Her Trawsnewid Gwasanaethau Cleifion Allanol

Yr Her

Yn ystod 2020/2021, roedd y modd y bu gwasanaethau cleifion allanol yn cael eu darparu yng Nghymru yn mynd trwy gyfnod o drawsnewid. Y nod oedd sicrhau bod y gwasanaeth yn darparu gofal i gleifion mewn ffordd ddarbodus yn seiliedig ar werth, i greu model gofal iechyd cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. O ganlyniad i hyn, ynghyd â COVID-19, roedd llwyth sylweddol o adolygiadau o ran cyfeiriadau mewn gofal eilaidd wedi ôl-gronni, a chan nad yw’r capasiti yn mynd i gyfateb â’r galw, ystyriwyd ffyrdd arloesol o reoli cleifion yn wahanol er mwyn lleihau cyfeiriadau diangen.

Ym mis Ebrill 2021, lansiwyd yr her Trawsnewid Gwasanaethau Cleifion Allanol, ac roedd modd i fusnesau wneud cais am gyfran o hyd at £800,000.00 ar gyfer contract dichonoldeb a datblygu dau gam. Roedd yr her yn gofyn am arloesi gyda chymorth gydag un o dair thema, a’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial i ‘adolygu delweddau/samplau’ oedd un ohonynt.

O fewn Patholeg, mae patholegwyr yn adolygu 4 miliwn o sleidiau gwydr sy’n dal samplau meinwe’r brostad gan 100,000 o ddynion. Mae hyn yn creu rhai problemau i’r GIG. Yn gyntaf mae prinder o batholegwyr, ac yn ail, mae disgwyl y bydd nifer y dynion sydd wedi derbyn biopsi yn dyblu erbyn 2030. Mae’r galw cyffredinol am wasanaethau patholeg yn cynyddu, o ran y niferoedd ac o ran cymhlethdodau’r profion sy’n cael eu cynnal.

Yn sgîl pandemig COVID-19, mae data’n dangos bod hyn wedi arwain at wasanaethau diagnostig yn cael ôl-groniad o gleifion yr amheuir bod canser arnynt. Bydd yr ôl-groniad hwn yn rhoi straen ychwanegol ar weithwyr patholeg sydd eisoes dan bwysau wrth i wasanaethau baratoi eu hunain ar gyfer y llif disgwyliedig o brofion.

Mae canfod cynnar yn achub bywydau; bu’n daith anhygoel i ddangos sut mae AI yn cyflymu ac yn gwella ansawdd diagnosis patholeg y brostad yng Nghymru. Mae'r dechnoleg hon nid yn unig wedi gwella ein cyfradd wrth ganfod canser ond hefyd mae wedi ein helpu i fireinio gwahanol ddangosyddion prognostig mewn modd mwy gwrthrychol. Mae'r batholeg gyfrifiannu yn y brostad yn arwain y ffordd at ddatblygu a defnyddio technoleg mewn arbenigeddau eraill; ar hyn o bryd mae gwaith yn cael ei wneud ar y fron, y colon a'r rhefr , lymffoma, GI uchaf a PDL1 yr ysgyfaint ar lefel genedlaethol mewn gwahanol gamau.

Muhammad Aslam,
Muhammad Aslam, Patholegydd Ymgynghorol, BCUHB

Y Bobl

Roedd y prosiect hwn yn gydweithrediad gyda Llywodraeth Cymru, Canolfan Ragoriaeth SBRI a Phatholeg GIG Cymru. Cymerodd Tîm Histoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr awenau gyda chydweithwyr o fyrddau iechyd Bae Abertawe ac Aneurin Bevan.

Roedd brwdfrydedd mawr ac angerdd gwirioneddol gan y timau clinigol at y prosiect hwn er mwyn ei wneud yn llwyddiant, a hynny wrth weithio swyddi prysur iawn. Sefydlwyd timau prosiect wythnosol a bu’r presenoldeb yn rhagorol drwyddi draw.

