Partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Arloesi Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth MYBB
Cofrestru’n Agor
30/09/2022
Cofrestru’n Cau
02/12/2022
Dyfarniad
Mae cyfanswm o £2,150,000 (yn cynnwys TAW) ar gael i ariannu’r 3 cham fel yr amlinellir isod.
Sefydliadau
Mae Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy yn cyflawni’r prosiect hwn gydag arian o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru a’i gefnogi gan Ganolfan Ragoriaeth MYBB.
Cefndir
Mae pandemig COVID-19, y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a phrisiau ynni cynyddol ynghyd â’r rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin wedi creu heriau i’n systemau bwyd a byddant yn parhau i wneud hynny. Mae’r digwyddiadau hyn wedi tynnu sylw at ba mor ddibynnol yw’r DU ar fwydydd sy’n cael eu mewnforio. Rydym wedi gweld prisiau bwyd yn codi a silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd, wedi gwylio lorïau’n llawn nwyddau darfodus yn ciwio ar ffiniau a chlywed bod prinder llafur (h.y. gweithwyr bwyd a gyrwyr HGV) yn atal bwytai, archfarchnadoedd, ysgolion, ysbytai a defnyddwyr rhag cael gafael ar y bwyd sydd ei angen arnynt. Mae ein systemau bwyd bregus, ‘confensiynol’ yn fwyfwy dan sylw gan eu bod yn effeithio’n andwyol ar ein heconomïau, ein hamgylchedd a’n hiechyd.
Mae’r systemau bwyd ‘confensiynol’ sy’n bwydo Cymru ar hyn o bryd yn seiliedig ar logisteg gymhleth, rhyngwladol a chadwyni cyflenwi bwyd ‘hir’ sy’n cynnwys llawer o gyfryngwyr. Bydd poblogaethau cynyddol a digwyddiadau tywydd fel llifogydd a sychder a achosir gan y newid yn yr hinsawdd yn rhoi mwy o bwysau ar ein hadnoddau cyfyngedig, gan gynyddu costau bwyd a gwneud ein systemau bwyd confensiynol yn fwy heriol – dyma’r amser ar gyfer newid.
Mae Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy yn cydnabod y bydd y ffordd rydym yn cynhyrchu, cyflenwi a bwyta bwyd yn y dyfodol yn chwarae rhan bwysig wrth benderfynu pa mor llwyddiannus yr ydym o ran ymateb i’r heriau digynsail sy’n ein hwynebu o ran argyfwng y newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a salwch sy’n ymwneud â deiet. Mae symud ein system bwyd a ffermio i fanteisio ar ein hasedau lleol yn cynnig cyfleoedd enfawr i iechyd ein heconomi, ein pobl a’r blaned.
Economeg – Mae’r rhan fwyaf o werth ein prif gynhyrchiant yn cael ei wireddu mewn mannau eraill. Mae hyn wedi cael effaith ddofn, yn enwedig yn yr economi wledig drwy golli gweithgarwch economaidd a swyddi gydag effeithiau canlyniadol difrifol i gymunedau o ran anghydraddoldeb, cydlyniant cymdeithasol a’r Gymraeg. Gallai’r buddion economaidd i’n cymunedau o adfer systemau bwyd lleol fod yn drawsnewidiol o ran cylchredeg cyfoeth ac adfywio ein cymunedau lleol.
Amgylcheddol – Nid yw’r system fwyd bresennol yn gynaliadwy nac yn wydn. Mae 48% o’r holl fwyd a ddefnyddir yn y DU yn cael ei fewnforio o bob cwr o’r byd. Mae hyn yn cynyddu allyriadau carbon ledled y byd, yn cyfrannu at ddatgoedwigo a llafur gorfodol ac yn ein gwneud yn fwy agored i effeithiau byd-eang.
Cymdeithasol – Mae gan Gymru ddyletswydd i genedlaethau’r dyfodol i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag iechyd. Mae cyfraddau gordewdra difrifol yng Nghymru yn ‘sylweddol uwch’ na gweddill y DU ac mae nifer y bobl nad ydynt yn gallu fforddio cost deiet iach wedi cynyddu ers y pandemig. Bydd hyn yn gwaethygu oherwydd yr argyfwng costau byw lle mae prisiau bwyd ac ynni wedi codi’n aruthrol.
