Cyflymu diagnosis, dulliau rheoli a chymorth i bobl sydd wedi cael diagnosis yn cadarnhau canser yng Nghymru a Gogledd Iwerddon

Mae’r Her Canser gyffrous hon, a'r gyntaf o’i bath, yn gydweithrediad rhwng Canolfan Ragoriaeth SBRI yng Nghymru a’r Uned Arloesedd a Datblygu’r Farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r her yn ceisio arloesiadau sy’n sicrhau diagnosis cynharach, cyflymach, gostyngiad mewn amseroedd aros, gwelliannau o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd triniaethau a chymorth â gofal lliniarol.

Canser yw prif achos marwoldeb yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Yng Nghymru*, bu cynnydd o 25% yn nifer y diagnosisau newydd yn cadarnhau canser yn 2019 o gymharu â 2002, a rhagwelir y bydd hyn yn parhau hyd at o leiaf 2030. Yng Ngogledd Iwerddon**, bu cynnydd o dros 54% dros y 25 mlynedd diwethaf yn nifer yr achosion o ganser sydd wedi’u cadarnhau trwy ddiagnosis a rhagwelir y bydd y nifer wedi dyblu erbyn 2040.

Mae canfod canser yn gynnar yn benderfynydd allweddol ar gyfer cyfraddau goroesi canser gwell, ac mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar fynediad at brofion diagnosis a thriniaethau ar gyfer cleifion canser. Mae ystadegau diweddar* yn dangos bod llai na 30% o gleifion Gogledd Iwerddon wedi dechrau eu triniaeth canser o fewn 62 diwrnod ar ôl cyfeiriad brys gan feddyg teulu a dim ond 55% yng Nghymru. Gall lleihau’r oedi hwn wrth drin cleifion ar lwybr canser wella profiad y claf a chanlyniadau llwyddiannus y driniaeth yn aruthrol.

*Ffynhonnell StatsCymru – Mai 2024

**Ffynhonnell – NI Cancer Waiting Times – Ionawr-Mawrth 2024,

Roedd cyfeiriadau ynghylch canser a amheuid, y galw am brofion diagnostig a rhai triniaethau megis imiwnotherapi yn cynyddu’n gyflym cyn y pandemig ac roedd systemau gofal iechyd yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r galw hwn. Yn ddiamau, mae hynny wedi gwaethygu erbyn hyn.

Mae’r data*** sydd ar gael yn dangos ei bod yn debygol y bydd cynnydd sylweddol mewn therapi gwrth-ganser Systemig (SACT) a gweithgarwch radiotherapi yn ystod y blynyddoedd sy’n dod. Mae ein dadansoddiad yn awgrymu cynnydd o fwy na 70% mewn gweithgarwch ar gyfer y ddau fath o driniaeth erbyn 2030. Mae hyn yn seiliedig ar y twf disgwyliedig yn nifer y bobl sydd â chanser dros yr amser hwnnw, ond yn bwysicach, y cynnydd uwch na’r disgwyl o ran gweithgarwch therapi a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n debygol, felly, na fydd capasiti’r gwasanaeth a’r gweithlu presennol yn ddigonol i ateb y galw cynyddol tebygol.
***Ffynhonnell – York Health Economics Report, Tachwedd 2023

Ceir uchelgeisiau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon i wella canlyniadau cleifion canser a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Ymhlith y nodau allweddol mae diagnosis cynharach, triniaethau cyflymach a mwy o ddefnydd o dechnoleg ac arloesiadau. Mae’r ddwy strategaeth yn amlinellu cynlluniau ar gyfer cleifion sy’n byw gyda chanser na ellir eu gwella neu sy’n marw o ganser, i sicrhau eu bod yn cael safon well o ofal diwedd oes sy’n wedi’i deilwra i’w anghenion unigol a’i bersonoli.

Mae angen ymdrech ddi-baid i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd profion diagnostig a thriniaethau, sicrhau’r gofal priodol ar gyfer cleifion priodol ar adegau priodol, a datblygu gwasanaeth cynaliadwy drwy fabwysiadu technolegau newydd, arloesiadau o ran y gweithlu a thriniaethau.

