Syt y gallwn ni help

Digwyddiadau Anghenion heb eu Bodloni

Gall ein tîm cyfeillgar ddod i siarad â chi am yr heriau rydych chi fel gwasanaeth yn eu hwynebu, a’r effaith y mae hyn yn ei gael arnoch chi a’ch cwsmeriaid/rhanddeiliaid. Gallwn weithio gyda chi yn unigol neu fel grŵp mwy, a gallwn wneud hyn wyneb yn wyneb neu o bell. Gallwn eich cysylltu ag unigolion o’r un anian â chi ar draws y sector cyhoeddus sydd hefyd yn wynebu problemau tebyg yn yr un maes.

Y Broses Ymgeisio

Gallwn eich cynorthwyo i ysgrifennu eich cais a’ch cefnogi drwy’r broses. Mae gennym brofiad o ysgrifennu cynigion llwyddiannus i Gontractau ar gyfer Arloesi a gallwn eich helpu i wynebu’r heriau, gan roi ambell awgrym a chyngor i chi. Yn ogystal, gallwn fod yn ffrind beirniadol wrth i ni adolygu eich cais ar ôl i chi ei gwblhau, gan roi adborth adeiladol i chi cyn ei gyflwyno’n derfynol.

I Fusnesau, gallwn eich cynorthwyo yn y broses ymgeisio, ond byddwn yn rhoi adborth adeiladol i chi ar eich ceisiadau os na fyddwch yn llwyddiannus er mwyn helpu i wella eich siawns o lwyddo yn y dyfodol.

Rheoli Prosiect

Rydym yn cydnabod bod gan sefydliadau a thimau’r Sector Cyhoeddus swyddi prysur iawn. Mae gennym brofiad o gyflawni prosiectau Contractau ar gyfer Arloesi a gallwn reoli’r rhain i chi am ddim os oes angen.

Mentora

Ar gyfer y rhai hynny ohonoch sydd eisiau rheoli eich prosiect Contractau ar gyfer Arloesi eich hun, gallwn ddarparu cefnogaeth mentora i’ch helpu drwy’r broses, cyn lleied neu po fwyaf ag y dymunwch. Mae gennym becyn cymorth a chyfres o ddogfennau y gallwn eu rhannu â chi fel y gallwch eu teilwra i gyd-fynd â’ch prosiect a’ch sefydliad.

Hyfforddiant Cymwysterau

Rydym yn cynnig cymwysterau mewn Rheoli Prosiect, megis PRINCE2 ac Agile. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr holl gyrsiau, cysylltwch â’r tîm.

Cyfeirio

Os na allwn eich helpu gyda’ch heriau gan nad ydynt yn dod o dan y Rhaglen Contractau ar gyfer Arloesi, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cyfeirio at dimau arloesi eraill a’n sefydliadau partner a allai fod o gymorth.