Cefnogi ein cymunedau, busnesau a'r sector cyhoeddus yn ystod y pandemig a thu hwnt
Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.Cwmpas
Mae Covid-19 wedi effeithio’n sylweddol ar gymunedau, cymdeithasau ac unigolion ac hynny’n gorfforol, yn feddyliol, yn economaidd, o ran colli swyddi ac incwm, safonau byw a rhagor o bwysau ar wasanaethau meddygol a chymdeithasol.
Er mwyn helpu adferiad, bydd Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI yn rhoi arian i sefydliadau ddatblygu cynnyrch neu wasanaethau newydd a fydd yn cefnogi ein hiechyd a’n llesiant yn y tymor hir, gan ganolbwyntio ar fywydau gwell yn nes at adref. Mae’n rhaid i’ch ateb helpu cymunedau, busnesau neu’r sector cyhoeddus i addasu i fygythiadau parhaus Covid-19 a’r blaenoriaethau cynnydd sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Economaidd: Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru.
Gwahoddir ceisiadau i gyflawni prosiectau ymchwil a datblygu ar gyfer astudiaeth ddichonolrwydd cyflym, gyda chyllid o hyd at £50,000, yn cynnwys TAW, ar gael. Gydag amlen o £250k, rydyn ni’n disgwyl ariannu hyd at 5 prosiect i gyd (neu fwy os bydd y gyllideb yn caniatáu) a bydd rhaid i’r prosiectau llwyddiannus ddechrau ym mis Ionawr 2021 a gorffen erbyn diwedd mis Mawrth 2021.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau nodi a chefnogi prosiectau a fydd yn cefnogi bywydau gwell yn nes at adref ac yn cyd-fynd â’r themâu allweddol canlynol:
Twf Gwyrdd – galluogi busnesau a chymunedau i addasu i heriau parhaus COVID-19 gan ganolbwyntio ar Gymru iachach, lanach a mwy cynaliadwy. Rydyn ni’n chwilio am atebion sy’n galluogi pobl i barhau i weithio’n nes at adref, gan ystyried hygyrchedd a diogelwch a chynnal ymdeimlad o gymuned a chysylltiad. Gallai hyn olygu galluogi cymunedau i gefnogi economi gylchol, lleihau gwastraff neu ddefnyddio adnoddau presennol yn fwy effeithlon, ddefnydd arall ar gyfer adeiladau, neu fynd i’r afael â lefelau uchel o draffig neu allyriadau diwydiannol.
Cynnal a diogelu cadwyni cyflenwi – Cefnogi cadwyni cyflenwi busnes sy’n seiliedig ar leoedd ac anghenion ac sy’n sicrhau swyddi a diogelu yn erbyn rhagor o amhariadau ar y gadwyn gyflenwi fel bod ein cymunedau yn gallu cael bwyd iach neu leihau tlodi bwyd, yn arbennig y rheini sy’n archwilio dulliau carbon isel neu garbon niwtral, gan ganolbwyntio ar fforddiadwyedd a chyflenwad parhaus. Gall hyn gynnwys dulliau tyfu arloesol, lleihau/addasu gwastraff a logisteg.
Cefnogi llesiant meddyliol a chorfforol pob cenhedlaeth – cynnyrch a gwasanaethau newydd sy’n mynd i’r afael ag iechyd meddwl, mynediad at ofal neu wytnwch cymunedau. Gallai’r prosiectau geisio cael gwell mynediad at adnoddau yn y gymuned i wella llesiant, neu gynyddu hygyrchedd teithio llesol; atebion a allai leihau effaith cyfyngiadau’r gaeaf ar lesiant corfforol a meddyliol unigolion. Efallai bydd prosiectau eraill yn cynyddu mynediad at brofiadau diwylliannol, gan gefnogi’r diwydiannau creadigol y mae COVID-19 yn effeithio’n sylweddol arnynt; a sicrhau bod ein cymunedau’n parhau i werthfawrogi celfyddydau, diwylliant ac amgylchedd adnabyddus Cymru.
I weld y briff llawn am yr her, ewch i Resources