Sut gallwn ni ddarparu cefnogaeth ddigidol o gwmpas ymyriad ac atal cynnar i blant a phobl ifanc rhwng 8-11 oed i feithrin gwytnwch yn eu hiechyd a’u lles emosiynol?
Mae iechyd a lles emosiynol ar agenda pawb. Mae mwy o blant a phobl ifanc yn profi iechyd meddwl a lles emosiynol gwael gan gynnwys lefelau cynyddol o bryder, iselder a hunan niweidio. Mae’r galw am gefnogaeth yn cynyddu ar draws bob sector gwasanaeth ac er gwaethaf ymdrechion pawb, mae gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc ar hyn o bryd yn amrywio’n fawr ar draws Gogledd Cymru. Nid yw llwybrau gofal bob amser yn glir, ac nid yw cyfeiriadau at wasanaethau bob amser yn briodol.
Bydd y ffrwd gwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol (rhan o’r Rhaglen Trawsnewid Plant a Phobl Ifanc yng Ngogledd Cymru) yn datblygu fframwaith a fydd yn:
- Cwmpasu’r ‘Pum Ffordd at Lesiant’
- Yn ddwyieithog, yn unol â deddf yr Iaith Gymraeg
- Yn tanategu datblygiad adnoddau
- Cael ei fapio yn erbyn cerrig milltir datblygiadol plant 8-11 oed
- Yn canolbwyntio ar ymyriad cynnar i blant a’u teuluoedd
Yr her SBRI yw i benderfynu ar y dull digidol mwyaf effeithiol i sicrhau bod cynnwys y fframwaith yn hygyrch i ddefnyddwyr sy’n cynnwys y plentyn / unigolyn ifanc, rhiant/gofalwr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, a bydd yn cael ei gynnal ar sail barhaus. Bydd cynnwys y fframwaith yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymarfer, ac yn cael ei arwain gan y rhai sy’n gweithio ym meysydd iechyd meddwl, addysg a gofal cymdeithasol.
Byddai datrysiad angen ystyried y canlynol:
- Hunan gymorth dan arweiniad i blant a’u teuluoedd
- Profiadau gwahanol sy’n gyffrous a deniadol i ddefnyddwyr yn dibynnu pwy ydynt e.e. plant, rhieni, gweithwyr proffesiynol
- Hawdd eu llywio
- Angen dangos gallu dwyieithog ar gyfer cam 2
- Addasadwy (e.e. brandio ar gyfer plant 8-11 oed a ganddynt)
- Gellir ei gynnal gan ddefnyddwyr perthnasol (e.e. diweddaru cynnwys)
- Gallu addasu a thyfu
- Yn fforddiadwy, dangos gwerth am arian
- Gallu dadansoddi defnydd
Bydd her SBRI yn agwedd ‘carlam’ 2 Gam sydd wedi’i fanylu isod, i’w gwblhau erbyn diwedd Ionawr 2022.
Strwythur yr Her:
Cam 1
Ymarferoldeb ac Arddangoswr – Rydym yn edrych i ariannu hyd at bedwar prosiect hyd at £10,000.00 yr un, yn cynnwys TAW, i’w cyflwyno dros gyfnod o 2 fis. Oherwydd natur gyflym y prosiect, byddai’r datrysiadau ar ddiwedd y cam hwn ar ffurf prototeip yn barod i’w arddangos yn y cam nesaf.
Cam 2
Datblygu a Phrofi – Fe all y prosiectau mwyaf addawol yng Ngham 1 gael y cyfle i gael mynediad at gyllid ychwanegol i gael eu datblygu ymhellach a phrofion cadarn. Gall ymgeiswyr llwyddiannus geisio am gyfran o £40,000.00 yn cynnwys TAW, gyda’r bwriad o ddatblygu dau brosiect Cam 1 (£20,000 yr un) i ddarparu sicrwydd, dilysiad a phrawf bychan o gysyniad. Dylai’r datrysiad ar ddiwedd y cam hwn fod yn fasnachol ymarferol ac yn barod i’w brynu.
Dyddiadau Allweddol:
Carreg filltir | Dyddiadau allweddol ** gallant newid |
Lansiad yr Her | 2 Awst 2021 |
Digwyddiad briffio | Wythnos yn dechrau 16 Awst 2021 |
Dyddiad cau | 31 Awst 2021 |
Cyfarfod â chyflenwyr
Bydd y Bwrdd yn sgorio ceisiadau 1-5 |
Wythnos yn dechrau 6 Medi 2021 |
Gwobrwyo Cytundebau ar gyfer Cam 1 | 13 Medi 2021 |
Dechrau Cam 1 | 4 Hydref 2021 |
Dechrau Cam 2 | 29 Tachwedd 2021 |
Cau’r Prosiect | 24 Ionawr 2022 |
Digwyddiad Briffio
Dilynwch y ddolen isod i gofrestru eich diddordeb ar gyfer y Digwyddiad Briffio.
Manylion a ychwanegwyd yn fuan
GWYBODAETH BELLACH
Am fwy o wybodaeth ar y gystadleuaeth hon, ewch i: https://sdi.click/ehwr
Am unrhyw ymholiadau ynghylch y gystadleuaeth, e-bostiwch: [email protected]
Mae’r gystadleuaeth hon wedi dod i ben.