Galwad i’r Diwydiant

Rhyddhawyd yr alwad i’r diwydiant ar 19 Ebrill 2021, gan roi un mis i ymgeiswyr ymgeisio. Wedi i’r mis hwn fynd heibio, derbyniwyd 49 o geisiadau.

O’r 49 o geisiadau dan sylw, dewiswyd pedwar i ddatblygu eu hateb i’r Her Trawsnewid Gwasanaethau Cleifion Allanol. Roedd un allan o’r pedwar a fu’n llwyddiannus yn gwmni meddygol o’r enw Ibex Medical Analytics a oedd wedi’i ddewis i brofi a datblygu’r dechnoleg Galen Prostate, sydd wedi’i chynllunio i gynorthwyo clinigwyr wrth wneud diagnosis o ganser y brostad.

Galluogodd yr arian hwn i’r tîm gydweithio gydag Ibex i ddod o hyd i ddatrysiad technoleg Deallusrwydd Artiffisial (AI) cadarn, wedi’i ddilysu ac sydd wedi’i sicrhau’n glinigol. Byddai’r ateb hwn yn prosesu cyfaint uchel o sleidiau patholeg, yn eu dadansoddi gan ddefnyddio cyfrifiadura pŵer uchel a thechnolegau dysgu peirianyddol i gefnogi patholegwyr i frysbennu achosion y brostad.

O ganlyniad, dechreuodd BIP Betsi Cadwaladr, BIP Bae Abertawe a BIP Aneurin Bevan fynd i’r afael â’u profion a’u gwaith datblygu eu hunain, ac ar y cyd, nhw oedd y cyntaf i ddefnyddio’r broses hon er mwyn eu cynorthwyo wrth roi diagnosis i gleifion.

Y Broses

Cynhaliwyd cyfarfodydd y Tîm Prosiect bob wythnos gyda’r cyflenwr i sicrhau proses iteraidd ddwy ffordd trwy gydol amser y prosiect am 18 mis.

Arweiniwyd y sicrwydd a gogwydd clinigol, a moesegol gan gydweithwyr clinigol Patholeg a chafodd ei drafod a’i ystyried ym mhob cyfarfod a’u dogfennu gan Ganolfan Ragoriaeth SBRI.

Roedd yn bwysig nodi manteision y datrysiad. Aethpwyd i’r afael â gweithgareddau’r waelodlin a gweithiwyd trwyddynt yn ystod cylch oes y prosiect.

 

Y Manteision

Roedd nifer o fanteision wrth gynnal yr her hon wrth ddysgu sut gall technoleg ac arloesi Deallusrwydd Artiffisial helpu i wella arferion clinigol.

 

Y prif feysydd lle bu’r datrysiad Ibex Galen Prostate yn llwyddiannus wrth helpu i wella gofal cleifion oedd:

  • Gwella ansawdd diagnostig trwy leihau anghysondebau, a chynyddu cywirdeb o ran biopsïau prostad a allai fod wedi’u methu gan batholegwyr.
  • Gwella cynhyrchiant patholegydd trwy leihau’r amser sy’n cael ei dreulio ar bob achos biopsi prostad. Ar ben hynny, lleihau’r amser sydd ei angen ar gyfer adolygiad Timau Amlddisgyblaethol, a meddu’r gallu i reoli’r llwyth gwaith cynyddol yn well.
  • Gwella cyflymder o ran diagnosis canser trwy alluogi brysbennu a blaenoriaethu biopsïau prostad yn seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial cyn eu sgrinio, a’r biopsïau prostad sydd angen Imiwn-histogemeg i gadarnhau diagnosis, trwy archebu’r profion ymlaen llaw yn seiliedig ar y prawf sgrinio Deallusrwydd Artiffisial cychwynnol.
  • Cynyddu hyder patholegwyr wrth wneud diagnosis, gan arwain at ostyngiad yn y defnydd o Imiwn-histogemeg, ac o ganlyniad, ei gostau cysylltiedig.
  • Gwella amgylchedd gwaith patholegwyr, a boddhad swydd, gan arwain at gadw staff a’r gallu i recriwtio.

