Ar 23 Mawrth 2020, fel cam i geisio lleihau lledaeniad COVID-19, aeth y DU i mewn i gyfnod clo. Roedd gofyn i ni ‘aros gartref i ddiogelu’r GIG’ wrth i nifer yr achosion o’r feirws gynyddu. Roedd ein GIG yn wynebu bygythiad cynyddol y pandemig a phwysau enfawr ar wasanaeth a oedd eisoes dan bwysau. Yng Nghymru, cafodd 19 ysbyty maes eu hadeiladu a’u sefydlu i helpu i ddelio â’r niferoedd posibl o gleifion a oedd wedi’u heintio ac angen mynd i’r ysbyty.

Roedd pwysau ychwanegol ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn ystod y pandemig, gan dderbyn dros 1,000 o alwadau yn ymwneud â Covid-19 bob dydd yn ystod mis Mawrth ac Ebrill.

Yr Her

Yn ystod y pandemig, eglurodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod rhaid glanhau’r ambiwlansys yn drylwyr ar ôl cludo claf gydag amheuaeth fod ganddo COVID-19. Roedd yn cymryd rhwng 45 a 2 awr i’w glanhau, ac mewn rhai achosion, roedd rhaid eu glanhau mewn canolfannau glanhau arbenigol a allai fod yn bell o’r orsaf ambiwlans neu safle’r ysbyty.

Roedd hyn yn rhoi mwy o straen ar wasanaeth a oedd eisoes yn brysur ac o dan bwysau gan na fyddai’r cerbydau’n gallu cael eu defnyddio nes bod y gwaith glanhau wedi’i gwblhau.

Bwriad yr her oedd nodi, datblygu a dangos technolegau glanhau cyflym i helpu timau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn eu brwydr yn ystod y pandemig.

Y Broses

Mae SBRI yn gynllun sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth ac mae’n galluogi’r sector cyhoeddus i fynd at fusnesau gyda phroblem a manteisio ar syniadau a thechnolegau newydd gan fusnesau ynghyd â helpu i gyflymu’r broses o’u mabwysiadu.

Yn sgil natur gyflym a datblygol Pandemig COVID-19, penderfynodd Canolfan SBRI a chydweithwyr Llywodraeth Cymru i ymgymryd â SBRI ‘cyflym’. Roedd y dull yma’r cyntaf o’i fath yn y DU i alluogi mynediad cyflym at unrhyw dechnolegau. Llwyddodd y prosiect hwn i gyflymu proses SBRI o broses 12 i 18 mis i broses 6 wythnos.

Y Bobl

Roedd y prosiect hwn yn gydweithrediad integredig rhwng Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Canolfan SBRI a Llywodraeth Cymru. Hefyd, roeddent yn adeiladu ar sgiliau o adrannau eraill yn y DU gan gynnwys Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch a Labordai Technoleg Amddiffyn a Diogelwch

Roedd pawb a oedd yn rhan o’r broses yn frwd dros wneud gwahaniaeth mawr yn ystod cyfnod mor anodd a heriol, cadw pethau’n real a mynd i’r afael â mater byw yn ystod cyfnod prysuraf y pandemig.

Cais i ddiwydiant

Cafodd y cais i ddiwydiant ei ryddhau ar 25 Mawrth 2020 gydag 1 wythnos i ymgeiswyr wneud cais. Roedd diddordeb mawr mewn cyfnod byr iawn a gwnaethom dderbyn 216 cais gan y diwydiant a’r byd academaidd. Wrth werthuso’r cynigion, roedd brwdfrydedd diwydiannau i’n helpu ni i frwydro yn erbyn COVID-19 yn amlwg, ac roedd rhai o’r ymgeiswyr yn cynnig ymgymryd â’r prosiect am ddim.

O’r 216 o geisiadau, dewiswyd 12 i brofi effeithiolrwydd yr atebion gyda Labordai Technoleg Amddiffyn a Diogelwch. Cwblhawyd y broses mewn wythnos ac aeth 3 ateb ymlaen i gael eu profi ar Ambiwlansys Cymru.

