Prosiectau wedi’u cwblhau31/03/2023
Gweithgaredd Cam 1Dyddiadau Allweddol **yn amodol ar newid**
Ceisiadau Cam 2 i’w hadolygu a phenderfyniad cwmni/cwmnïau i’w symud ymlaen31/03/2023
Adborth i ymgeiswyr aflwyddiannuswythnos yn dechrau 03/04/2023
Contractau wedi’u llofnodi a’u cychwynwythnos yn dechrau 03/04/2023
Prosiect yn cauMawrth 2024

 

Digwyddiad Briffio

Dilynwch y ddolen isod a chofrestrwch eich diddordeb ar gyfer y Digwyddiad Briffio rhithwir a gynhelir ar 30/11/2022.

 

https://www.eventbrite.co.uk/e/sbri-health-programme-2022-2024-briefing-event-on-new-challenges-tickets-466303756087

 

Hysbysiad Cam 2

Sylwer os byddwch yn llwyddiannus yng Ngham 1 ac yn mynd ymlaen i Gam 2, bydd angen i chi ddarparu cynllun/strategaeth masnacheiddio fel rhan o’ch cyflawniadau cytundebol. Bydd angen i unrhyw atebion digidol fodloni safonau ISO GIG Cymru a Cyber Essentials Plus.

 

Gwybodaeth Bellach

 

Am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth hon, ewch i: Simply Do

Am unrhyw ymholiadau am y gystadleuaeth hon e-bostiwch: SBRI.COE@wales.nhs.uk

 

Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.