Her Masg Wyneb

Sut gallwn ni ddarparu cyfarpar anadlu diogel ac economaidd sy’n ffitio’n well i staff clinigol mewn ffordd fwy effeithlon?

Roedd yr her yn galw ar fusnesau a'r byd academaidd i ddod o hyd i atebion arloesol i sicrhau cyfarpar anadlu diogel sy’n ffitio wynebau o bob siâp a maint.

Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.

Roedd rhaid i wasanaethau gofal iechyd wneud newidiadau mawr i’r ffordd roeddent yn gweithredu o ganlyniad i COVID-19, oherwydd rhagofalon ychwanegol i reoli heintiau.

Mae llawer o wasanaethau gofal iechyd mewn risg uchel o ddod i gysylltiad â haint Covid-19 ac, o bosibl, pathogenau anadlol eraill. Mae defnydd eang o Gyfarpar Diogelu Personol lefel uwch (a ddiffinir fel lefel 2 yng Nghymru), yn cynnwys masgiau wyneb untro sy’n cael eu cydnabod fel masgiau FFP3, yn hanfodol erbyn hyn.

Mae ffit anadlydd FFP3 yn bwrpasol o’i gymharu â ffit masgiau traddodiadol a oedd yn cael eu defnyddio gan lawer o weithwyr proffesiynol yn flaenorol. Mae’n hanfodol sicrhau bod masg anadlu pob unigolyn o’r maint a’r dyluniad cywir, a’i fod wedi’i selio ac yn ffitio’n gywir. Os na fydd y masg yn ffitio’n iawn, mae’n cynyddu’r risg o gael haint.

Mae llawer o’r cyfarpar anadlu sydd ar gael ar y farchnad ar hyn o bryd wedi’u dylunio ar gyfer gweithwyr diwydiannol yn hytrach na gweithwyr gofal iechyd. Nid ydynt ar gael mewn amrywiaeth eang o siapiau a meintiau. Mae hyn yn arwain at lawer o staff gofal iechyd, yn enwedig y rheini sydd â wynebau bach, yn cael trafferth ffitio i’r mathau o fasgiau sydd ar gael ar hyn o bryd, ac felly, mae’n bosibl y bydd angen cael atebion drytach fel cyflau PAPR. Mewn rhai achosion, efallai na fydd unigolion yn gallu cyflawni eu dyletswyddau cyffredin oherwydd nad oes digon o gyfarpar diogelu personol anadlu/ar gyfer y wyneb addas ar gael.

Gall y broses o brofi a yw’r cyfarpar anadlu sy’n cael eu cyflenwi yn ffitio’r staff gymryd llawer iawn o amser i ffwrdd o sefyllfaoedd clinigol, yn arbennig os nad yw’r unig fath neu’r amrywiaeth cyfyngedig o fasgiau anadlu sydd ar gael, ac sy’n cael eu trio, yn addas ar gyfer yr unigolyn hwnnw.

Felly, mae atebion sy’n cyrraedd y safonau maint a diogelwch, sy’n gwella profiad y claf, ac sy’n dda i’r amgylchedd yn fudd ychwanegol.

I weld y briff llawn am yr her, ewch i Adnoddau