Cefnogi ein dinasyddion yng Nghymru i fyw bywyd iachach a hapusach
Cwmpas
Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn parhau i wynebu mwy o alwadau a heriau newydd – poblogaeth sy’n heneiddio, newidiadau mewn ffordd o fyw, disgwyliadau’r cyhoedd a thechnolegau newydd – a hyn oll o fewn cyfyngiadau cyllidebol parhaus. Mae Cynllun Cymru Iachach yn amlinellu uchelgais eang sef y dylai pawb yng Nghymru gael bywyd hirach, iachach a hapusach, gan aros yn actif ac yn annibynnol, yn eu cartrefi eu hunain, cyhyd ag y bo modd. Fodd bynnag, bydd angen dulliau newydd beiddgar i gyflawni’r weledigaeth hon.
Nid ydym ar ein pennau ein hunain yn wynebu’r her hon. Mae nifer o systemau iechyd a gofal datblygedig yn wynebu heriau cyffelyb i’r rhai rydym ni’n eu profi yng Nghymru. Er bod enghreifftiau o fodelau gofal arloesol, addawol mae angen rhagor o dystiolaeth a hyder i symud y tu hwnt i gynlluniau peilot a threialon ar raddfa fach.
Mae’r her hon yn ceisio adeiladu ar y treialon a’r profion ar raddfa fach flaenorol, gan gasglu’r dystiolaeth a’r dadansoddiadau sydd eu hangen i lywio cynaladwyedd gofal yn y cartref yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno prosiectau ar raddfa fwy neu ehangach, gan ddangos manteision posibl a chynaladwyedd eu datrysiadau boed y rhain yn fodelau arloesol o ddarparu gofal neu’n dechnolegau cyflenwol sy’n cefnogi integreiddio a chynaladwyedd y dyheadau a nodir yng Nghymru Iachach; gan gadw’r hyn ‘sy’n bwysig’ i’n dinasyddion wrth wraidd popeth a wnawn.
Thema’r Her
Rydym ni’n dymuno adnabod a chefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau cydweithredol Cam 2 a Cham 3, sy’n arddangos datrysiadau agos i’r farchnad â’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion, a/neu fodelau gofal yr ymchwiliwyd iddynt yn flaenorol sy’n galluogi datblygu tystiolaeth graidd ac astudiaethau achos er mwyn llywio achosion busnes yn y dyfodol i’w cyflwyno’n ehangach.
- Gofal yn y Cartref – modelau gwasanaeth newydd a datrysiadau/technolegau cyflenwol a all gefnogi cynaliadwyedd gofal, gyda ffocws ar atal, a gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rhaid cyd-lunio a chyd-ddatblygu modelau gofal newydd gydag aelodau o’r cyhoedd a defnyddwyr gofal, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, ar sail y cysyniadau dylunio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Cefnogi’r sylfeini – Chwilio am ddatrysiadau a all fynd i’r afael â rhwystrau sylfaenol megis twf sgiliau, cysylltedd a recriwtio/cadw. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â materion megis llythrennedd digidol, hygyrchedd/fforddiadwyedd technoleg gyflenwol, signal gwael mewn ardaloedd gwledig a mannau gwan ar gyfer derbyn band eang, a materion ehangach a all fod yn effeithio ar recriwtio, megis tai fforddiadwy, cyfleoedd i rannu cartrefi, a rhwystrau trafnidiaeth.
Bydd y ffocws allweddol ar ddangos cynaliadwyedd gwasanaeth, fforddiadwyedd a datrysiadau â’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion, y gellir eu darparu’n gyflym. Rydym yn bwriadu profi arloesiadau sy’n dod i’r amlwg / sy’n agos at fod ar y farchnad, trwy dreialon go iawn. Nid ydym yn gofyn am ddarnau dichonoldeb / ymchwil. Fodd bynnag rydym yn gofyn am werthusiadau trwyadl er mwyn creu sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygiad pellach a chynnydd, gyda ffocws craidd ar hygyrchedd a fforddiadwyedd i’r defnyddiwr terfynol, sydd yn ddelfrydol, yn rhad ac am ddim yn y man defnyddio i atal anghydraddoldebau mynediad a chydnabod y pwysau cyllidebol y mae darparwyr gwasanaeth yn parhau i’w hwynebu.