Mae’r her hon yn ceisio sefydlu arloesiadau datblygol sydd bron yn barod i’w masnacheiddio â diogelwch ac effeithiolrwydd profedig ar gyfer profion byd go iawn a wnaiff sicrhau diagnosis cynharach a chyflymach, gostyngiad mewn amseroedd aros, gwelliannau o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd triniaethau a chymorth trwy ofal lliniarol (galluogi pobl i fyw’n dda a marw’n dda â chanser). Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus, a’u partner yn y sector cyhoeddus, arddangos a/neu ehangu a lledaenu prosiectau arloesol a all amlygu tystiolaeth o fanteision posibl, cost effeithiolrwydd a chynaliadwyedd eu datrysiadau.

Thema’r Her

Yn nodweddiadol, mae heriau SBRI yn cychwyn â cham Dichonoldeb (Cam 1), ond yn achos yr her hon, rydym yn ceisio treialon yn y ‘byd go iawn’, ac felly, ni fyddwn yn cefnogi Cam 1 na 2. Rydym yn ceisio nodi a chefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau cydweithredol Cam 3 sy’n gallu amlygu potensial atebion datblygol sydd bron yn barod i’w masnacheiddio, a’r gallu i’w hehangu.

Dylai canlyniadau llwyddiannus amlygu gwelliannau mesuradwy o ran canlyniadau i gleifion canser, lleihau anghydraddoldebau iechyd a chyflawni datblygiadau o ran effeithiolrwydd/effeithlonrwydd mewn un neu fwy o’r meysydd allweddol canlynol:

  • Sgrinio am ganser/diagnosio canser yn gynharach
  • Diagnosis cyflymach
  • Lleihau amseroedd aros
  • Dulliau trin canser gan gynnwys Llawdriniaethau, Radiotherapi a Therapi Systemig
  • Gwasanaethau Oncoleg Acíwt
  • Gwasanaethau Canser Arbenigol
  • Gofal Lliniarol

Bydd y ffocws allweddol ar dreialon yn y byd go iawn ynghylch arloesiadau datblygol sydd bron yn barod i’w masnacheiddio yng Ngogledd Iwerddon a/neu Gymru, a dylai’r atebion hynny allu cynnig effeithiolrwydd, cynaliadwyedd gwasanaethau, fforddiadwyedd a dichonoldeb datrysiadau y gellir eu darparu’n gyflym (bydd dichonoldeb ariannol yn allweddol). Nid ydym yn chwilio am brosiectau ymchwil megis astudiaethau dichonoldeb cynnar neu astudiaethau cynhyrchu tystiolaeth sydd â’r nod o ddatblygu’r cynnyrch/datrysiad ymhellach.

Fodd bynnag, rydym yn ceisio gwerthusiadau trwyadl ac adroddiadau ynghylch pa mor barod yw’r datrysiadau i’w mabwysiadu sy’n ategu’r sylfaen dystiolaeth ofynnol ar gyfer datblygu gwasanaethau a’r posibilrwydd o ehangu’r gwasanaeth a geisir ledled Cymru a Gogledd Iwerddon ond a allai fod yn ddilys mewn cyd-destunau gofal iechyd eraill.

Os yw ceisiadau am brosiectau yn ceisio adeiladu ar sylfaen dreialon blaenorol/profion ar raddfa fechan sydd wedi’u cynnal yn y byd go iawn, rhaid i geisiadau esbonio’r cam nesaf yn eglur ac esbonio sut y bydd y cyllid hwn yn helpu i gyflymu’r gwaith hwn, gan amlinellu unrhyw rwystrau blaenorol o ran mabwysiadu ac amlygu sut yr eir i’r afael â’r rhain.

