Gwella canlyniadau iechyd i fenywod a merched ledled Cymru

Cyflwyniad:

Er bod menywod yn byw’n hirach na dynion, mae ymchwil yn dangos eu bod yn byw am lai o flynyddoedd heb salwch ac anabledd, yn aros yn hirach am gymorth lleddfu poen ac mae nifer o fenywod yn dweud bod eu symptomau’n cael eu diystyru, gyda mwy nag 8 o bob 10 yn dweud eu bod yn teimlo nad yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt . Y DU yw’r wlad sydd â’r bwlch iechyd menywod mwyaf yn y G20 a’r 12fed bwlch mwyaf yn fyd-eang . Yn dilyn adroddiad canfod lle cofnodwyd lleisiau menywod ledled Cymru, datblygodd Llywodraeth Cymru ynghyd â rhanddeiliaid allweddol eraill ‘Gynllun Iechyd Menywod GIG Cymru (2025-2035)’ sy’n amlinellu cynlluniau GIG Cymru er mwyn gwella canlyniadau iechyd i fenywod ledled Cymru.

Mae’r cynllun yn tynnu sylw at wahaniaethau iechyd rhwng y rhywiau a rhyweddau ac yn amlinellu sut y bydd sefydliadau’r GIG yng Nghymru’n cau’r bwlch drwy ddarparu gwell gwasanaethau iechyd i fenywod. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd y bydd menywod yn cael gwrandawiad, ac y bydd eu hanghenion iechyd yn cael eu deall, gan dynnu sylw i feysydd lle mae mwy o ymchwil, data ac arloesedd, tra’n sicrhau cyfranogiad menywod a merched.

Fel rhan o Gynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru, rhaid i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru gael Hwb Braenaru Iechyd Menywod erbyn 2026. Nod y prosiect Contractau ar gyfer Arloesedd arddangosol yma yw ategu’r dull hwn a hybu cyflwyno’r Cynllun Iechyd Menywod yn gyffredinol, trwy geisio dulliau arloesol o wella iechyd menywod, ategu Llwybrau Gofal Sylfaenol a gwella Llwybrau Gofal Eilaidd.

Cefndir:

Er bod anghenion gofal iechyd y rhan fwyaf o fenywod yn rhai cyffredin, mae galw cynyddol am ofal arbenigol. Mae’r rhan fwyaf o gyfeiriadau gynaecolegol yn dod o ofal sylfaenol, gyda nifer llai yn dod drwy sgrinio (fel profion ceg y groth) neu drwy gyflwyniadau brys. Mae ystadegau’n dangos bod nifer y cyfeiriadau sy’n dod drwy’r llwybr gynaecolegol ac sydd heb ddechrau eu triniaeth, gan gynnwys apwyntiadau ysbyty, profion, sganiau, neu weithdrefnau eraill yng Nghymru, ym mis Ionawr 2025, wedi mwy na dyblu i 52,424, o gymharu â 20,855 ym mis Ionawr 2018 .

Un o’r prif ffactorau sydd wedi cyfrannu at hyn yw’r cynnydd yn nifer y cyfeiriadau lle’r amheuir canser gynaecolegol – cynnydd o 30% yn ystod 2024 o gymharu â 2022 . Ers 2021 cyfeiriadau gan feddygon teulu yw’r prif lwybr cyfeirio, mae hyn yn rhannol oherwydd bod practisau meddygon teulu wedi dod yn fwy rhagweithiol a hefyd oherwydd ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cyhoeddus (e.e. gwaedu ar ôl y menopos). Mae’r data hefyd yn dangos mai’r rhai o fewn y grŵp oedran 50-79 yw’r rhai sydd yn derbyn y rhan fwyaf o gyfeiriadau a thriniaethau yn y maes hwn.

Gan ddefnyddio tystiolaeth a chanllawiau a ddaw’n bennaf o leoliadau arbenigol, mae meddygon teulu yn gwneud cyfeiriadau’n ddiwyd lle amheuir canser, ac mae hyn yn sicrhau bod y nifer gymharol fach o gleifion sydd â chanser yn cael eu canfod yn gynnar. Ond mae hyn hefyd yn rhoi straen ar ddiagnosteg ac yn cynyddu rhestrau aros, gan achosi ôl-groniadau yn y system a heriau wrth flaenoriaethu cleifion eraill sydd angen gofal, gan gynnwys yr 1 o bob 10 o fenywod yng Nghymru yr amheuir eu bod yn dioddef o endometriosis . Mae’r rhan fwyaf o gyfeiriadau i’r llwybr canser (85-90%) yn dod i ben heb ddiagnosis o ganser, ac mae llawer o’r rhai sy’n cael eu cyfeirio yn fwy tebygol o gael symptomau sy’n anodd eu deall neu eu rheoli, neu o fod ag anghenion iechyd mwy cymhleth.