Y Dysgu

Y wers bwysicaf a ddysgwyd yn ystod y prosiect hwn oedd ymrwymiad tîm y prosiect a’u cyffro a’u brwdfrydedd dros y dechnoleg.  Roedd cryfder mewn niferoedd gyda chydweithwyr clinigol yn bresennol yng nghyfarfodydd y prosiect o bob rhan o Gymru.  Roedd dull ‘Cymru Gyfan’ cyfunol o ddatblygu a phrofi.

Yn ystod y prosiect hwn, mae’r timau patholeg o fewn y byrddau iechyd wedi caniatáu eu hunain i ddadansoddi eu prosesau a darganfod ffyrdd newydd o fesur perfformiad, cywirdeb a rheolaeth. Mae hyn wedi rhoi hyder iddynt ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial.

Roedd cyllid ar gyfer gweithgareddau Scale and Spread yn galluogi peilot/treial mwy o’r datrysiad ar draws GIG Cymru, gan gynnwys Byrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf a Hywel Dda erbyn hyn.

Mae’r dechnoleg hon yn gofyn am arfarniad cryf i ystyried ei heffeithiolrwydd clinigol llawnach, yn benodol, sut mae’n newid rheolaeth cleifion, canlyniadau a chost-effeithiolrwydd.  Mae hyn bellach yn mynd rhagddo gyda’r holl Fyrddau Iechyd dros gyfnod o 12 mis gyda chymorth cydweithwyr o fewn Technoleg Iechyd Cymru.

Y Dyfodol

Bydd y gweithgareddau Lledaenu a Graddfa yn ystod y 12 mis nesaf yn cynorthwyo’r timau Patholeg i adeiladu ‘tystiolaeth byd go iawn’ i gyfrannu i’r arfarniad technegol i lywio unrhyw benderfyniad caffael. Yn ogystal, mae arfarniad yn cael ei gynnal gan gydweithwyr yn sefydliad Technoleg Iechyd Cymru i ystyried yr effeithiolrwydd clinigol llawnach (yn benodol, sut mae’n newid rheolaeth a chanlyniadau cleifion mewn gwirionedd) a pha mor gosteffeithiol ydyw. Bydd hyn hefyd yn cyfrannu at ddysgu gwersi wrth ddefnyddio AI mewn gwasanaethau Patholeg ledled Cymru.

Bydd gweithgareddau Lledaenu a Graddfa  ledled Cymru yn galluogi gweithwyr yn y maes patholeg i ddysgu mwy am dechnoleg Deallusrwydd Artiffisial. Efallai nad dyma’r datrysiad IBEX sy’n cael ei gaffael, gan y bydd angen ymgymryd ag unrhyw gaffaeliad trwy reolau a rheoliadau caffael, ond bydd y broses a’r defnydd dros dro yn galluogi bydd modd dysgu gwersi parhaus.

Mae cyfleoedd ar gyfer datblygiadau o ran y defnydd o dechnoleg Deallusrwydd Artiffisial ledled Cymru a allai helpu i godi’r llen wrth wneud diagnosis o ganserau eraill. Rydym yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â gwaith pellach yn y maes hwn.

Roedd y Gwasanaeth Patholeg yn enghraifft berffaith o’r hyn y gall unigolion o’r un anian ag angerdd am arloesi ei gyflawni wrth weithio gyda’i gilydd at nod a phwrpas hollgynhwysfawr.

Os hoffech drafod ymhellach neu ddysgu rhagor ynglŷn â rhedeg eich SBRI eich hun, cysylltwch â’r Tîm SBRI ar [email protected]