Her Technoleg Bwyd-Amaeth

Mae'r her hon yn chwilio am ddatblygiadau arloesol sy'n arwain at fwy o effeithlonrwydd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd mewn cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth ac amaethyddiaeth yng Nghymru, gan ddarparu buddion amgylcheddol a chyflymu'r newid i Sero Net.

Cwmpas

Yn 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Arloesi i Gymru. Roedd arloesi ym maes bwyd a thechnoleg amaeth yn cael ei ystyried yn rhan allweddol o ddatblygiad economaidd Cymru yn y dyfodol o fewn y ddogfen hon. Ddiwedd 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu tech-amaeth ar gyfer Cymru. Mae datblygu a mabwysiadu Tech-Amaeth a Tech-Amaeth Fanwl-Gywir yn faes strategol sy’n tyfu yn economi Cymru ac mae Llywodraeth Cymru’n credu eu bod yn teilyngu sylw manwl a map trywydd ar gyfer eu datblygu. Mae pedair blaenoriaeth i’r cynllun gweithredu:

  1. Meithrin Galluoedd Tech-Amaeth yng Nghymru
  2. Sbarduno mabwysiadu Tech-Amaeth ar ffermydd er mwyn cynyddu cynhyrchiant a bod yn fwy effeithlon (gan gynnwys Amgylcheddol) – ‘mwy am lai’
  3. Sicrhau manteision amgylcheddol a helpu i gyrraedd Sero Net.
  4. Helpu i ddatblygu sgiliau ac addysg i roi’r galluoedd i weithwyr proffesiynol amaeth heddiw ac yfory i wneud y defnydd gorau posib o dechnoleg amaeth.

Mae’r Weledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod o 2021 yn amlinellu Gweledigaeth a Chenhadaeth eang ar gyfer datblygu’r Diwydiant Bwyd a Diod yn y dyfodol, ac yn cynnwys twf economaidd a gwella cynhyrchiant, gan fod o fudd i bobl a chymdeithas gyda phwyslais ar waith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol, a chodi enw da’r diwydiant Bwyd a Diod. Mae technoleg ac arloesedd yn cael eu nodi fel sbardun allweddol wrth sicrhau twf cynaliadwy i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac felly’n darparu marchnad allweddol ar gyfer cynnyrch amaethyddol yng Nghymru.

Mae bwyd yn rhan allweddol o’r Economi Sylfaenol, ac mae amcanion yr Economi Sylfaenol wedi’u hymgorffori yn y Weledigaeth, yn ogystal ag yn y polisïau a’r strategaethau o bob rhan o Lywodraeth Cymru a fydd yn cefnogi’r gwaith o’i gyflawni, fel iechyd y cyhoedd, cymunedau, cynaliadwyedd, yr economi gylchol, datgarboneiddio, masnach, sgiliau a thwristiaeth. Yn ogystal, mae’r gweithgareddau a nodir isod yn cefnogi mentrau eraill Llywodraeth Cymru fel y Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Mae’r Sector Sylfaen Bwyd wedi’i ddiffinio i gwmpasu pob rhan o’r gadwyn gyflenwi bwyd a diod.

Thema Her

Nod y gronfa her o £500,000 yw cefnogi prosiectau dichonoldeb a all ddechrau mynd i’r afael â’r amcanion sydd wedi eu nodi yn yr her.

Er mwyn cefnogi blaenoriaethau’r cynlluniau a ddisgrifir uchod, thema’r Her yw datblygu arloesedd yn y sectorau amaethyddol a bwyd, gan ymgorffori technolegau newydd ar y fferm neu ar draws cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth ehangach gan gynnwys gweithgynhyrchu a chynhyrchu.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn contractau Ymchwil a Datblygu i gyflawni:

Cam 1: Dichonoldeb – Rydym am ariannu hyd at 10 prosiect sydd â gwerth o hyd at £50,000 yr un (gan gynnwys TAW).