Yn ogystal, dangosodd ymchwil a gynhaliwyd yn 2018 gan Brifysgol Caerdydd ei bod yn cymryd tua 8 mlynedd a 26 ymweliad â meddyg teulu i gael diagnosis o endometriosis yng Nghymru, sy’n fwy nag unrhyw le arall yn y DU. Mae diffyg ymchwil a dealltwriaeth am y cyflwr yn cyfrannu at oedi cyn cael diagnosis.

Themau her:

Rydym yn ceisio canfod a chefnogi’r gwaith o gyflwyno prosiectau cydweithredol Cam 2 sy’n dangos tystiolaeth o botensial a’r gallu i dyfu sydd yn cynnig atebion sy’n agos at gael eu cyflwyno drwy enghreifftiau yn y byd go iawn a fydd yn cefnogi a gofalu am bob menyw a merch, gan arwain at ddarganfyddiadau cynnar a chyflymach, lleihau amseroedd aros a gwelliannau i effeithlonrwydd a gweithrededd triniaeth heb dorri ar ganlyniadau.

Dylai prosiectau arddangosol ganolbwyntio ar ddangos tystiolaeth bod budd i ‘ddefnyddwyr terfynol’ mewn cydweithio â busnes, y byd academaidd a gofal sylfaenol ac eilaidd i ddatblygu a dangos y potensial i gyflawni gwelliannau mesuradwy mewn Iechyd Menywod a Merched ac yn cynorthwyo GIG Cymru i gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn y Cynllun Iechyd Menywod.

Y nod yw cwblhau Cam 2 erbyn 31 Mawrth 2026. Fodd bynnag, gellid ystyried ymestyn terfyn amser y cyflawni hyd at ddiwedd Medi 2026 i sicrhau gwerthusiad llawnach fyth. Cofiwch gynnwys manylion costau a chyflawniadau arfaethedig ar gyfer y ddwy amserlen wahanol yn eich cais, gan sicrhau eich bod yn cadw o fewn cyfyngiadau’r gyllideb sydd ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn cadw’r hawl i addasu’r gyllideb yn ddiweddarach, os bydd mwy o gyllideb ar gael ac yn amodol ar gael canlyniadau cynnar yn amlygu gwerth digonol.
Bydd y dystiolaeth a geir drwy gyflwyno’r prosiectau hyn yn llywio argymhellion yn y dyfodol ar gyfer defnydd posibl yn 2026, gan gyd-fynd â datblygiad y canolfannau ledled Cymru. Y bwriad yw cael cyllid Cyfnod 3 ychwanegol wedyn (os yw’r gyllideb ar gael) i gynyddu a lledaenu’r datrysiadau mwyaf addawol ledled Cymru.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus, a’u partneriaid yn y sector cyhoeddus, arddangos a/neu adeiladu ar brosiectau arloesol a’u lledaenu sy’n gallu dangos tystiolaeth o fanteision posibl, gwerth am arian a chynaliadwyedd eu cynigion.

Dylai atebion gyfeirio at un neu fwy o’r blaenoriaethau canlynol:

• Cau’r Bylchau Cyfathrebu. Gwella sut mae darparwyr gofal iechyd yn cyfathrebu â menywod am eu pryderon iechyd, megis iechyd atgenhedlol, y menopos, neu gyflyrau cronig, gan ddarparu gwybodaeth hygyrch, wedi’i theilwra, y gellir ymddiried ynddi.

• Gwell canlyniadau i gleifion. Bydd diagnosis cynnar a rheoli cyflyrau iechyd menywod trwy ddefnyddio gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a rheolaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar draws y llwybrau, yn hybu canlyniadau gwell. 

• Mynd i’r afael a’r meysydd nas gwasanaethir yn ddigonol Mae problemau iechyd menywod fel iechyd mislif, gofal mamol neu gyflyrau fel endometriosis wedi arwain at wahaniaethau mewn gofal.

• Grymuso Cleifion. Mae cyfathrebu effeithiol yn aml yn golygu grymuso menywod i eirioli dros eu hiechyd eu hunain, a’r angen am well addysg neu adnoddau i hwyluso hyn.