Os yw ceisiadau prosiect yn ceisio adeiladu ar dreialon blaenorol/profion ar raddfa fach, rhaid i geisiadau nodi’n glir sut y bydd y cyllid hwn yn helpu i gyflymu datblygiad ehangach, gan amlinellu unrhyw rwystrau mabwysiadu blaenorol a dangos sut yr eir i’r afael â’r rhain – a’i ategu gydag esboniad clir o ddulliau sy’n seiliedig ar le.
Rhaid i bob prosiect gynnwys cwsmer terfynol/cydweithredwr posibl Cymreig penodol, h.y. awdurdod lleol, sefydliad iechyd a/neu sefydliad trydydd sector, sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y prosiect i gynrychioli barn a rhoi adborth ar y datblygiad o safbwynt y defnyddiwr terfynol. Gellir cynnwys y cwsmer terfynol fel is-gontractwr yn y cais prosiect, gan gynnwys costau ar gyfer y rôl hon, a gall prosiectau gynnwys cwsmeriaid terfynol lluosog / isgontractwyr. Fodd bynnag, dylid nodi cyfraniad a rôl pob sefydliad yn glir, a dylid dangos tystiolaeth o’r ymrwymiad, yn ddelfrydol drwy gynnwys enwau unigolion perthnasol. Croesewir ceisiadau amlsector – yn arbennig ceisiadau sy’n dangos ac yn cefnogi dull integredig gyda phartneriaid Awdurdod Lleol, Iechyd a’r Trydydd Sector. Bydd marchnad ar-lein ar gael ar y platfform Simply Do i helpu i gefnogi datblygiad perthnasoedd cydweithredol cyn cyflwyno cais.
Rhaid i geisiadau her nodi’n glir sut y byddant yn ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth posibl ac yn eu cynnwys drwy gydol y broses o gyflawni’r prosiect er mwyn sicrhau bod unrhyw ddatrysiad a/neu wasanaeth yn cael ei ddylunio gyda’r bobl y bwriedir iddynt elwa arnynt, ac ar eu cyfer. Dylid cyflawni pob prosiect drwy ddulliau cyd-greu, gan alluogi derbynwyr gwasanaethau a’u teuluoedd), gofalwyr di-dâl, cydweithwyr gofal cymdeithasol, iechyd a thrydydd sector i fod yn rhan o’r broses brototeipio a phrofi, gan ddysgu sgiliau hanfodol a sicrhau bod datrysiadau wedi’u seilio ar y realiti sut mae systemau’n gweithio a chefnogi’r newid yn y dyfodol i ddarpariaeth ddigidol. Mae dull gweithredu cyd-greu, ystwyth ac ailadroddol yn hanfodol i ddangos adborth a bod syniadau gan ddefnyddwyr yn cael eu clywed a’u hymgorffori.
Dylai pob prosiect gynnwys elfen o feithrin sgiliau i sicrhau bod y rhai sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth a/neu ddefnyddio’r datrysiadau yn cael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gefnogi’r defnydd gorau posibl a mynd i’r afael â bylchau sgiliau/gallu sylfaenol. Dylid cynnwys cerrig milltir penodol i adlewyrchu hyn.
Bydd disgwyl i bob arweinydd prosiect gymryd rhan mewn cymuned ymarfer i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r potensial ar gyfer cydweithredu a throsglwyddo gwybodaeth ledled Cymru – mae hyn hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth/presenoldeb gan gwsmer(iaid) terfynol ac isgontractwyr y dyfodol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cydlynu’n effeithiol ac y gellir mynd i’r afael â rhwystrau/materion ar y cyd.