  • Gwahoddir ceisiadau sy’n cynnwys cydweithredwr iechyd, sector cyhoeddus neu drydydd sector penodol yng Nghymru neu Ogledd Iwerddon sydd wedi ymrwymo i’w cyfranogiad yn y prosiect, ac fel tystiolaeth i gadarnhau hynny, bydd angen llythyr cefnogi wedi’i lofnodi. Fodd bynnag, caiff arloesiadau eu gwerthuso ar sail eu teilyngdod, a byddwn yn ymdrechu i hwyluso partneriaethau ar gyfer y rhai nad ydynt wedi sefydlu unrhyw berthnasoedd ar hyn o bryd.
  • Dylid cynnwys cyllid ar gyfer costau cydweithredwyr fel cost is-gontractwr yn y ceisiadau am brosiectau.
  • Gall prosiectau gynnwys mwy nag un is-gontractwr. Fodd bynnag, dylid nodi cyfranogiad a rôl pob sefydliad yn eglur, a dylid dangos tystiolaeth o’r ymrwymiad, yn ddelfrydol gydag unigolion a enwir wedi’u nodi yn y cais.
  • Croesawir ceisiadau amlsector, yn enwedig ceisiadau sy’n amlygu buddion sylweddol i sefydliadau’r GIG a rhai’r Trydydd Sector.
  • Croesewir partneriaid academaidd hefyd, yn enwedig mewn perthynas â gwerthuso annibynnol a bodloni gofynion o ran unrhyw brofion technegol/gwyddonol gofynnol.

Cyn dyfarnu contract, bydd angen i geisiadau llwyddiannus gynnig tystiolaeth i gadarnhau eu bod wedi cael ardystiad perthnasol i fod mewn sefyllfa addas i fwrw ymlaen â’r arddangosiad ar ddechrau’r prosiect.

Y tu Hwnt i’r Cwmpas 

Nid ydym yn bwriadu ariannu prosiectau:

  • Sy’n cynnig arloesiadau cynnar sydd heb gael eu cymeradwyo gan gyrff rheoleiddio hyd yn hyn (e.e., marciau CE, MHRA, Treialon Clinigol, ac ati);
  • Sy’n integreiddio ag unrhyw systemau cenedlaethol yn ystod y treial SBRI hwn ond y bydd angen iddynt fod yn gydnaws â systemau’r Bwrdd Iechyd ar gyfer unrhyw gaffael yn y dyfodol (ar ôl cwblhau prosiect SBRI);
  • Sy’n canolbwyntio’n llwyr ar ddichonoldeb – rydym yn chwilio am enghreifftiau ymarferol yn y byd go iawn (nid papurau academaidd/ymchwil);
  • Sydd ddim yn cynnig tystiolaeth i ddangos eu bod yn ymgysylltu â darpar gwsmeriaid y dyfodol i ddeall anghenion
  • Sydd ddim yn ymdrin â sut y byddai unrhyw ganlyniadau negyddol posibl yn cael eu rheoli;
  • Sy’n methu â chynnig tystiolaeth i gadarnhau sut y bydd cynnig yn creu effaith economaidd neu gymdeithasol gadarnhaol;
  • Sydd ddim yn ystyried fforddiadwyedd ac ymarferoldeb gweithredu eang gan gynnwys cyfalaf, seilwaith a chostau gweithredu yn y dyfodol.

Cyflawniadau a Ddymunir

Nod y cyllid yw cynhyrchu tystiolaeth o’r byd go iawn i hwyluso’r gwaith o sefydlu’r arloesedd yn lleol neu’n rhanbarthol yn gyflym. Disgwylir i gynigion a gymeradwyir allu cyflawni rhywfaint o’r canlynol erbyn adeg cwblhau eu prosiect:

  • Arddangos effeithiolrwydd gweithredu a chynhyrchu canllaw gweithredu diffiniedig lle bo’n briodol;
  • Tystiolaeth ynghylch yr effaith ar iechyd a’r effaith ariannol: dadansoddiad economeg iechyd (h.y., dadansoddiad cost a budd, model effaith cyllidebol);
  • Gwerthusiad annibynnol o’r arloesedd i amlygu ei effaith mewn lleoliadau yn y byd go iawn;
  • Asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd ac ar gynaliadwyedd;
  • Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Anghyfartaleddau Iechyd;
  • Datblygu partneriaeth i allu gweithredu’r datrysiad mewn nifer o safleoedd;
  • Achos Busnes y GIG (e.e., achosion busnes caffael i gynorthwyo i ddod yn ‘fusnes fel arfer’ drwy lwybrau comisiynu safonol, cynnwys y datrysiad mewn fframweithiau caffael ayyb);
  • Dull comisiynu neu gaffael diffiniedig;
  • Tystiolaeth berthnasol arall i sicrhau y caiff y datrysiad ei fabwysiadu yn lleol ar ôl cwblhau’r prosiect, a chynlluniau ar gyfer lledaenu a mabwysiadu ymhellach (e.e., cynllun ehangu a chynllun strategol i alluogi mabwysiadu’r datrysiad a’i ledaenu, datblygu offerynnau marchnata);
  • Cynllun cynyddu ar gyfer y cwmni (e.e. staff, arian, cyflenwadau ac ati).