• Ymdrin â Stigma ac Ymwybyddiaeth. Mae angen monitro cynnil, yn y cartref neu atebion sy’n deillio o’r gymuned sy’n normaleiddio sgyrsiau ac yn darparu data i ddarparwyr gofal iechyd, yn enwedig o ran cyflyrau fel iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu waedu trwm yn ystod mislif.

• Sgrinio Iechyd. Sicrhau nad oes neb yn methu derbyn gwiriadau iechyd allweddol a allai amlygu trafferthion a sicrhau gofal amserol.

• Atebion Lleol. Bydd angen i atebion adlewyrchu anghenion penodol menywod Cymru, gan ystyried ffactorau megis mynediad i ofal mewn ardaloedd gwledig a ffactorau ieithyddol a diwylliannol.

Sylwer:
Rydym yn cydnabod nad yw rhai unigolion sydd angen mynediad at ofal iechyd menywod yn nodi eu rhywedd fel menyw na merch, ac rydym yn glir bod yn rhaid i bob gwasanaeth fod yn briodol ac yn sensitif i anghenion unigolion. Rydym yn defnyddio’r termau ‘merched’, ‘menyw’ ac ‘iechyd menywod’ gan gofio bod rhai dynion traws a phobl anneuaidd a gofnodwyd yn fenywod adeg eu geni yn cael eu cynnwys ac y gallent hefyd fod angen mynediad at y gwasanaethau hyn. Dylai datblygiad unrhyw brosiect ystyried hyn.
Y ffocws allweddol ar gyfer fydd treialon yn y byd go iawn o ddulliau sy’n datblygu a’r rhai sydd yn barod i gael eu cyflwyno i’r farchnad yng Nghymru. Dylid dangos eu bod yn cynnig gwasanaeth effeithiol a chynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn atebion y gellir eu cynnig ar raddfa fwy, yn gyflym ac yn gynaliadwy’n ariannol. Nid ydym yn chwilio am brosiectau ymchwil megis astudiaethau dichonoldeb cynnar neu astudiaethau cynhyrchu tystiolaeth sydd â’r nod o ddatblygu’r cynnyrch/datrysiad ymhellach.
Bydd yn ofynnol i unrhyw atebion digidol a ddatblygir yn ystod yr her hon fodloni safonau Digidol a Seiberddiogelwch GIG Cymru. Yn ogystal, bydd angen iddynt fod yn gweddu ag ap GIG Cymru a’r Wefan Iechyd Menywod sy’n cael eu datblygu. Bydd yn ofynnol i unrhyw gynigion sy’n ymwneud â chleifion yn uniongyrchol, a ddaw fel rhan o’r her hon, fodloni safonau’r Gymraeg a dangos bod ganddynt botensial i’w datblygu i fod yn amlieithog.
Cyn dyfarnu’r contract, bydd angen i geisiadau llwyddiannus ddangos tystiolaeth eu bod wedi cael ardystiad/cymeradwyaeth perthnasol a’u bod mewn sefyllfa i symud ymlaen pan fydd y prosiect yn cychwyn, bydd hyn yn cynnwys cymeradwyaeth reoleiddiol berthnasol (e.e. marcio CE, MHRA, Treialon Clinigol, ac ati) i sicrhau bod profion yn y byd real yn cael eu cyflwyno’n brydlon ac yn ddiogel.
Os yw ceisiadau prosiect yn ceisio adeiladu ar dreialon bywyd go iawn blaenorol/profion ar raddfa fach, rhaid i geisiadau nodi’n glir beth yw’r camau nesaf a sut y bydd y cyllid hwn yn helpu i gyflymu’r gwaith hwn, gan amlinellu unrhyw rwystrau blaenorol i ddatblygu’r gwaith a dangos sut y bydd y rhain yn cael eu datrys. Rydym yn chwilio am werthusiadau trwyadl ac adroddiadau parod i fabwysiadu sy’n cynnig sylfaen dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer datblygu unrhyw wasanaeth a’r posibilrwydd o’i ehangu ledled Cymru, a allai hefyd fod yn ddilys mewn cyd-destunau gofal iechyd eraill.