Sut gall datrysiadau fynd i’r afael â’r heriau?
Gall datrysiadau arloesol wneud y canlynol: –
- Dangos hyfywedd, y gallu i dyfu yn unol â’r anghenion a fforddiadwyedd dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau a/neu gomisiynu
- Cyflymu’r broses o fabwysiadu technoleg ddigidol a thechnoleg glyfar sy’n dod i’r amlwg i gefnogi lles pobl o bob oed yn eu cymunedau;
- Datblygu datrysiad sy’n seiliedig ar le, gan ddangos ymwybyddiaeth o’r cryfderau presennol mewn cymunedau ac amlinellu sut y bydd y prosiect yn adeiladu ar y cryfderau hynny;
- Annog newid ymddygiadol hirdymor, gan alluogi pobl i chwarae rhan weithredol yn eu lles eu hunain
- Cefnogi mynediad cyfartal at wasanaethau, o ran pwynt pris/fforddiadwyedd, cysylltedd a dewis iaith
Tu Hwnt i’r Cwmpas
Nid ydym yn bwriadu ariannu prosiectau:
- Nad oes ganddynt o leiaf un defnyddiwr/cydweithredwr sector cyhoeddus a/neu drydydd sector o Gymru (a dystiolaethir gan lythyr o gefnogaeth wedi’i lofnodi ar gyfer pob cydweithiwr).
- Sy’n canolbwyntio’n llwyr ar ddichonoldeb – rydym yn chwilio am enghreifftiau ymarferol yn y byd go iawn (nid papurau academaidd/ymchwil)
- Nad ydynt yn ymgysylltu â darpar gwsmeriaid y dyfodol i ddeall anghenion
- Nad ydynt yn mynd i’r afael â sut y bydd unrhyw ganlyniadau negyddol posibl yn cael eu rheoli
- Nad ydynt yn dangos tystiolaeth o sut y bydd y cais yn creu effaith economaidd neu gymdeithasol gadarnhaol
- Nad ydynt yn ystyried fforddiadwyedd ac ymarferoldeb gweithredu eang
- Nad ydynt yn bodloni safonau’r Gymraeg na dangos potensial ar gyfer swyddogaethau amlieithog.
Dyrannu Cyllid a Manylion Prosiect
Mae’r her hon yn agored i geisiadau sy’n cyflwyno naill ai prosiect Cam 2 neu Gam 3. Mae cyllid presennol o £1miliwn ar gael i gefnogi hyd at 5 prosiect – ond gall hyn fod yn agored i newid, yn dibynnu ar nifer/ansawdd y ceisiadau a dderbynnir. Y gyllideb amlinellol fesul prosiect Cam 2 neu Gam 3 yw hyd at £200,000, yn amodol ar argaeledd y gyllideb a graddfa/safon y ceisiadau prosiect a dderbynnir. Rydym yn cadw’r hawl i ystyried cyllideb uwch ar gyfer ceisiadau eithriadol os yw maint neu raddfa’r ddarpariaeth ledled Cymru yn cyfiawnhau hynny.
Bydd prosiectau’n cael eu dewis ar sail portffolio i sicrhau bod gweithgarwch a thystiolaeth yn cael eu casglu ar sail ddemograffig eang ledled Cymru.
Cam 2: arddangos a gwerthuso prototeip – Dylai hyn arwain at raglen arddangos neu beilot yn y byd go iawn i’w ddatblygu a’i brofi ar y cyd â defnyddwyr terfynol.
Cam 3: Ehangder a Graddfa – Cefnogi arddangos prosiectau llwyddiannus sy’n agos at y farchnad ar draws amrywiaeth o leoliadau/demograffeg yn ehangach, gan ddarparu tystiolaeth o’r potensial ar gyfer lledaeniad a graddfa ledled Cymru ar sail lle, gan ystyried asedau lleol, gwasanaethau presennol ac anghenion lleol heb eu diwallu.