Cyd-destun Polisi
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod sy’n cynrychioli’r weledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru. Mae angen bellach i gyrff cyhoeddus feddwl yn fwy am yr hirdymor, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, ceisio datrys problemau a defnyddio dull mwy cydlynol. Rhaid i gyrff cyhoeddus weithredu i sicrhau bod anghenion ar hyn o bryd yn cael eu bodloni heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain. Wrth wneud penderfyniadau, mae angen i gyrff cyhoeddus sicrhau eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol yn nodi’r hyn y bydd llywodraeth y DU yn ei wneud i greu sector bwyd mwy llewyrchus, amaeth sy’n darparu deietau iachach, mwy cynaliadwy a fforddiadwy i bawb.
Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prydau ysgol am ddim i bob plentyn o oedran ysgol gynradd a fydd yn sicrhau bod plant yn cael pryd o fwyd iach bob dydd. Yn ogystal, mae Bil Bwyd (Cymru) newydd wedi ennill cefnogaeth y Senedd yn ddiweddar i fwrw ymlaen â hyrwyddo’r achos dros y Bil mewn egwyddor, a’i nod yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy. Mae’r rhain hefyd yn cyd-fynd ag ysgogwyr pwysig eraill sy’n sbarduno newid fel y Bil Amaethyddiaeth, y Strategaeth Bwyd Cymunedol , a ffocws newydd ar yr economi sylfaenol.
Yr Her
Mae Cyngor Caerdydd, ar y cyd â Chyngor Sir Fynwy, yn ceisio nodi a chefnogi prosiectau i ddatblygu atebion arloesol a all wella’n sylweddol y broses o gynhyrchu a chyflenwi bwyd yn gynaliadwy. Mae’r Her yn chwilio am ymgeiswyr i harneisio potensial tir, technoleg a phobl i gynyddu cynhyrchiant a chyflenwad cynaliadwy o fwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r Her yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos yn glir:
- Problem 1: sut y byddant yn cynyddu’r gwaith o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn y rhanbarth ac yn creu effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol.
- Problem 2: sut y byddant yn cyflenwi mwy o fwyd maethlon, wedi’i dyfu’n lleol wrth sicrhau pris teg i gynhyrchwyr a lles cenedlaethau’r dyfodol.
Mae gennym ddiddordeb mewn derbyn ceisiadau sy’n mynd i’r afael â’r ddwy broblem a byddem yn annog partneriaethau rhwng ymgeiswyr i wireddu hyn. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn ystyried atebion sy’n mynd i’r afael ag un o’r problemau os yw’n amlwg wedi ei gyfiawnhau a’i gefnogi gan dystiolaeth gadarn i fod yn ddatrysiad arloesol a phragmatig.
Mae gennym ddiddordeb mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac atebion cadwyn gyflenwi y gellir eu rhoi ar waith yn y sector cyhoeddus (e.e. darparu prydau ysgol, prydau’r GIG), y sector preifat a’r trydydd sector i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachol.
Sut gall atebion helpu gyda’r heriau hyn?
Credwn y gallai atebion arloesol:
- Hwyluso cyfleoedd i gael bwyd iach, maethlon;
- Darparu bwyd o ansawdd gwell a fydd yn gwella iechyd a lles dinasyddion yng Nghymru;
- Creu cadwyni cyflenwi bwyd mwy gwydn sy’n canolbwyntio ar bartneriaethau mwy agored a theg;
- Gwella galluoedd drwy’r gadwyn gyflenwi fel bod y sector yn darparu cynnyrch cystadleuol a chynaliadwy sy’n diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol;
- Creu effeithlonrwydd cadwyn gyflenwi effeithlon y gellid ei ddehongli y tu hwnt i gost a budd economaidd i gynnwys ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol;
- Cefnogi datblygu economaidd sy’n seiliedig ar leoedd ac adeiladu cyfoeth lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
- Diogelu, a lle bo modd gwella, iechyd y pridd, ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth.