– Gwahoddir ceisiadau i gynnwys cydweithwyr penodol yn y sector iechyd, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y prosiect, gyda thystiolaeth o hynny’n cael ei gyflwyno mewn llythyr o gefnogaeth wedi’i lofnodi. Fodd bynnag, caiff ceisiadau eu gwerthuso yn ôl teilyngdod, a byddwn yn ymdrechu i hwyluso partneriaethau rhwng y rhai nad oes ganddynt unrhyw berthnasoedd ar hyn o bryd;
– Dylid cynnwys cais ar gyfer costau cydweithwyr, fel cost isgontractwr, yn y ceisiadau prosiect;
– Gall prosiectau gynnwys mwy nag un isgontractwr; fodd bynnag, dylai cyfranogiad a rôl pob sefydliad gael eu nodi’n glir a dylid dangos tystiolaeth o’r ymrwymiad, yn ddelfrydol gydag unigolion penodol yn cael eu henwi yn y cais;
– Croesewir ceisiadau aml-sector – yn arbennig, ceisiadau sy’n dangos manteision sylweddol i sefydliadau’r GIG, a sefydliadau Sylfaenol, Eilaidd a Thrydydd Sector;
– Croesewir partneriaid academaidd hefyd, yn enwedig o ran gwerthuso annibynnol ac ar gyfer cyflawni unrhyw brofion technegol/gwyddonol gofynnol

O fewn y cwmpas
Rydym yn bwriadu ariannu prosiectau sydd yn dangos tystiolaeth o arloesedd ac sydd â’r potensial i gyflawni gwelliannau mesuradwy ym maes Iechyd Menywod a Merched a all gynnwys, ond nad yw’n gyfyngedig i:

• Atal yn ogystal â thrin.
• Sgrinio arloesol i annog mwy o ymgysylltu
• Gwella canlyniadau
• Lleihau anghydraddoldebau iechyd
• Gwella mynediad at wasanaethau angenrheidiol.
• Sicrhau bod lleisiau merched a menywod yn cael eu clywed
• Offer penodol i alluogi menywod a merched i wneud dewisiadau gwybodus i reoli eu hiechyd eu hunain
• Gwella mynediad at weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwybodaeth wedi’i thargedu a allai fod ei angen ar rywun.

Tu hwnt i’r cwmpas

Nid ydym yn bwriadu ariannu prosiectau sydd:

• Yn gynigion arloesedd cynnar nad ydynt eto wedi ceisio cymeradwyaeth reoleiddiol (e.e., marcio CE, MHRA, Treialon Clinigol, ac ati).
• Yn canolbwyntio’n llwyr ar ddichonoldeb – rydym yn chwilio am enghreifftiau ymarferol yn y byd go iawn (nid papurau academaidd/ymchwil).
• Yn methu â dangos tystiolaeth o ymgysylltu â darpar gwsmeriaid posibl i ddeall anghenion.
• Yn methu â dangos sut y byddai unrhyw ganlyniadau negyddol posibl yn cael eu rheoli.
• Yn methu â dangos tystiolaeth am sut y byddai cynnig yn creu effaith economaidd neu gymdeithasol gadarnhaol.
• Yn methu ystyried fforddiadwyedd ac ymarferoldeb cyflwyno’r prosiect yn eang gan gynnwys cyfalaf, seilwaith a chostau rhoi’r prosiect ar waith yn y dyfodol.
• Bydd integreiddio i unrhyw systemau cenedlaethol yn ystod y treial SBRI hwn y tu allan i’r cwmpas ond bydd angen datblygu hyn a bod yn gydnaws â systemau’r Bwrdd Iechyd, Ap GIG Cymru a Gwefan Iechyd Menywod ar gyfer unrhyw gaffael yn y dyfodol (ar ôl y prosiect).
• Yn methu bodloni safonau’r Gymraeg neu’n methu dangos potensial ar gyfer gweithredu’n amlieithog.
• Yn methu dangos bod hygyrchedd a thegwch yn ystyriaethau craidd wrth ddatblygu ac arddangos datrysiadau

Pwyntiau Ymadael Dymunol

Nod y cyllid hwn yw cynhyrchu tystiolaeth o’r byd go iawn i hybu’r gwaith o gyflwyno arloesedd yn gyflym, yn lleol neu’n rhanbarthol. Disgwylir i gynigion a dderbynnir ddangos rhai o’r pwyntiau ymadael canlynol ar ôl cwblhau’r prosiect:

• Effeithiolrwydd gweithredu wedi ei ddangos a chanllaw gweithredu diffiniedig wedi’u greu, lle bo hynny’n briodol.
• Tystiolaeth o effeithiau iechyd ac ariannol: dadansoddiad economaidd iechyd (h.y., dadansoddiad cost a budd, model effaith cyllidebol).
• Arloesedd wedi’i werthuso’n annibynnol i ddangos ei effaith mewn lleoliadau yn y byd go iawn.
• Asesiad ac effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd.
• Asesiad o’r effaith ar Gydraddoldeb ac Anghydraddoldebau Iechyd.
• Partneriaeth wedi’i datblygu i’w rhoi ar waith mewn sawl safle.
• Achos Busnes y GIG (e.e., achosion caffael busnes i gefnogi trosglwyddo i waith bob dydd drwy lwybrau comisiynu safonol, eu cynnwys ar fframweithiau caffael, ac ati).
• Dull comisiynu neu gaffael wedi’i ddiffinio.
• Tystiolaeth berthnasol arall i sicrhau gweithredu’n lleol ar ôl cwblhau’r prosiect, a chynlluniau ar gyfer lledaenu a mabwysiadu ymhellach (e.e., cynllun cynyddu a chynllun strategol ar gyfer mabwysiadu a lledaenu, datblygu offer marchnata).
• Cynllun uwch-raddio’r cwmni (e.e., staff, arian, cyflenwad, ac ati)


Dyrannu Cyllid a Manylion y Prosiect  

Mae’r her hon yn croesawu ceisiadau sy’n cyflwyno prosiectau arddangos yn y byd go iawn, Cam 2. Mae cyllideb o hyd at £900,000 ar gael ar gyfer pob thema a phortffolio o brosiectau, ar hyn o bryd – a gall hyn newid, yn dibynnu ar nifer/ansawdd y ceisiadau a dderbynnir. Rydym yn chwilio am ystod eang o brosiectau, o arddangosiadau cyflym neu gost isel i arddangoswyr ar raddfa fawr. Rhaid i’r holl gostau gael eu dangos yn glir a rhaid dangos gwerth am arian gyda pharodrwydd gan y darparwr i gyfrannu’n briodol er mwyn helpu i gyflawni’r prosiect. Rydym yn cadw’r hawl i ystyried cyllideb fwy ar gyfer ceisiadau eithriadol os yw maint y ddarpariaeth ledled Cymru yn cyfiawnhau hynny.

Bydd prosiectau’n cael eu dewis ar sail portffolio i sicrhau bod gweithgarwch a thystiolaeth yn cael eu casglu ar draws demograffig eang ledled Cymru.

Rydym yn disgwyl i geisiadau gael eu cynnig sy’n dangos lefel uchel o ymrwymiad a pharodrwydd i weithio mewn partneriaeth â’n sefydliadau iechyd a gofal a’n rhanddeiliaid allweddol wrth i ni nodi cynlluniau arloesol y gellir eu cynyddu o ran maint er budd dinasyddion Cymru. Bydd tîm y prosiect yn ei dro yn cael cymorth rheolaidd gan Grŵp Rhanddeiliaid penodol. Bydd y grŵp yn gweithio’n agos gyda nhw dros gyfnod y prosiect i ddeall y rhwystrau a’r hwyluswyr allweddol sydd wedi’u hymgorffori mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â chyflwyno arloesedd ar lefel genedlaethol, a’r cymorth a ddarperir ar gyfer amlinellu’r goblygiadau ar gyfer cynyddu’r gwaith yn genedlaethol.

Cam 2: Arddangos yn y Byd Go Iawn – Cefnogi prosiectau i arddangos yn ehangach atebion llwyddiannus sy’n datblygu a’r rhai sydd yn agos at gael eu cyflwyno i’r farchnad ar draws amrywiaeth o leoliadau/demograffeg, gan ddarparu tystiolaeth o’r potensial ar gyfer lledaeniad a chynnydd ledled Cymru ar sail lle, gan ystyried asedau lleol, gwasanaethau sy’n bodoli eisoes ac anghenion lleol nas diwallwyd hyd yma.

Gellir hawlio costau prosiect ar gyfer y darparwr datrysiadau arloesol ac ar gyfer gofynion adnoddau staffio’r cydweithredwr iechyd, trydydd sector neu sector cyhoeddus. Dylid nodi hyn yn y cais her gan nodi rolau’n glir – yn ddelfrydol dylid enwi unigolion penodol ar gyfer pob rôl. Gall amserlenni newid, ond rhoddir ystyriaeth i hyn ar sail prosiect, a bydd y dyraniad cyllid yn aros yr un fath – er enghraifft, os oes angen data pedwar tymor i gefnogi eich datrysiad, nodwch hyn yn glir yn y cais er mwyn ei ystyried.