Dyrannu Cyllid a Manylion Prosiect  

Mae’r her hon yn agored i geisiadau sy’n cyflwyno naill ai prosiect Cam 2 neu Gam 3. Mae cyllid presennol o £1,000,000 ar gael i gefnogi portffolio o brosiectau, ond gallai hynny newid, yn dibynnu ar nifer/ansawdd y ceisiadau a dderbynnir. Rydym yn chwilio am ystod eang o brosiectau, o arddangosiadau cyflym neu gost isel i arddangoswyr ar raddfa fawr. Rhaid i’r holl gostau gael eu profi’n bendant a rhaid amlygu gwerth am arian a pharodrwydd i dderbyn cyfraniadau priodol gan y darparwr i helpu i gyflawni’r prosiect. Rydym yn cadw’r hawl i ystyried cyllideb uwch ar gyfer ceisiadau eithriadol os bydd maint y ddarpariaeth ledled Cymru yn cyfiawnhau hynny.

Bydd prosiectau’n cael eu dewis ar sail portffolio i sicrhau bod gweithgarwch a thystiolaeth yn cael eu casglu ar sail ddemograffig eang ledled Cymru a/neu Ogledd Iwerddon.

Rydym yn ceisio ymgeiswyr a all gynnig ceisiadau sy’n amlygu lefel uchel o ymrwymiad a haelioni i weithio trwy bartneriaeth â’n sefydliadau iechyd a gofal a rhanddeiliaid allweddol wrth i ni nodi arloesiadau y gellid eu darparu ar raddfa eang er budd dinasyddion Cymru a Gogledd Iwerddon. Bydd tîm y prosiect yn cael cymorth yn rheolaidd a bydd Grŵp Rhanddeiliaid ymroddedig yn cydweithio’n agos dros y prosiect i ddeall y rhwystrau a’r galluogwyr allweddol, sydd wedi’u hymgorffori mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â mabwysiadu arloesedd ar y lefel genedlaethol, a bydd cymorth yn cael ei gynnig i amlinellu’r goblygiadau o ran ehangu ar y lefel genedlaethol. Bydd yr allbynnau terfynol a’r gwersi a ddysgir yn cael eu cyflwyno i uwch arweinwyr ym maes iechyd a gofal yn y ddwy wlad ac i swyddogion y llywodraethau.

Cam 3: Lledaenu ac Ehangu – Cefnogi prosiectau arddangos ehangach ynghylch datrysiadau datblygol sydd bron iawn yn barod i’w marchnata ar draws amrywiaeth o leoliadau/grwpiau demograffig, gan gynnig tystiolaeth i gadarnhau’r potensial i’w lledaenu a’u hehangu ledled Cymru a Gogledd Iwerddon gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar leoedd a gan ystyried asedau lleol, gwasanaethau presennol ac anghenion lleol sydd heb eu diwallu.

Gellir hawlio costau prosiect ar gyfer darparwr y datrysiad arloesol ac ar gyfer gofynion adnoddau staffio’r cydweithredwr ym maes iechyd, y trydydd sector neu’r sector cyhoeddus. Dylid nodi hyn yn y cais i gyfranogi yn yr her gan nodi rolau eglur, ac yn ddelfrydol, dylid nodi manylion unigolion a enwir ar gyfer pob rôl. Gall amserlenni newid, ond bydd hyn yn cael ei ystyried fesul prosiect, ac ni fydd y cyllid a ddyrennir yn newid. Er enghraifft, os oes angen data dros bedwar tymor i ategu eich datrysiad, amlygwch hyn yn y cais fel y gellir ystyried hynny.