Targedau a Mesuriadau Llwyddiant yr Her
Dylai ymgeiswyr ystyried targedau a metrigau’r Her wrth gynnig eu hatebion. Rydym yn gwerthfawrogi na all rhai atebion gyfrannu at yr holl fetrigau sy’n fanwl, fodd bynnag, dylai ymgeiswyr allu dangos y gallu i gyfrannu at y targed yn glir:
Targed Problem 1 – Erbyn 2025, byddwn wedi cynyddu cynhyrchiant bwyd iach, carbon isel gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau tyfu arloesol. Byddwn wedi gwella mynediad i adnoddau tir i gefnogi cynhyrchu a chynyddu’r defnydd o fwyd lleol.
Mesuriadau
- Cynnydd mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy lleol;
- Cynnydd yn y defnydd o dir ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn y Rhanbarth;
- Cynnydd mewn cyflogaeth sy’n gysylltiedig â bwyd a fydd yn talu o leiaf yr isafswm cyflog Cenedlaethol;.
Targed Problem 2 – Erbyn 2025, bydd gennym gyflenwad uwch o fwyd maethlon, wedi’i dyfu’n lleol.
Mesuriadau
- Cynnydd mewn bwyd o ffynonellau lleol;
- Cynnydd yn nifer y bwyd a dyfir yn lleol sy’n cael ei gyrchu a’i ddosbarthu gan gyfanwerthwyr;
- Cynnydd yn nifer y cadwyni cyflenwi bwyd byr;
- Cynnydd yn y cyfleoedd i dyfwyr/busnesau bach a chanolig gyflenwi’r ‘Plât Cyhoeddus’;
- Gostyngiad mewn gwastraff bwyd a ddangosir gan fodelau cyflenwi a galw gwell.
Sylwer:
1) Byddai unrhyw fabwysiadu a gweithredu datrysiad o’r gystadleuaeth hon yn destun ymarfer caffael ar wahân, o bosib yn gystadleuol. Nid yw’r gystadleuaeth hon yn ymdrin â phrynu unrhyw ateb er y gallwn ddewis ymchwilio ac archwilio llwybrau caffael arloesol fel rhan o’r her hon.
|
Y Tu Allan i’r Cwmpas
- Technegau dadansoddol.
- Bwydydd carbon uchel.
- Bwyd wedi’i brosesu’n fawr.
- Bwyd a gynhyrchir yn bennaf ar gyfer y farchnad allforio ac ni ellir ei ddefnyddio i’w ddefnyddio’n lleol.
Manylion Dyrannu Cyllid a Phrosiectau
Cynhelir y gystadleuaeth mewn tri cham (yn amodol ar atebion ymarferol yn dod o gamau cynharach). Caiff ceisiau eu hasesu gan ddefnyddio’r meini prawf cymhwyso a roddir yn y dogfennau tendro.
- Bwriedir i Gam 1 ddangos dichonoldeb y cysyniad arfaethedig. Bydd contractau datblygu yn para am 4 mis ac yn werth hyd at £50,000 (gan gynnwys TAW) fesul prosiect. Rhagwelir y bydd hyd at 8 astudiaeth dichonoldeb yn cael eu cyllido. Bydd nifer derfynol y prosiectau a ddyfernir yn dibynnu ar ansawdd y ceisiadau.
Deilliant:
Cynhyrchu astudiaeth ddichonoldeb Cam 1 sy’n:
- Mynd i’r afael â thargedau a metrigau’r Her (gweler Targedau her a mesuriadau llwyddiant);
- Yn cynnwys adroddiad ymchwil i’r farchnad sy’n nodi cyfleoedd i gynyddu’r arloesedd yng Ngham 2 a 3 ymhellach;
- Nodi’r effeithiau negyddol posibl, yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol (cymdeithasol, amgylcheddol & economaidd) o gynyddu cynhyrchiant ac yn nodi opsiynau lliniaru i leihau unrhyw effeithiau negyddol;
- Nodi safleoedd profi neu bartneriaid yng Nghymru ar gyfer cam Arddangoswr Cam 2 gan ganiatáu i ymgeiswyr brofi’r ateb, ac
- Yn ystyried o leiaf ddau opsiwn cyflenwi a chyllidebau ar gyfer Cam 2 a 3 ar gyfer eich ateb. Bydd hyn yn galluogi i gronfa Her ystyried un datrysiad neu fwy yng Ngham 2 a 3.