Sylwer: Bydd prosiectau sy’n llwyddiannus yng ngham 1 yn gymwys i wneud cais yn ystod camau dilynol. Bydd camau ychwanegol yn dibynnu ar ganlyniadau Cam 1 a dyraniad cyllid yn y dyfodol.

Bydd y prif ffocws ar ddangos y potensial ar gyfer fforddiadwyedd a datrysiadau y bydd modd eu darparu a’u ehangu’n gyflym.

Os yw ceisiadau prosiect yn ceisio adeiladu ar dreialon/profion blaenorol ar raddfa fach, rhaid i geisiadau fynegi yn glir sut y bydd y cyllid hwn yn helpu i gyflymu datblygiad mwy eang, gan amlinellu unrhyw rwystrau blaenorol o ran eu mabwysiadu, a dangos sut y bydd y rhain yn cael sylw.

Sut y gall datrysiadau fynd i’r afael â’r heriau?

Gallai datrysiadau arloesol gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i): –

  • Amaethyddiaeth a busnesau bwyd a diod yn mabwysiadu technolegau AI ,
  • Gweithgareddau sy’n ymwneud â defnydd pridd a thir,
  • Pennu gwerth gwastraff neu leihau gwastraff a gynhyrchir ar wahanol adegau ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, wastraff ar y fferm, gan gynnwys gwastraff anifeiliaid, gwastraff plastig, ac ati.
  • mabwysiadu neu ddatblygu bwydydd gweithredol neu fwydydd dyfodol,
  • ychwanegu gwerth at gynnyrch amaethyddol ac,
  • adnabod systemau cynhyrchu arloesol, amgen.

Y Tu allan i’r Cwmpas

  • Ddim yn dangos ymgysylltu clir â’r cadwyni cyflenwi amaethyddol a bwyd yng Nghymru.
  • Ddim yn gallu dangos tystiolaeth o ymgysylltu â darpar gwsmeriaid y dyfodol i ddeall anghenion.
  • Methu ag ystyried fforddiadwyedd ac ymarferoldeb gweithredu’n eang.
  • Methu ag ystyried sgîl-effeithiau posibl a dulliau o’u lliniaru, er enghraifft, effeithiau amgylcheddol.

Dyraniad Cyllid a Manylion y Prosiect

Mae’r cyllid presennol o £500,000 ar gael i bortffolio o brosiectau – a all fod yn destun newid, yn ddibynnol ar nifer/ansawdd y cyflwyniadau a dderbynnir.

Rhaid profi costau’r prosiect yn glir a dangos gwerth am arian.  Rydym yn cadw’r hawl i ystyried cyllideb uwch ar gyfer ceisiadau eithriadol os yw graddfa’r ddarpariaeth ar draws Cymru yn cyfiawnhau hynny.

Bydd prosiectau’n cael eu dewis ar ddull portffolio i sicrhau bod gweithgarwch a thystiolaeth yn cael eu casglu ar sail ddemograffig eang ledled Cymru.

Gellir hawlio costau prosiect ar gyfer darparwr y datrysiad arloesi ac ar gyfer cydweithwyr/is-gontractwyr ychwanegol. Fodd bynnag, dylid nodi hyn o fewn y cais her, a nodi rolau yn eglur (yn ddelfrydol gan enwi unigolion ar gyfer pob rôl).

Efallai y bydd amserlenni’n destun newid, ond bydd hyn yn cael ei ystyried ar sail prosiect, a bydd y dyraniad cyllid yn aros yr un fath.