Mae’n rhaid i’ch cais:  

• Dangos cynllun clir ar gyfer masnacheiddio a llwybr i’r farchnad ar gyfer datrysiadau fforddiadwy, datblygedig; 
• Egluro’r cyfraniad cadarnhaol posibl i nodau Cynllun Iechyd Menywod Cymru
• Cyflawni yn erbyn y nodau a osodir yn y Cynllun Cymru Iachach
• Ystyried, a rhoi sylw lle bo angen i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws eich prosiect, eich sector(au) a chymdeithas;
• Rhoi ystyriaeth lawn i sut y byddai unrhyw ganlyniadau negyddol posibl yn cael eu rheoli;
• Sicrhau bod diogelwch personol yn hollbwysig a bod unrhyw risgiau wedi’u mynegi’n glir gyda mesurau lliniaru cadarn yn eu lle;
• Cynnwys gwerthusiad annibynnol llawn ar ôl cwblhau’r prosiect – dylai hyn gynnwys dadansoddiad cymdeithasol ac economaidd a buddion
• Dangos tystiolaeth i gefnogi achos Busnes GIG (e.e., achosion busnes caffael i gefnogi trosglwyddo i fusnes fel arfer trwy lwybrau comisiynu safonol, cynnwys ar gyfer mentrau comisiynu cenedlaethol, cynnwys ar fframweithiau caffael, ac ati)
• Dangos y gallu i fodloni safonau’r Gymraeg, ac yn ddelfrydol dangos y potensial ar gyfer cyflwyno’n amlieithog i gynyddu hygyrchedd.

Sylwch y gallai unrhyw ddatrysiad a fabwysiedir ac a weithredir yn sgil y gystadleuaeth hon fod yn destun ymarfer caffael, a allai fod yn gystadleuol, ar wahân. Nid yw’r gystadleuaeth hon yn golygu ein bod yn prynu unrhyw ddatrysiad yn y tymor hir, er efallai y byddwn yn dewis ymestyn y prosiect hwn drwy ymchwilio ac archwilio llwybrau caffael arloesol fel rhan o’r her hon.

Gall maint y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid ac mae’r cyllidwyr yn cadw’r hawl i addasu’r dyraniadau cyllid h.y., pe bai cyllid ychwanegol ar gael.

Mae’r cyllidwr hefyd yn cadw’r hawl i ddefnyddio dull ‘portffolio’ i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws ystod eang o feysydd strategol a daearyddol. Gall hyn olygu y gallai cynnig sy’n sgorio llai na’ch un chi fod yn llwyddiannus. Gellir lledaenu’r portffolio ar draws ystod o:

• feysydd cwmpasu
• hydoedd prosiectau
• costau prosiectau, gan gynnwys dangos gwerth am arian
• Lleoliadau.

Digwyddiad Briffio
Digwyddiad Briffio: Gwella canlyniadau iechyd i fenywod a merched ledled Cymru

Proses Ymgeisio  

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon trwy
Gwella canlyniadau iechyd i fenywod a merched ledled Cymru

DYDDIADAU PWYSIG
Dyddiad cychwyn 14/08/2025
Digwyddiad Briffio 21/08/2025
Dyddiad cau 10/09/2025 (12 hanner dydd)
Asesiad 11/09/2025 – 15/09/2025
Rhestr fer wedi’i llunio a Chyflenwyr wedi eu hysbysu 19/09/2025
Cyfarfod â’r Cyflenwyr i’w gadarnhau
Datgan y penderfyniad Wythnos yn cychwyn 29/09/2025

Gosod contractau Wythnos yn cychwyn 29/09/2025
Prosiectau’n cychwyn 13/10/2025
Prosiectau’n gorffen 27/02/2026
Dyddiad Cau Cyflwyno Adroddiad Terfynol 13/03/2026
*Gellir newid unrhyw ddyddiad newid
  
Atodiad 1 – Cyd-destun polisi

https://gweithrediaeth.gig.cymru/swyddogaethau/rhwydweithiau-a-chynllunio/iechyd-menywod/cynllun-iechyd-menywod-cymru/
https://www.llyw.cymru/deddf-llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru-2015-yr-hanfodion-html
https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-09/cymru-iachach-ein-cynllun-iechyd-a-gofal-cymdeithasol.pdf
https://www.llyw.cymru/cymrun-arloesi-creu-cymru-gryfach-decach-gwyrddach-cynllun-cyflawni-arloesedd-html

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10th September 2025