Her Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol Plant a Phobl Ifanc

Sut gallwn ni ddarparu cefnogaeth ddigidol o gwmpas ymyriad ac atal cynnar i blant a phobl ifanc rhwng 8-11 oed i feithrin gwytnwch yn eu hiechyd a’u lles emosiynol?

Mae iechyd a lles emosiynol ar agenda pawb.  Mae mwy o blant a phobl ifanc yn profi iechyd meddwl a lles emosiynol gwael gan gynnwys lefelau cynyddol o bryder, iselder a hunan niweidio. Mae’r galw am gefnogaeth yn cynyddu ar draws bob sector gwasanaeth ac er gwaethaf ymdrechion pawb, mae gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc ar hyn o bryd yn amrywio’n fawr ar draws Gogledd Cymru. Nid yw llwybrau gofal bob amser yn glir, ac nid yw cyfeiriadau at wasanaethau bob amser yn briodol.

 

Bydd y ffrwd gwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol (rhan o’r Rhaglen Trawsnewid Plant a Phobl Ifanc yng Ngogledd Cymru) yn datblygu fframwaith a fydd yn:

  • Cwmpasu’r ‘Pum Ffordd at Lesiant’
  • Yn ddwyieithog, yn unol â deddf yr Iaith Gymraeg
  • Yn tanategu datblygiad adnoddau
  • Cael ei fapio yn erbyn cerrig milltir datblygiadol plant 8-11 oed
  • Yn canolbwyntio ar ymyriad cynnar i blant a’u teuluoedd

 

Yr her SBRI yw i benderfynu ar y dull digidol mwyaf effeithiol i sicrhau bod cynnwys y fframwaith yn hygyrch i ddefnyddwyr sy’n cynnwys y plentyn / unigolyn ifanc, rhiant/gofalwr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, a bydd yn cael ei gynnal ar sail barhaus.  Bydd cynnwys y fframwaith yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymarfer, ac yn cael ei arwain gan y rhai sy’n gweithio ym meysydd iechyd meddwl, addysg a gofal cymdeithasol.

Byddai datrysiad angen ystyried y canlynol:

  • Hunan gymorth dan arweiniad i blant a’u teuluoedd
  • Profiadau gwahanol sy’n gyffrous a deniadol i ddefnyddwyr yn dibynnu pwy ydynt e.e. plant, rhieni, gweithwyr proffesiynol
  • Hawdd eu llywio
  • Angen dangos gallu dwyieithog ar gyfer cam 2
  • Addasadwy (e.e. brandio ar gyfer plant 8-11 oed a ganddynt)
  • Gellir ei gynnal gan ddefnyddwyr perthnasol (e.e. diweddaru cynnwys)
  • Gallu addasu a thyfu
  • Yn fforddiadwy, dangos gwerth am arian
  • Gallu dadansoddi defnydd

 

Bydd her SBRI yn agwedd ‘carlam’ 2 Gam sydd wedi’i fanylu isod, i’w gwblhau erbyn diwedd Ionawr 2022.

 

Strwythur yr Her:

Cam 1

Ymarferoldeb ac Arddangoswr – Rydym yn edrych i ariannu hyd at bedwar prosiect hyd at £10,000.00 yr un, yn cynnwys TAW, i’w cyflwyno dros gyfnod o 2 fis.   Oherwydd natur gyflym y prosiect, byddai’r datrysiadau ar ddiwedd y cam hwn ar ffurf prototeip yn barod i’w arddangos yn y cam nesaf.

 

Cam 2

Datblygu a Phrofi – Fe all y prosiectau mwyaf addawol yng Ngham 1 gael y cyfle i gael mynediad at gyllid ychwanegol i gael eu datblygu ymhellach a phrofion cadarn.  Gall ymgeiswyr llwyddiannus geisio am gyfran o £40,000.00 yn cynnwys TAW, gyda’r bwriad o ddatblygu dau brosiect Cam 1 (£20,000 yr un) i ddarparu sicrwydd, dilysiad a phrawf bychan o gysyniad.   Dylai’r datrysiad ar ddiwedd y cam hwn fod yn fasnachol ymarferol ac yn barod i’w brynu.

Dyddiadau Allweddol:

Carreg filltirDyddiadau allweddol ** gallant newid
Lansiad yr Her2 Awst 2021
Digwyddiad briffioWythnos yn dechrau 16 Awst 2021
Dyddiad cau31 Awst 2021
Cyfarfod  â chyflenwyr

Bydd y Bwrdd yn sgorio ceisiadau 1-5

Wythnos yn dechrau 6 Medi 2021
Gwobrwyo Cytundebau ar gyfer Cam 113 Medi 2021
Dechrau Cam 14 Hydref 2021
Dechrau Cam 229 Tachwedd 2021
Cau’r Prosiect24 Ionawr 2022

 

Digwyddiad Briffio

 

Dilynwch y ddolen isod i gofrestru eich diddordeb ar gyfer y Digwyddiad Briffio.

 

Manylion a ychwanegwyd yn fuan

 

https://www.eventbrite.co.uk/e/sbri-briefing-event-emotional-health-wellbeing-and-resilience-challenge-tickets-165732294755

 

GWYBODAETH BELLACH

 

Am fwy o wybodaeth ar y gystadleuaeth hon, ewch i: https://sdi.click/ehwr

 

 

Am unrhyw ymholiadau ynghylch y gystadleuaeth, e-bostiwch: SBRI.COE@wales.nhs.uk

 

Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.