Dylai eich cais:

  • Gynnwys o leiaf un busnes yng Nghymru sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi amaethyddol neu fwyd.
  • Dangos cynllun clir ar gyfer datblygu llwybr i’r farchnad ar gyfer datrysiadau fforddiadwy, datblygedig.
  • Esbonio’r cyfraniad cadarnhaol posibl lle bo’n berthnasol i nodau Strategaeth Arloesi Cymru., Cynllun gweithredu Technoleg Amaeth Cymru: Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod o 2021, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
  • Ystyried, a mynd i’r afael lle bo angen ag agweddau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws eich prosiect, eich sector(au) a chymdeithas.
  • Tystiolaeth o sut mae buddion amgylcheddol wedi cael eu hystyried (h.y. sicrhau nad yw mwy o effeithlonrwydd ar gost amgylcheddol/moesegol
  • Sicrhau bod diogelwch personol o’r pwys mwyaf a nodi unrhyw risgiau’n glir gyda dulliau lliniaru cadarn ar waith.
  • Cynnwys gwerthusiad llawn ar ôl cwblhau’r prosiect – dylai hyn gynnwys dadansoddiad o fanteision a dadansoddiad economaidd.

Sylwch y byddai mabwysiadu a gweithredu unrhyw ddatrysiad o’r gystadleuaeth hon yn destun ymarfer caffael ar wahân, allai fod yn gystadleuol o bosibl.

Nid yw’r gystadleuaeth hon yn cynnwys prynu unrhyw ddatrysiad er y gallwn ddewis ymchwilio ac archwilio llwybrau caffael arloesol fel rhan o’r her hon.

Gall cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid ac mae’r cyllidwyr yn cadw’r hawl i addasu’r dyraniadau cyllid dros dro, hynny yw pe byddai cyllid ychwanegol ar gael.

Mae’r cyllidwr hefyd yn cadw’r hawl i gymhwyso dull ‘portffolio’ i sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu ar draws ystod eang o feysydd strategol a daearyddol. Gall hyn olygu y gallai cynnig sy’n sgorio llai na’ch un chi fod yn llwyddiannus. Gellir lledaenu’r portffolio ar draws:

  • meysydd sgôp
  • hyd prosiectau
  • costau’r prosiect, gan gynnwys arddangos gwerth am arian.

Cyn i chi ddechrau

Trwy gyflwyno cais, rydych yn cytuno i delerau’r contract drafft sydd ar gael o fewn gwybodaeth ategol yr her (‘Cysylltiadau Defnyddiol a Dogfennau). Ni ellir trafod telerau’r contract ac fe’u cynhwysir yn y contract drafft.

Bydd y contract terfynol yn cynnwys unrhyw gerrig milltir yr ydych wedi cytuno arnynt gyda’r awdurdod cyllido ac yn cael eu hanfon atoch os bydd eich cais yn llwyddiannus. Mae’r contract yn rhwymol unwaith y bydd yn cael ei ddychwelyd gennych chi a’i lofnodi gan y ddau barti.

Fel ymgeisydd, rydych yn gyfrifol am:

  • Casglu’r wybodaeth ar gyfer eich cais
  • cynrychioli eich sefydliad wrth arwain y prosiect os yw eich cais yn llwyddiannus

Digwyddiadau Briffio

I gofrestru ar gyfer y Digwyddiad Briffio rhithwir, i’w gynnal (Dydd Mawrth 12fed Tachwedd, 10:00yb), dilynwch y ddolen isod:

SBRI Challenge Agri-Food Tech Briefing Event

Y Broses Ymgeisio

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon drwy:

Agri-Food Technology Challenge Fund | SBRI Centre of Excellence (simplydo.co.uk)

 

DYDDIADAU ALLWEDDOL Dyddiad agored  

04 Tachwedd 2024

Digwyddiadau Briffio 12 Tachwedd 2024
Dyddiad cau 29 Tachwedd 2024
Asesu 02-04 Rhagfyr 2024
Cytuno ar restr fer a rhoi gwybod i gyflenwyr 6 Rhagfyr 2024
Rhyddhau Penderfyniad 11 Rhagfyr 2024

 

Atodiad 1 – Y Cyd-destun Polisi

Cynllun Tech-amaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cefnogi Ffermwyr i Ffermio (llyw.cymru)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: yr hanfodion [HTML] | LLYW.CYMRU

Cymru Iachach (llyw.cymru)

Cymru’n Arloesi: Creu Cymru gryfach, decach a gwyrddach (llyw.cymru)

Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod o 2021

Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru ,

Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 29th November 2024