Gellir hawlio costau prosiect ar gyfer y darparwr datrysiadau arloesi ac ar gyfer gofynion adnoddau staffio’r cwsmer terfynol/is-gontractwr yn y dyfodol. Dylid nodi hyn yn y cais her gan nodi rolau clir – yn ddelfrydol drwy enwi unigolion ar gyfer pob rôl.
Mae’n rhaid i’ch cais:
- Ddangos cynllun clir ar gyfer masnacheiddio a llwybr i’r farchnad ar gyfer datrysiadau fforddiadwy, datblygedig;
- Egluro’r cyfraniad cadarnhaol posibl at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru);
- Dangos sut mae’r datrysiadau a/neu’r gwasanaeth yn bodloni gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac yn cefnogi dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn;
- Ystyried, a rhoi sylw lle bo angen, i agweddau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws eich prosiect, eich sector(au) a chymdeithas;
- Mynd i’r afael â sut y bydd unrhyw ganlyniadau negyddol posibl yn cael eu rheoli;
- Gweithio drwyddi draw gydag o leiaf un defnyddiwr Cymraeg posibl yn y dyfodol;
- Dangos agwedd gynhwysol, gan ystyried unrhyw anghenion ychwanegol a allai atal defnyddwyr terfynol rhag cael mynediad at dechnoleg/gwasanaeth;
Sicrhau bod diogelwch personol yn hollbwysig a bod unrhyw risgiau wedi’u mynegi’n glir gyda mesurau lliniaru cadarn ar waith;
- Dangos y gallu i fodloni safonau’r Gymraeg, ac yn ddelfrydol, dangos y potensial ar gyfer gallu amlieithog i wella hygyrchedd
- Dylid cynnwys gwerthusiad llawn ar ôl cwblhau’r prosiect – dylai hyn gynnwys dadansoddiad o fanteision a dadansoddiad economaidd.
Noder y bydd mabwysiadu a gweithredu datrysiad o’r gystadleuaeth hon yn destun ymarfer caffael cystadleuol, ar wahân. Nid yw’r gystadleuaeth hon yn cwmpasu prynu unrhyw ddatrysiad, er y gallwn ddewis ymchwilio ac archwilio llwybrau caffael arloesol fel rhan o’r her hon.
Gall cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid ac mae’r cyllidwyr yn cadw’r hawl i addasu’r dyraniadau cyllid dros dro, h.y. pe bai cyllid ychwanegol ar gael.
Mae’r cyllidwr hefyd yn cadw’r hawl i ddefnyddio dull ‘portffolio’ i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws ystod eang o feysydd strategol a daearyddol. Mae hyn yn golygu y gall cynnig sy’n sgorio llai na’ch un chi fod yn llwyddiannus. Gellir lledaenu’r portffolio ar draws ystod o:
- feysydd cwmpas
- hyd prosiectau
- costau prosiect, gan gynnwys dangos gwerth am arian
Digwyddiad Briffio
Byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad briffio ar-lein tra bod yr her ar agor ar gyfer ceisiadau. Bydd y digwyddiad briffio cyntaf yn rhoi trosolwg cyffredinol o’r her a bydd yr ail ddigwyddiad briffio wedi’i anelu at roi arweiniad/cyngor ynglŷn â gwneud cais SBRI i sefydliadau trydydd sector a chyrff nid-er-elw a all fod yn llai cyfarwydd â’r broses,.