Mae’n rhaid i’ch cais:

  • Amlygu cynllun ar gyfer masnacheiddio a llwybr i’r farchnad ar gyfer datrysiadau fforddiadwy, datblygedig;
  • Esbonio’r cyfraniad buddiol posibl at nodau dogfennau Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser ar gyfer GIG Cymru ac A Cancer Strategy for Northern Ireland;
  • Cyflawni yn unol â’r nodau a ddisgrifir yng nghynllun Cymru Iachach;
  • Ystyried agweddau yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws eich prosiect, eich sector(au) a’r gymdeithas, a rhoi sylw iddynt os bydd hynny’n ofynnol;
  • Ymdrin â sut y byddai unrhyw ganlyniadau negyddol posibl yn cael eu rheoli;
  • Sicrhau bod diogelwch personol yn hollbwysig a bod unrhyw risgiau wedi’u mynegi’n glir a bod mesurau lliniaru cadarn ar waith;
  • Dylid cynnwys gwerthusiad llawn ar ôl cwblhau’r prosiect, a dylai hyn gynnwys dadansoddiad o’r manteision a dadansoddiad economaidd.
  • Amlygu tystiolaeth i ategu Achos Busnes y GIG (e.e., achosion busnes caffael i gynorthwyo i ddod yn ‘fusnes fel arfer’ drwy lwybrau comisiynu safonol, cynnwys y datrysiad mewn metrau comisiynu cenedlaethol ac mewn fframweithiau caffael ayyb);

Sylwer y gallai fod yn ofynnol cynnal ymarfer caffael ar wahân (a chystadleuol efallai) cyn y gellid mabwysiadu a gweithredu datrysiad sy’n deillio o’r gystadleuaeth hon. Nid yw’r gystadleuaeth yn ymdrin â chaffael unrhyw ddatrysiad yn yr hirdymor, ond efallai y byddwn yn penderfynu ehangu’r prosiect hwn trwy ymchwilio i lwybrau caffael arloesol a’u harchwilio fel rhan o’r her hon.

Gall cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid ac mae’r cyllidwyr yn cadw’r hawl i addasu’r dyraniadau cyllid dros dro, h.y. pe deuai cyllid ychwanegol ar gael.

Mae’r cyllidwr hefyd yn cadw’r hawl i ddefnyddio dull ‘portffolio’ i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws ystod eang o feysydd strategol a daearyddol. Mae hyn yn golygu y gall cynnig sy’n sgorio llai na’ch un chi fod yn llwyddiannus. Gellir lledaenu’r portffolio ar draws ystod o:

  • feysydd cwmpas;
  • hyd prosiectau;
  • costau prosiectau, gan gynnwys amlygu gwerth am arian;
  • lleoliadau.

Digwyddiad Briffio

Dilynwch y ddolen isod i fynegi eich diddordeb yn y Digwyddiad Briffio rhithiol a gynhelir ar 10/09/2024 yn 13:00.

SBRI Briefing Event: Accelerating the diagnosis, management and support of people diagnosed with cancer in Wales and Northern Ireland

Y Broses Ymgeisio 

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan drwy: Cyflymu diagnosis, dulliau rheoli a chymorth i bobl sydd wedi cael diagnosis yn cadarnhau canser yng Nghymru a Gogledd Iwerddon

DYDDIADAU ALLWEDDOL

Dyddiad cychwyn yr her 28/08/2024
Digwyddiad briffio 10/09/2024
Dyddiad cau 27/09/2024
Asesiad 07/10/2024
Cytuno ar Restr Fer a hysbysu Cyflenwyr 11/10/2024
Digwyddiad ‘Cwrdd a Chyfarch’ gyda Chyflenwyr TBC
Cyhoeddi’r Penderfyniad 14/10/2024
Dyfarnu contractau 14/10/2024
Prosiectau yn Cychwyn 21/10/2024
Cwblhau Prosiectau 31/03/2025
Dyddiad Cau Cyflwyno Adroddiad Terfynol 31/03/2025

*Gall pob dyddiad newid

Atodiad 1 – Cyd-destun Polisi

Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser ar gyfer GIG Cymru 2023-2026Caffael Seiliedig ar Werth – Gwerth mewn Iechyd (gig.cymru)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: yr hanfodion [HTML] | LLYW.CYMRU

Cymru Iachach (llyw.cymru)

Cymru’n arloesi: creu Cymru gryfach, decach a gwyrddach (llyw.cymru)

A Cancer Strategy for Northern Ireland 2022-2032

 

 

 

 

Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.