Y Canlyniadau

Cafodd un o’r atebion ei gyflwyno gan Brifysgol Abertawe ac mae’r broses Ymchwil a Datblygu yn dal i fynd rhagddi.

Aeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ymlaen i weithio gyda 2 o’r cyflenwyr yn gwneud rhywfaint o waith datblygu gydag un ohonynt a gwneud arddangosiad i staff gyda’r cyflenwr arall. Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn y broses o ysgrifennu achos busnes yn y gobaith y bydd yr atebion hyn yn cael eu caffael.

Cwblhaodd y Labordai Technoleg Amddiffyn a Diogelwch eu Hadroddiad Technegol a oedd yn cynnwys canfyddiadau profion y 12 ateb. Er bod yr adroddiad hwn yn gyfrinachol, mae caniatâd wedi’i roi i’w dosbarthu ymysg Cyrff Cyhoeddus yn ôl y galw.

Y Manteision

Roedd llawer o fanteision i gynnal yr her yma a sut gall defnyddio technoleg ac arloesedd helpu i wella arferion gweithio.

Dyma’r meysydd lle gwelwyd effaith yr atebion llwyddiannus:
• Lleihau’r amser mae’n ei gymryd i lanhau ambiwlans 86%.
• Rhoi’r amser i staff ymgymryd â dyletswyddau eraill tra bo’r broses lanhau ar waith.
• Lleihau costau glanhau ambiwlans 82%.
• Gallu glanhau o ‘safon aur’.

Y Canfyddiadau

Mae’r holl randdeiliaid sy’n rhan o’r prosiect hwn yn gogwyddo at ‘ddysgu a chanfod’ a bydd hyn yn lledaenu canfyddiadau’r prosiect hwn y tu hwnt i’r gwasanaeth ambiwlans.

Mae prosiectau ar y gweill ym meysydd eraill Llywodraeth Cymru i edrych ar sut gellir defnyddio’r canfyddiadau mewn amgylcheddau gwahanol ee ysgolion.

Yn ystod y prosiect hwn, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dadansoddi eu prosesau ac maent wedi canfod ffyrdd newydd o fesur perfformiad ac atal a rheoli lledaeniad.

Mae hyn wedi rhoi’r hyder iddynt ystyried rhoi prosesau newydd ar waith. Mae tîm SBRI wedi dysgu eu bod yn gallu addasu ac roeddent yn gallu camu ymlaen yn gyflym i helpu’r gwasanaeth ambiwlans yn ystod argyfwng. Gwnaethant addasu proses SBRI i helpu’r gwasanaeth a dangos manteision arloesi hyd yn oed mewn cyfnod anodd a heriol.

Y Dyfodol

Felly, a fyddwn ni’n gwneud SBRI cyflym eto? Yr ateb yw, byddwn. Er hyn, bydd angen i’r amodau fod yn gywir ac nid oes ateb wedi’i ddatblygu bob amser. Mae arloesi’n gyflym yn golygu bod angen i brosiectau fod bron yn barod ar gyfer y farchnad neu eu bod yn cael eu defnyddio mewn amgylcheddau diwydiant eraill ac yna eu haddasu at bwrpas SBRI.

Mae cyflawni arloesedd yn cymryd amser, ac yn aml, mae pobl yn y sector cyhoeddus angen datrys eu problemau’n gyflym, yn arbennig yn ystod pandemig. Byddai angen i Arweinwyr Heriau o’r Sector Cyhoeddus ddangos ymrwymiad a brwdfrydedd go iawn i wneud newid. Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’n enghraifft berffaith o hyn.

Mae prosiectau tymor hir SBRI yn galluogi Arweinwyr Heriau i weithio gyda phartneriaid y diwydiant a phartneriaid academaidd i adeiladu a datblygu rhywbeth sydd wir yn diwallu eu hanghenion. Mae cydweithio o fudd i bawb, rydych yn gallu defnyddio sgiliau unigryw a meysydd arbenigedd eraill i arloesi a gwneud gwahaniaeth.

Os hoffech drafod hyn ymhellach neu ddysgu mwy am redeg eich prosiect SBRI eich hun, cysylltwch â Thîm SBRI yn [email protected].