Cyllid
Bydd busnesau’n cael 100% o’r cyllid.
Caffael
Mae llawer o fanteision i broses SBRI, i chi ac i ni. Rydych chi’n cael cyfle unigryw i weithio gydag arbenigwyr y GIG i adeiladu eich atebion i her/problem. Rydyn ni’n cael y cyfle i weithio gyda chi i adeiladu rhywbeth a allai o bosib fodloni ein hanghenion ni. Byddwn yn gwerthuso’r atebion yn drylwyr ar y diwedd ac mae’n bosib y bydd y rheini sy’n addas yn cael y cyfle i fynd drwy broses gaffael lawn (ond ni allwn warantu hyn).
Pwy sy’n cael gwneud cais?
Ydy, mae elusennau cofrestredig yr un mor gymwys i gymryd rhan yng nghystadlaethau SBRI drwy eu cwmni masnachu cyfyngedig drwy warant. Rhaid i bob mudiad ddangos llwybr i’r farchnad.
Mae prifysgolion yn cael gwneud cais. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddyn nhw ddangos llwybr i’r farchnad, hynny yw, mae’n rhaid i’r cais gynnwys cynllun i fasnacheiddio’r canlyniadau.
Ydych, ond rhaid dyfarnu contractau i endidau cyfreithiol.
Mae unrhyw sefydliad yn gallu cyflwyno cais. Er hyn, mae disgwyl y bydd cyfleoedd SBRI yn denu Busnesau Bach a Chanolig yn bennaf. Mae SBRI wedi’i anelu at sefydliadau sy’n gweithio ar ddatblygu proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth arloesol. Y ceisiadau llwyddiannus fydd y rhai y mae eu technoleg yn mynd i’r afael ag anghenion penodol orau, gyda’r potensial i wella’r cynnyrch, y prosesu, y deunyddiau, y dyfeisiau neu’r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd contractau datblygu’n cael eu dyfarnu i sefydliadau unigol yn unig. Fodd bynnag, efallai y bydd sefydliadau’n dymuno dangos y byddai cydweithrediad llwyddiannus yn gwella eu datblygiad cyffredinol. Gellir is-gontractio gwaith ond cyfrifoldeb y prif gontractiwr yw hyn.
Cyffredinol
Mae SBRI yn golygu Menter Ymchwil Busnesau Bach (Small Business Research Initiative). Mae SBRI yn galluogi adrannau’r llywodraeth i gysylltu â sefydliadau, gan ddod o hyd i atebion arloesol i heriau ac anghenion penodol yn y sector cyhoeddus. Nod SBRI yw defnyddio pŵer caffael y llywodraeth i gyflymu’r broses o ddatblygu technoleg, gan gefnogi prosiectau yn ystod y camau ymarferoldeb a phrototeipio, sydd fel arfer yn anodd eu hariannu. Mae SBRI yn cynnig cyfle gwych i fusnesau, yn arbennig cwmnïau sydd yn y camau cynnar, i ddatblygu ac arddangos technoleg, gyda chefnogaeth cwsmer blaenllaw.
Yn anffodus, mae SBRI’n canolbwyntio ar ymchwil, datblygu ac arloesi. Rhaid sicrhau nad oes ateb masnachol ar gael ar y farchnad i ddiwallu eich anghenion. Mae busnesau sydd ag atebion ar gael yn y farchnad yn gallu gwneud cais ond rhaid gwneud newidiadau sylweddol i ddiwallu eich anghenion.
Mae SBRI yn broses strwythuredig syml. Fel arfer, mae dau gam i’r cystadlaethau. Mae cynigion Cam 1 yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, a fydd yn cyfrannu’n sylweddol at y broses o brofi pa mor ymarferol yn wyddonol, yn dechnegol ac yn fasnachol yw prosiect arfaethedig. Bydd canlyniadau Cam 1 yn penderfynu a fydd yr ateb yn mynd ymlaen i Gam 2. Sylwch nad yw pob prosiect yn symud ymlaen i Gam 2. Mae’r prif ymdrech ymchwil a datblygu yn digwydd yng Ngham 2. Nod y cam yw cynhyrchu prototeip sydd wedi’i ddiffinio’n dda. Ar ddiwedd Cam 2, y bwriad yw gweithgynhyrchu a masnachu'r hyn sydd wedi’i ddatblygu fel ffordd o fodloni’r gofynion.