I gofrestru ar gyfer y Digwyddiad Briffio Rhithwir cyntaf, i’w gynnal ddydd Mercher, 25 Medi am 11am, dilynwch y ddolen isod:
Her Byw’n Dda Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Gofal yn y Cartref: Digwiddiad Briffio
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad briffio trydydd sector/sector dielw, i’w gynnal ddydd Mercher, 4 Hydref am 10am, dilynwch y ddolen isod:
Y Broses Ymgeisio
Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan drwy:
Her Byw’n Dda Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Gofal yn y Cartref
DYDDIADAU ALLWEDDOL
Dyddiad agor | 15 Medi 2023 |
Digwyddiad Briffio 1 | 27 Medi 2023 |
Digwyddiad Briffio 2 | 4 Hydref 2023 |
Dyddiad cau | 20 Hydref 2023 |
Asesiad | 24 – 26 Hydref 2023 |
Cytuno ar Restr Fer a rhoi gwybod i’r Cyflenwyr | 27 Hydref 2023 |
Cwrdd a Chyfarch Cyflenwyr | 6 Tachwedd 2023 |
Rhyddhau’r Canlyniadau | 8 Tachwedd 2023 |
Dyfarnu Contractau Cam 2/3 | 10 Tachwedd 2023 |
Prosiectau yn Cychwyn | 20 Tachwedd 2023 |
Cwblhau Prosiectau | 29 Tachwedd 2024 |
Dyddiad Cau Cyflwyno Adroddiad Terfynol | 11 Rhagfyr 2024 |
*Gall pob dyddiad newid
Pwy all wneud cais?
Mae’n bosibl i’r sefydliad sy’n arwain fod wedi’i leoli y tu allan i Gymru, ond rhaid cyfiawnhau pam na allai’r prosiect gael ei arwain gan sefydliad o Gymru yn y cais. Os yw’r sefydliad sy’n arwain wedi’i leoli y tu allan i Gymru, rhaid i chi gydweithio â sefydliad yng Nghymru.
Er mwyn arwain prosiect mae’n rhaid i’ch sefydliad fod:
- yn fusnes cofrestredig o unrhyw faint yn y DU, cwmni buddiant cymunedol (CIC) neu gorff nid-er-elw
- wedi’i leoli yng Nghymru neu’n cydweithio ag o leiaf un busnes wedi’i gofrestru yn y DU, sefydliad ymchwil, sefydliad sector cyhoeddus neu elusen yng Nghymru
- yn gwneud y gwaith prosiect yng Nghymru
O dan y cyfyngiadau presennol, ni fydd y gystadleuaeth hon yn ariannu unrhyw weithgarwch caffael, masnachol, datblygu busnes na chadwyn gyflenwi gydag unrhyw endid Rwsiaidd a Belarwseg fel arweinydd, partner neu is-gontractwr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw nwyddau neu wasanaethau sy’n tarddu o ffynhonnell Rwsiaidd a Belarwseg.
Atodiad 1 – Cyd-destun Polisi
Nod ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)’ yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod sy’n cynrychioli’r weledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru. Nawr mae angen i gyrff cyhoeddus feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dulliau sy’n fwy cydgysylltiedig. Rhaid i gyrff cyhoeddus weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau bod anghenion heddiw yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain yn y dyfodol. Mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus sicrhau eu bod wrth wneud penderfyniadau, yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw yng Nghymru yn y dyfodol.
Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf yn gosod fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 i rym ar 1 Ebrill 2023, ac mae’r gwaith o’i roi ar waith yn parhau. Nod y ddeddf yw:
- cryfhau’r Ddyletswydd Ansawdd bresennol ar gyrff y GIG gan ymestyn hyn i weinidogion Cymru mewn perthynas â’u swyddogaethau gwasanaeth iechyd
- sefydlu Dyletswydd Gonestrwydd sefydliadol ar ddarparwyr gwasanaethau’r GIG, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaeth pan gânt niwed yn ystod eu gofal
- cryfhau llais dinasyddion, trwy ddisodli Cynghorau Iechyd Cymuned gyda Chorff Llais y Dinesydd Cymru gyfan (a elwir yn Llais) a fydd yn cynrychioli buddiannau pobl ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
- galluogi penodi Is-gadeiryddion ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG, gan eu cysoni â Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020
Mae Cymru Iachach (llyw.cymru) yn nodi cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r cynllun hwn yn nodi gweledigaeth hirdymor ‘dull system gyfan at iechyd a gofal cymdeithasol’ ar gyfer y dyfodol sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles, ac ar atal salwch.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.