- Bwriedir i gontractau Cam 2 ddatblygu a gwerthuso prototeipiau o gynigion arddangos o blith yr atebion mwy addawol a nodwyd yng Ngham 1, a rhagwelir y bydd prosiectau’n rhedeg am 12 mis. Dim ond y prosiectau hynny sydd wedi cwblhau Cam 1 yn llwyddiannus a fydd yn gymwys i wneud cais am Gam 2. Neilltuwyd tua £800,000 (gan gynnwys TAW) o gyllid i’r cam hwn a gellir ei ddyfarnu i un neu fwy o brosiectau. Bydd dyraniad terfynol y gyllideb i brosiectau yn anodd ei ragweld ar hyn o bryd felly bydd angen i ymgeiswyr ystyried ystod o opsiynau cyflenwi a chyllidebau yn eu cynigion.
- Bwriad contractau Cam 3 yw darparu sefydliadau, sy’n llwyddiannus yng ngham 2, gyda chyfle i gynyddu eu datrysiadau arloesol, a rhagwelir y bydd prosiectau’n rhedeg am uchafswm o 12 mis. Neilltuwyd tua £800,000 (gan gynnwys TAW) o gyllid i’r cam hwn a gellir ei ddyfarnu i un neu fwy o Unwaith eto, bydd dyraniad terfynol y gyllideb i brosiectau yn anodd ei ragweld ar hyn o bryd felly bydd angen i ymgeiswyr ystyried ystod o opsiynau a chyllidebau cyflenwi yn eu cynigion.
- Gall cyfanswm yr arian ar gyfer yr Her newid ac mae gan y cyllidwyr yr hawl i:
- Addasu’r dyraniad cyllid dros dro rhwng y Cyfnodau, a
- Defnyddio dull portffolio.
Sylwer:
· Mae caffael pob un o’r 3 Cam yn amodol ar gyllid grant. Mae cyllid presennol y Gronfa Her wedi ei sefydlu tan fis Mawrth 2024, ond fe fydd hynny’n cael ei adolygu a gobeithio ei ymestyn yn yr Hydref 2022. Felly, mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i derfynu’r contract a/neu beidio mynd ymlaen i gam nesaf y prosiect os na chafwyd cymeradwyaeth i barhau â’r Gronfa Her y tu hwnt i fis Mawrth 2024. · Mae’r caffaeliad yn seiliedig ar gyllid grant a cheidw’r cyngor yr hawl i beidio â dyfarnu a/neu beidio â bwrw ymlaen â’r caffaeliad. · Ceidw’r cyngor yr hawl i derfynu’r contract a/neu beidio â symud i’r cam nesaf os caiff y grant ei dynnu’n ôl, ei leihau, ei ad-hawlio neu ei gadw’n ôl. · Mae gan y Cyngor yr hawl i adhawlio, cadw’n ôl neu/a thynnu’n ôl yn yr un amgylchiadau â’r amodau grant (y cyfeirir atynt uchod) · Bydd gofyn i’r sawl sy’n derbyn contract(au) Cam 3 adrodd am yr effaith gwirioneddol drwy gydol oes y prosiect a bydd yn ofynnol iddynt gymryd rhan mewn monitro a gwerthuso ar ôl y prosiect gyda Chyngor Caerdydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru am o leiaf 2 flynedd ar ôl cwblhau’r prosiect.
|
Dyddiadai allweddol – gall y rhain fod yn destun newid
Lansio’r gystadleuaeth | 30/09/2022 |
Digwyddiad Gwybodaeth
Cyfarfodydd anffurfiol Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (cyfnod dichonoldeb) |
18/10/2022
27/10/2022 |
Asesiad | 02/12/2022 |
Contractau a ddyfarnwyd (cyfnod dichonoldeb)
Cam 1 yn dechrau |
09/01/2023
23/01/23 |
Contractau wedi’u cwblhau (dichonoldeb) | 31/05/2023 |
Cam 2 (Arddangoswr) | Gorffennaf 2023 i Gorffennaf 2024 |
Cam 3 (Graddfa i fyny) | Medi 2024 i Medi 2025 |
Gwybodaeth Ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y gystadleuaeth hon, e-bostiwch:
Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.